GDG 151, BDG cxxiv
Cynghanedd: Sain, 20 ll. (30%); Traws 26 ll. (39%); Croes 15 ll. (23%); Llusg 5 ll. (8%).
Ceir y cywydd hwn yn yr un llawysgrifau â'r cywyddau blaenorol, ac mae'r llawysgrifau yn ymrannu yn yr un modd. Gellir gweld dau draddodiad llawysgrifol: Llywelyn Siôn, a'r llawysgrifau cynnar eraill (traddodiad y Vetustus yn bennaf), ac mae gwahanol gwpledi yn y ddau draddodiad. Mae cyfres o 5 cwpled yn ymddangos gyda'i gilydd yng nghanol y gerdd yn llawysgrifau Llywelyn Siôn (ll. 27–36 yma), ac nid yw'r cwpledi hyn yn ymddangos yn y llawysgrifau eraill. Fodd bynnag, mae pum cwpled ychwanegol, sydd ddim gan Lywelyn Siôn, yn ymddangos ar wasgar yn y gerdd yn y llawysgrifau cynnar eraill (ll. 19–20, 39–40, 45–46, 49–50, gw. isod, ac un cwpled arall sydd yn Rhif 30, 45–46). Nid oes sail i wrthod yr un o'r llinellau ychwanegol yma, ac fe gynhwysodd Parry y cyfan ohonynt yn ei olygiad, ynghyd ag un cwpled ychwanegol o'r cywydd blaenorol — gw. nodyn 42 isod.
1. ponid Llawysgrifau Llywelyn Siôn; ffurf amrywiol ar yr un gair yw pan nad (= panad ) C 7 a M 212 (gw. GPC 2848), ond ceir. pam nad yn CM 5, H 26, C 5 a M 160.
3. annod ynni Dyma'r darlleniad a geir yn llawysgrifau'r Vetustus, CM 5, a C 5, ac mae'n ddarlleniad anos na amod ymi a geir gan Lywelyn Siôn a WD.
9. dy fryd Mae darlleniad llsgrau Llywelyn Siôn, fy mryd , yn anfoddhaol o ran ystyr a chynghanedd. Nid yw'r cwpled hwn yn C 5.
11. Mae llinell debyg iawn i hon yn ymddangos yn yr un cywydd: gw. ll. 63.
14. Mae'n debyg bod y copïwyr wedi cael trafferth gyda'r llinell hon. Mae darlleniadau gwahanol yn y ddau gopi o'r Vetustus: aml am ras yw, aml am radd sydd yn H 26, ac aml am ras amyl am radd sydd yn M 212, darlleniad sy'n cael ei rannu â C 7, ac sydd yn fyr o sillaf oni bai bod amyl yn ddeusill. Mae'n debyg felly mai llinell chwesill a geid yn y Vetustus. Gwelir ymgais arall i gywiro'r un llinell yn CM 5, aml am ras a mawl am radd .Aml am fawl nefawl nadd sydd yn M160, sy'n hollol wahanol ac yn newid ystyr y llinell. Diwygiodd Thomas Parry y llinell i mul am radd , ond mae modd cael synnwyr boddhaol o fersiwn Llywelyn Siôn trwy gymryd hanner cyntaf y llinell fel sangiad.
17. unbardd C 5, ac hefyd Llywelyn Siôn, ond mae Llywelyn Siôn wedi treiglo: vn vardd . Vn gwr sydd yn H 26, M 212, a C 7, ac vnbenn sydd yn M160.
oerwr enbyd H 26, M 212, CM 5 a C 5. Oerwr wryd sydd yn C 7. Over ynfyd sydd gan Lywelyn Siôn (cymh. 30 isod), ond gan ei fod wedi treiglo vn vardd , roedd rhaid iddo addasu'r llinell ar gyfer y gynghanedd. C 5 a ddilynir ar gyfer y llinell hon, felly, gan mai dyma'r unig lawysgrif sy'n rhoi darlleniad derbyniol ar gyfer y llinell gyfan.
18. ym myd Mae hyn yn seiliedig ar H 26, ymyd ; fy myd sydd yn y mwyafrif o'r llawysgrifau, gan gynnwys Llywelyn Siôn.
19–20. Ceir y cwpled yma ym mhob llawysgrif gynnar ond rhai Llywelyn Siôn; yn llawysgrifau Llywelyn Siôn mae'n ymddangos fel ail gwpled y cywydd nesaf, rhif 28.
22. fynnych fersiwn y Vetustus, M 160, CM 5. Fyni sydd yn C 5, ond chwenychv sydd yn llawysgrifau Llywelyn Siôn, heb yr ym ar ddechrau'r llinell. Mae'r modd dibynnol yn addas mewn cwestiwn anuniongyrchol: gw. GMW 174 am enghreifftiau.
25. Ymdonnog C 7, CM 5, a C 5. Ymdoniog a geir gan Lywelyn Siôn. Defnyddir y gair yn yr ystyr 'ystyfnig, gwrthnysig' (GPC 3521).
26. tros dân Roedd gornestau yn ymwneud â thân yn arwydd o ddewrder fel arfer (Welsh Folklore and Custom , 127), ac mae'n bosib bod yna arferiad o dynnu rhaff dros dân yng Nghymru. Arferai'r Llychlynwyr dynnu croen anifail dros bwll o dân fel sbort.
27–36. Llawysgrifau Llywelyn Siôn yw'r unig rai cynnar sy'n cynnwys y llinellau hyn, ond fe'u ceir hefyd yn BL 14876 a BL 15059, y ddwy lsgr. o'r ddeunawfed ganrif. Nid oes llawer o amrywiaeth yn y darlleniadau. Maent oll yn edrych yn ddilys, a derbyniwyd hwy gan Thomas Parry.
33. A llwydd Allwydd (ffurf amrywiol ar allwedd ) sydd yn GDG, ond noda Parry y gellid darllen a llwydd . Yr ergyd yw y daw llwyddiant i unrhyw un sy'n cystadlu yn erbyn Dafydd gan nad yw'n fardd da.
36. aneuog Anniog sydd yn GDG, ond o'r llawysgrifau cynnar, Llywelyn Siôn yn unig sy'n cynnig y llinell, ac an auog sydd ganddo. Dilynodd Parry BL 14876 a BL 15059, dwy lawysgrif ddiweddar, sy'n rhoi aniawg . Roedd Gruffudd yn ffyddiog y byddai'n ennill yr ornest gan fod gyfiawnder o'i blaid.
37. diennig Llywelyn Siôn. Ceir gwyr dinag yn H 26, M 212, C 7, CM 5 a M160, ond darlleniad Llywelyn Siôn yw'r un anos, yn golygu 'bywiog, eiddgar', gw. GPC 974.
39–40. Ni cheir y cwpled hwn gan Lywelyn Siôn.
42. Symudodd Thomas Parry gwpled o'r cywydd blaenorol yma, 26.43–44. Nid oes sail lawysgrifol dros symud y cwpled, ac felly fe'i cedwir yn ei briod le yn rhif 26.
45–46. Ni cheir y cwpled hwn gan Lywelyn Siôn.
48. Dyddgu gwrthrych cerddi 86—92.
49–50. Ni cheir y cwpled hwn gan Lywelyn Siôn.
50. Gweirful Cariad Gruffudd Gryg, cymh. 29.1. Nid oes cyfeiriadau ati yng ngherddi Gruffudd Gryg, ond fe gyfeirir at Weirful o Wynedd yn un arall o gerddi Dafydd ap Gwilym, 144.44.
59. newyddfawr newidiawr sydd gan Lywelyn Siôn, a allai fod yn cyfystyr â newidiwr , ond ni wyddys am enghraifft arall o'r gair, felly gwell yw dilyn y llsgrau eraill.
60. byth aeth sydd gan Lywelyn Siôn, ac eto, mae darlleniad y llawysgrifau eraill yn gwneud mwy o synnwyr.
Mae trefn llawysgrifau Llywelyn Siôn yn wahanol yma, gan ei fod yn rhoi'r cwpled sy'n cloi'r cywydd yn y llawysgrifau eraill yn y canol, yn dilyn ll 60. Hefyd, ceir cwpled yn y llawysgrifau cynnar eraill sy'n ymddangos mewn cywydd arall o'r Ymryson gan Lywelyn Siôn: gw. 30.44.
66. Rhys Meigen Bardd y canodd Dafydd awdl ddychan giaidd iddo (rhif 31). Yn ôl y traddodiad, bu i Rys ddisgyn yn farw wedi i Ddafydd adrodd y gerdd iddo. Dywedir mai ymateb i englyn gan Rys yn honni iddo gael cyfathrach rywiol â mam Dafydd oedd yr awdl ddychan, ond nid ymddengys i'r hanes atal yr ymrysonwyr: yn y ddau gywydd olaf, mae Gruffudd a Dafydd yn honni iddynt gael cyfathrach â mam y llall, a chenhedlu'r bardd arall.