Gruffyth Gryg i Dd. ap Glm
1 Dafydd pam nad edifar
2 dyfu yr hyn a fu o fâr
3 rhoed athrod ammod imi
4 rhoed Duw mawr i rôd imi
5 [6vb] Credaist ef croyw dyst ofer
6 Crediad yw a glyw y glêr
7 dwy och ym om dychymmig
8 om dawr i ddigoni dig
9 mawr yw genyd dy fryd fry
10 mwyfwy dy sôn a myfi
11 a bychan a rybuchud
12 ym o gerdd rym agwrdd ddrud
13 amlwg dy chwant i ymladd
14 aml am ras amal am radd
15 om nwyf nad arhowyf yr haf
16 a chael y mun o chiliaf
17 er unfardd ofer ynfyd
18 droedfedd na modfedd fy myd
19 mawr dy sôn am ddigoni
20 meddyt dewr yt oeddit ti
21 Dewis Dafydd ai dowaid
22 ym beth a fynnych neu baid
23 ai ymsang wr eang wg
24 am rodd ai ymladd amlwg
25 ai ymdoniog ymdynnu
26 tros dân wr tyrhaus du
27 o soraist od wit sarug
28 os aml dy fful syml dy ffug
29 dod yman bwhwman byd
30 dy anfodd wr du ynfyd
31 mae Rhental mi a wrantwn
32 ar led dy gwgwll twll twn
33 allwydd yngwydd llu ddengwa[ ]
34 ymbrofi a thi oth iaith
35 mi mys o gorph na orphwyf
36 no o gerdd aniawg wyf
37 down i gid gwyr dinag ym
38 a dau gledd odidowglym
39 [7ra] Prifiwn dyst profwn ein dau
40 pa wr ymrwydr pwy orau
41 Dafydd o beiddir dyfod
42 a main gledd o mynni glod
43 duw a ran rhwng dwy angerdd
44 dyred i'r cyrch daradr cerdd
45 aed i ddiawl dragwyddawl dro
46 iw galon fefl a gilio
47 trwch iawn ith farnaf Dafydd
48 am drisdau ddyddgu or dydd
49 di drwch wy ffieiddwy ffo
50 didrist weirfyl om didro
51 gwae ddyddgu ddyn gweddeiddgall
52 [ ]wyn i fyd weirfyl ni wyl wall
53 llew ydwy'n rhwysg llo ydwyt
54 cyw eryr wy cyw Iâr wyt
55 a dewr ydwyf a diriaid
56 a rhwysg bonheddig yn rhaid
57 a cherdd ben y sy gennyf
58 a chryg im galwant a chryf
59 a thrawaf heb Athrywyn
60 a min ynghledd dannedd dyn
61 bychan iawn o bybuched
62 a gair genyfi o ged
63 ag nim dawr newidfawr nwyf
64 byth yn ôl beth a wnelwyf
69 anodd i brydydd unig
70 yn wrdd a dyn agwrdd dig
65 medra bwyll a mydr o ben
66 mogel nid fi Rhys meigen
Gryffydd Gryg ai cant