â â â Trydydd Cywydd Ymryson Dafydd ap Gwilym
1â â â Gruffudd Gryg, ddirmyg ddarmerth,
2â â â Grugiar y gerdd, somgar serth,
3â â â Mefl ar dy farf yn Arfon,
4â â â Ac ar dy wefl mefl ym Môn.
5â â â Doeth wyd, da fu Duw â thi,
6â â â Dan nyddu gwddf, dy noddi.
7â â â Dianc rhag clêr yn eres
8â â â Ydd wyd, taw lysfwyd di-les.
9â â â Rhyw elyn beirdd, rhy olud,
10â â â Rhywola dy draha drud.
11â â â Ffraeth arfaeth, erfain haerllug,
12â â â Ffrwyna, diffygia dy ffug.
13â â â Gwahawdd nawdd, nyddig fuost,
14â â â Gwahardd, du fastardd, dy fost.
15â â â Gwae di na elly'n hy hyn,
16â â â Gwadu'r cwpl, gwe adrcopyn,
17â â â Am ddeugyw, amau ddigawn,
18â â â Eryr a iâr, oerwr iawn.
19â â â Gair o gamryfyg erwyr,
20â â â Garw dy gerdd, y gwr du gwyr.
21â â â Diwyl dy hwyl i hoywlys,
22â â â Dielw ddyn, dy alw ydd ys
23â â â Draenen gwawd, druenyn gwedd,
24â â â Neu eithinen iaith Wynedd.
25â â â A chadw cam, o chydcemir
26â â â Â thi ar fordwy a thir,
27â â â Daith draws, ni wnei dithau draw
28â â â Amgenach nag ymgeiniaw.
29â â â Hy fydd pawb, dan hoywfodd perth,
30â â â Yn absen, ofn wynebserth.
31â â â Trafferth flin yw yt, Ruffudd,
32â â â Chwyrn braw, od â'r chwarae'n brudd.
33â â â Cystal wyf, cas dilewfoes,
34â â â I'th wlad di â thi i'th oes;
35â â â Gwell na thi, gwall a'th ddyun,
36â â â Glud fy hawl, i'm gwlad fy hun.
37â â â Af i Wynedd, amlwledd ym,
38â â â Ar dy dor, wr du dirym.
39â â â Os cadarn dy farn arnaf,
40â â â Main ac aur ym Môn a gaf.
41â â â Tithau, o'r lle'th amheuir
42â â â O doi di i'r Deau dir,
43â â â Ti fydd, cytbar fâr y farn,
44â â â Broch yng nghod, braich anghadarn.
45â â â Lle clywyf, heb loywnwyf blyg,
46â â â Air hagr o'th gerdd, wr hygryg,
47â â â Talu a wnaf, leiaf ludd,
48â â â Triphwyth o wawd yt, Ruffudd.
49â â â Ni bydd yn unfarn arnaf,
50â â â O beiwyf hyn, ni bwyf haf,
51â â â Na'th ofn, ni thyfaist annerch,
52â â â Na'th garu, nes haeddu serch.
53â â â Da y gwn, mwynwiw gystlwn Menw,
54â â â Ditanu nad wyt unenw
55â â â Â MeigenRhys meginrhefr,
56â â â Magl bloneg, heb ofeg befr.
57â â â Mawl ni bu mal y buost,
58â â â 'Mogel di fod, mwygl dy fost,
59â â â Yn Rhys wyrfarw, rhus arfer,
60â â â A las â gwawd, lun als gwêr.
61â â â I'r tau dithau, da y deuthum,
62â â â Sarhäed fydd; saer hoed fûm.