Trydydd Cywydd Ymryson Dafydd ap Gwilym
Gruffudd Gryg, darpariaeth o wawd,
iâr goch y gerdd, twyllodrus a sarrug,
cywilydd ar dy farf yn Arfon,
4 ac ar dy wefus cywilydd ym Môn.
Rwyt yn ddoeth, bu Duw'n dda wrthyt,
yn dy noddi wrth droi dy wddw.
Ffoi rhag beirdd ofer yn rhyfeddol
8 yr wyt, cau hi, y bwyd gwrthodedig diwerth.
Rhyw elyn i feirdd, taer iawn,
rheola dy haerllugrwydd ffôl.
Bwriad digywilydd, hy a haerllug,
12 ffrwyna, dyro'r gorau i'th gelwydd.
Un yn gwahodd cefnogaeth, buost yn oriog,
dyro'r gorau i dy frolio, y bastard du.
Gwae di na elli di wneud hyn yn hy,
16 [sef] gwadu'r cwpled, gwe pry copyn,
[a ddywedaist] am ddau gyw, digon amheus,
eryr a iâr, y dihiryn gwael.
Gair o ryfyg anghyfiawn ffals,
20 mae dy gerdd yn flêr, y dyn du gwyrdroëdig.
Aflawen yw dy hynt i lys gwych a llawen,
y dyn diddim, maent yn dy alw
yn ddraenen cerdd, un truenus ei olwg,
24 neu'n eithinen iaith [pobl] Gwynedd.
A chadw cam, os bydd cydgamu
gyda thi ar fôr ac ar dir,
daith flin, ni wnei dithau draw
28 ddim arall ond cecru.
Bydd pawb yn ddewr, dan gysgod braf y berth,
yn absen, ofn wyneb anfoesgar.
Trafferth gwael yw iti, Gruffudd,
32 prawf chwyrn, os â'r chwarae yn chwerw.
Rwyf cystal, atgas a llwfr dy ddull,
yn dy wlad di, â thithau yn dy oes [dy hun];
rwy'n well na thi, twyll sy'n dy uno,
36 rwy'n ddyfal fy hawliau, yn fy ngwlad fy hun.
Af i Wynedd, bydd nifer o wleddoedd i mi,
er dy waethaf, y dyn du heb rym.
Os cadarn yw dy farn ohonof,
40 caf emau ac aur ym Môn.
A thithau, o'r lle rwyt ti'n cael dy amau
os doi di i dir y de,
byddi di, gystadleuydd llidiog ei farn,
44 yn froch mewn cod, braich ansad.
Lle rwy'n clywed, heb blygu serch gloyw,
air hyll o'th gerdd, yr un sy'n atal dweud yn ddrwg,
fe dalaf [yn ôl], y gwaharddiad lleiaf,
48 tri phwyth o gerdd i ti, Ruffudd.
Ni fydd [pawb] yn gytûn eu barn ohonof,
os gwnaf gamgymeriad am hyn, ni fyddaf [yma] yn yr haf,
ac fydda i ddim dy ofn, wnest ti ddim creu anerchiad [da i mi],
52 nac yn dy garu, nes i ti haeddu [y serch] hynny.
Rwy'n gwybod yn iawn, un addfwyn a chyfiawn, perthynas i Fenw,
yr honiad nad wyt o'r un enw
â Rhys Meigen tin fegin,
56 y trap bloneg, heb leferydd clir.
Nid oedd mawl am y ffordd yr oeddet ti,
bydd yn ofalus rhag bod yn Rhys, claear yw dy frolio,
gwyrdröedig a marw, un sy'n arferol â chodi ofn,
60 a laddwyd â cherdd, dynion [golwg] gwddw gwêr.
Sarhad fydd hyn i'th enw di,
da y des i, lluniwr gofid fûm i.