Trydydd Cywydd Ymryson Dafydd ap Gwilym | |
Gruffudd Gryg, darpariaeth o wawd, | |
iâr goch y gerdd, twyllodrus a sarrug, | |
cywilydd ar dy farf yn Arfon, | |
4 | ac ar dy wefus cywilydd ym Môn. |
Rwyt yn ddoeth, bu Duw'n dda wrthyt, | |
yn dy noddi wrth droi dy wddw. | |
Ffoi rhag beirdd ofer yn rhyfeddol | |
8 | yr wyt, cau hi, y bwyd gwrthodedig diwerth. |
Rhyw elyn i feirdd, taer iawn, | |
rheola dy haerllugrwydd ffôl. | |
Bwriad digywilydd, hy a haerllug, | |
12 | ffrwyna, dyro'r gorau i'th gelwydd. |
Un yn gwahodd cefnogaeth, buost yn oriog, | |
dyro'r gorau i dy frolio, y bastard du. | |
Gwae di na elli di wneud hyn yn hy, | |
16 | [sef] gwadu'r cwpled, gwe pry copyn, |
[a ddywedaist] am ddau gyw, digon amheus, | |
eryr a iâr, y dihiryn gwael. | |
Gair o ryfyg anghyfiawn ffals, | |
20 | mae dy gerdd yn flêr, y dyn du gwyrdroëdig. |
Aflawen yw dy hynt i lys gwych a llawen, | |
y dyn diddim, maent yn dy alw | |
yn ddraenen cerdd, un truenus ei olwg, | |
24 | neu'n eithinen iaith [pobl] Gwynedd. |
A chadw cam, os bydd cydgamu | |
gyda thi ar fôr ac ar dir, | |
daith flin, ni wnei dithau draw | |
28 | ddim arall ond cecru. |
Bydd pawb yn ddewr, dan gysgod braf y berth, | |
yn absen, ofn wyneb anfoesgar. | |
Trafferth gwael yw iti, Gruffudd, | |
32 | prawf chwyrn, os â'r chwarae yn chwerw. |
Rwyf cystal, atgas a llwfr dy ddull, | |
yn dy wlad di, â thithau yn dy oes [dy hun]; | |
rwy'n well na thi, twyll sy'n dy uno, | |
36 | rwy'n ddyfal fy hawliau, yn fy ngwlad fy hun. |
Af i Wynedd, bydd nifer o wleddoedd i mi, | |
er dy waethaf, y dyn du heb rym. | |
Os cadarn yw dy farn ohonof, | |
40 | caf emau ac aur ym Môn. |
A thithau, o'r lle rwyt ti'n cael dy amau | |
os doi di i dir y de, | |
byddi di, gystadleuydd llidiog ei farn, | |
44 | yn froch mewn cod, braich ansad. |
Lle rwy'n clywed, heb blygu serch gloyw, | |
air hyll o'th gerdd, yr un sy'n atal dweud yn ddrwg, | |
fe dalaf [yn ôl], y gwaharddiad lleiaf, | |
48 | tri phwyth o gerdd i ti, Ruffudd. |
Ni fydd [pawb] yn gytûn eu barn ohonof, | |
os gwnaf gamgymeriad am hyn, ni fyddaf [yma] yn yr haf, | |
ac fydda i ddim dy ofn, wnest ti ddim creu anerchiad [da i mi], | |
52 | nac yn dy garu, nes i ti haeddu [y serch] hynny. |
Rwy'n gwybod yn iawn, un addfwyn a chyfiawn, perthynas i Fenw, | |
yr honiad nad wyt o'r un enw | |
â Rhys Meigen tin fegin, | |
56 | y trap bloneg, heb leferydd clir. |
Nid oedd mawl am y ffordd yr oeddet ti, | |
bydd yn ofalus rhag bod yn Rhys, claear yw dy frolio, | |
gwyrdröedig a marw, un sy'n arferol â chodi ofn, | |
60 | a laddwyd â cherdd, dynion [golwg] gwddw gwêr. |
Sarhad fydd hyn i'th enw di, | |
da y des i, lluniwr gofid fûm i. | |