1 Gruffyth gryc ddirmyc ddarmerth
2 grvgiar y gerdd somgar serth
3 mevyl ar dy faryf yn arvon
4 ag ar dy wefl mefl ymon
5 doyth wyf da fv ddvw a thi
6 dann nyddv gwddw dy noddi
7 diainck rhag kler yn eres
8 yr wyt tew layfvvyd dy les
9 Rvw elyn Beirdd ry olvd
10 Rwola dy draha drvd
11 ffraeth arvaeth ervain haerllvc
12 ffrwyna dyffygia dy ffvc
13 gwahawdd nawdd niddic vost
14 gwahardd di vastardd dy vost
15 gwae dy di na elli / n / hy hynn
16 gwadv / r / kwppwl gweadar koppyn
17 am y ddevgyw amav ddigawn
18 eryr ar iar oyrwr iawn
19 gair o gam ryvic erwyxr
20 garw dy gerdd y gwr dv gwyr
21 dixwyl dy hwyl i hoywlys
22 dielw ddyn dalw iddys
23 draenen gwawd drvenyn gwedd
24 Nev eithnien iaith wynedd
25 a chadw kam ochytkemir
26 a thi ar vardwy a thir
27 daith draws ni wnai dithev draw
28 Amgenach nag ymgeiniaw
29 hy vydd pawb dan hoywfodd perth
30 yn absen ofn wynebserth
45 lle i klywyf heb lownwyf blyg
46 air hagr oth gerdd wr hygryg
47 Talv a wnaf leiaf lvdd
48 Triffwyth o wawd yt ruffvdd
49 Ni bydd yn vn farn arnaf
50 O beiwyf hynn ni bwyf haf
51 Nath ofn in thybaist annerch
52 Nath garv nes havddv serch
37 Af i wynedd amlwledd ym
38 Ar dy dorr wr dv derwyn
39 os kadarn dy varn arnaf
40 Main ag avr y mon a gaf
41 Tithe or lle ith amhevir
42 O doi di ir deav dir
43 Ti vydd kytvar var varn
44 broch ynghod braich yanghadarn
33 kystal wyf kais dy loywvoes
34 ith wlad ti athi ith oes
35 gwell no thi gwall nith thyvvn
36 glvd fv hawl im gwlad fy hvn
31 Trafferth vlin yw yt Ruffvdd
32 Chwyrn braw o da / r / chware / n / brvdd
63 ystyr di Ruffvdd rvddlwm
64 vod blayn dy davod yn blwm
65 gennyd na ddaw / n / ddilestair
66 drvan gwr dravan y gair
67 Nad tissalw ond twyssaw
68 xxx [x?]gwr dall[?] wr draws ysgall draw
53 da i gwn mwyn wiw gystlwng menw
54 dittiannv nad wyt vnenw
55 A meigen Rys meginrevyr
56 mogel blonec heb ovec bevyr
57 mawl ni bv mal y bvost
58 mogel di fod mwygvl dy fost
59 yn Rys wyrvaw rvs arver
60 Alas a gwawd lvn alsgwer
61 Ir tav dithav da i devthym
62 syrhad vydd sayrhayd vum
dauid ap Gwilim ai kant