Dd ap Gm i Ruffudd Grug
1 Gruffydd gryg ddirmyg ddarmerth
2 grugiar y gerdd somgar serth
3 mefl ar dy farf yn arfon
4 ag ar dy wefl mefl y môn
5 doeth yw da fu dduw a thi
6 dan nyddu gwddw dy noddi
7 diangc rhag clêr yn eres
8 yr wyd diflaswyd dy les
9 rhiw elyn beirdd rhy olud
10 rhwola dy draha drud
11 ffraeth arfaeth erfain haerllug
12 ffrwyna diffygia dy ffug
13 gwahawdd nawdd nydding fuost
14 gwahardd di fasdardd dy fost
15 gwae dydi na elli yn hy hyn
16 gwadu'r cwpwl gwe adar copyn
17 am y ddeugyw y mae digawn
18 Eryr a iar oerwr iawn
19 gair o gam ryfyd arwyr
20 garw dy gerdd y gwr du gwyr
21 di wyl di hwyl di hoyw lys
22 di elw ddyn dy alw i ddys
23 draenen gawwd druenyn gwedd
24 neu Eithinen Iaith wynedd
25 a chadw cam o chytcemir
26 a thi ar fordwy a thir
27 daith draws ni wnei dithe draw
28 amgenach nag ymgeiniaw
29 hy fydd pawb da hoyw wydd perth
30 yn absen ofn wynebserth
31 lle clywf heb lownwyf blyg
32 air hagr oth gerdd hygryg
33 [7v] Talu a wnaf leiaf ludd
34 triffwyth o wawd it Ruffudd
35 ni bydd yn un farn arnaf
36 o beiwn hyn ni bwy haf
37 at ofn ni heiddaist annerch
38 nath garu nes heuddu serch
39 af i wynedd aml wledd yn
40 ar dy dor wr du derwyn
41 os cadarn dy farn arnaf
42 main ag aur ymon a gaf
43 tithau or lle ith amheuir
44 odai di ir Deau dir
45 ti fydd cytbar far y farn
46 broch ynghôd braich anghadarn
47 cystal wyf cais dy loewfoes
48 ith wlad ti a thi ith oes
49 gwell na thif gwall nith ddyfun
50 glud fy hawl im glwad fy hun
51 trafferth flin yw yt Ryffudd
52 chwyrn braw od a'r chware'n brudd
53 ystyr di Ruffudd Ruddlwm
54 fod blaen dy dafod yn blwm
55 gennyd na ddaw yn ddi lestair
56 druan gwr draean y gair
57 nad disalw ond tywysaw
58 gwr dall ar draws ysgall draw
59 da i gwn mwynwiw gysdlwn im enw
60 ditianu nad wit un enw
61 A meigen Rys megin refr
62 magyl blonec heb ovec befr
63 mawl o bu mal y buost
64 mogel di fôd mwygl dy fost
69 yn Rys wyrfaw ros arfer
70 a las a gwawd lun als gwer
65 ir tau dithau y doethum
66 syrhaed fu saer hoed fum
Dafydd ap Gwilim ai cant