â â â Pedwerydd Cywydd Ymryson Gruffudd Gryg
1â â â Gweirful, wawr eddyl ryddoeth,
2â â â Gwae fi fod, cydwybod coeth,
3â â â Yn rhaid ym, yn rhyw dymawr,
4â â â Oedi dy wawd; ydwyd wawr.
5â â â Aml yt o'm tafawd wawdair,
6â â â A maint y'th garwn, myn Mair!
7â â â Medrai gongl, mae drwg angel
8â â â Yn llestair cerdd, llaester cêl:
9â â â Dafydd eiddil ap Gwilym,
10â â â Ni ad, o anghariad ym,
11â â â Dychanu neb anhebgor,
12â â â Na phrydu, mwy na ffrwd môr.
13â â â Na sor, oleuliw nos hardd,
14â â â Weirful, er mwyn dy wirfardd.
15â â â Tra gyfan ymddychanwyf,
16â â â Dos yn iach, un dison wyf.
17â â â Tudur Goch, glowrllyd froch glêr,
18â â â Fab Iorwerth, foly pabwyrwer,
19â â â Cwynaf na chaf, rhag cyni,
20â â â Cenau tom, canu i ti.
21â â â Nychdawd i'th sarugwawd sur,
22â â â Nochd ydwyd, yn iach, Dudur.
23â â â Rhaid ar Ddafydd, gwehydd gwawd,
24â â â Ddial yr hyn a ddywawd.
25â â â Cytgerdd eos mewn coetgae,
26â â â Cytgam â'r mawrgam y mae.
27â â â Am radd y mae'n ymroddi
28â â â Ymryson ym Môn â mi.
29â â â Nid teg gan neb, nid digam,
30â â â Myn llaw'r Pab, yn fab ei fam.
31â â â Undad nid wyf, hynwyf hardd,
32â â â Nac unfam â'r goganfardd.
33â â â Mae saith o gymydeithion
34â â â I mi'n Aberffraw ym Môn,
35â â â Aml ym roddiad profadwy,
36â â â Am un i Ddafydd, a mwy.
37â â â Mawr eisiau cerdd ar glerddyn,
38â â â Mal Dafydd, awenydd wyn.
39â â â Hyrio ymladd cyfaddef,
40â â â Ymlaen gwawd ei dafawd ef.
41â â â Da tybiodd gael, gafael gall,
42â â â Llysg ongl ar ddyn llesg angall.
43â â â Diofn er bardd o'r Deau
44â â â Fyddaf, ni thawaf o thau.
45â â â Fy nghorff yn erbyn fy nghas
46â â â A rof am na bûm ryfas,
47â â â A'm cerdd fasw dan fedw laswydr,
48â â â A'm callter, a'm hoywder hydr.
49â â â Am fonedd, ym a fenaig,
50â â â A dyhuddiant, gwrygiant gwraig,
51â â â Gofynner, hwyrber hirbell,
52â â â I Ardudful, a wyl well.
53â â â Gwyr ymoglud anudon,
54â â â Gwr iddi wyf i o Fôn.
55â â â Os mab ym oedd, gyhoedd gof,
56â â â O henyw dim ohonof,
57â â â Ys drwg y peirch yr eirchiad,
58â â â Y prydydd Dafydd, ei dad.