Edited Text: 29 - Pedwerydd Cywydd Ymryson Gruffudd Gryg

Print friendly version

Pedwerydd Cywydd Ymryson Gruffudd Gryg

Gweirful, wawr eddyl ryddoeth,
Gwae fi fod, cydwybod coeth,
Yn rhaid ym, yn rhyw dymawr,
4 Oedi dy wawd; ydwyd wawr.
Aml yt o'm tafawd wawdair,
A maint y'th garwn, myn Mair!
Medrai gongl, mae drwg angel
8 Yn llestair cerdd, llaester cêl:
Dafydd eiddil ap Gwilym,
Ni ad, o anghariad ym,
Dychanu neb anhebgor,
12 Na phrydu, mwy na ffrwd môr.
Na sor, oleuliw nos hardd,
Weirful, er mwyn dy wirfardd.
Tra gyfan ymddychanwyf,
16 Dos yn iach, un dison wyf.

    Tudur Goch, glowrllyd froch glêr,
Fab Iorwerth, foly pabwyrwer,
Cwynaf na chaf, rhag cyni,
20 Cenau tom, canu i ti.
Nychdawd i'th sarugwawd sur,
Nochd ydwyd, yn iach, Dudur.

   Rhaid ar Ddafydd, gwehydd gwawd,
24 Ddial yr hyn a ddywawd.
Cytgerdd eos mewn coetgae,
Cytgam â'r mawrgam y mae.
Am radd y mae'n ymroddi
28 Ymryson ym Môn â mi.

    Nid teg gan neb, nid digam,
Myn llaw'r Pab, yn fab ei fam.
Undad nid wyf, hynwyf hardd,
32 Nac unfam â'r goganfardd.
Mae saith o gymydeithion
I mi'n Aberffraw ym Môn,
Aml ym roddiad profadwy,
36 Am un i Ddafydd, a mwy.
Mawr eisiau cerdd ar glerddyn,
Mal Dafydd, awenydd wŷn.
Hyrio ymladd cyfaddef,
40 Ymlaen gwawd ei dafawd ef.
Da tybiodd gael, gafael gall,
Llysg ongl ar ddyn llesg angall.
Diofn er bardd o'r Deau
44 Fyddaf, ni thawaf o thau.
Fy nghorff yn erbyn fy nghas
A rof am na bûm ryfas,
A'm cerdd fasw dan fedw laswydr,
48 A'm callter, a'm hoywder hydr.

    Am fonedd, ym a fenaig,
A dyhuddiant, gwrygiant gwraig,
Gofynner, hwyrber hirbell,
52 I Ardudful, a wŷl well.
Gŵyr ymoglud anudon,
Gŵr iddi wyf i o Fôn.
Os mab ym oedd, gyhoedd gof,
56 O henyw dim ohonof,
Ys drwg y peirch yr eirchiad,
Y prydydd Dafydd, ei dad.