Pedwerydd Cywydd Ymryson Gruffudd Gryg
Gweirful, arglwyddes â bwriad doeth iawn,
gwae fi fod, doethineb cain,
yn rhaid i mi, am ryw gyfnod,
4 ohirio canu cerddi i ti; arglwyddes wyt.
Daeth llu o gerddi o'm tafod i ti,
a [sôn am] faint y'th garwn, myn Mair!
Ond daeth congl, mae angel drwg
8 yn atal cerdd, llacrwydd cudd:
Dafydd gwan ap Gwilym,
mae'n fy atal, oherwydd gelyniaeth,
rhag canu dychan i unrhyw un sy'n ei haeddu,
12 na chanu, mwy na llif y môr.
Paid â phwdu, lliw golau'r nos hardd,
Gweirful, er mwyn dy fardd ffyddlon.
Tra fy mod i'n dychanu'n llawn amser,
16 ffarwel i ti, un di-sôn ydw i.
Tudur Goch, mochyn daear gwahanglwyfus y glêr,
fab Iorwerth, fol llinyn gwêr,
rwy'n cwyno na chaf, oherwydd gofid,
20 y ci tomen, ganu i ti.
Afiechyd ar dy gerdd sarrug sur,
un diddim wyt, ffarwel, Tudur.
Rhaid i mi ddial ar Ddafydd, gwëwr cerdd,
24 am yr hyn a ddywedodd.
Harmoni eos mewn perth,
mae'n cydgerdded â'r un mawr ei gam.
Mae'n ymroi ei hun i gael gradd
28 [trwy] ymryson ym Môn yn fy erbyn.
Nid yw neb yn ei weld yn fab hardd i'w fam,
nid syth ydyw, myn llaw'r Pab.
Nid wyf o'r un tad, bywiog a hardd [ydwyf],
32 nac o'r un fam â'r bardd dychan.
Mae gen i saith o gyfeillion
yn Aberffraw ym Môn,
mae gen i nifer o roddwyr y gellir eu profi,
36 am bob un sydd gan Ddafydd, a mwy.
Mae pob clerwr angen cerdd yn fawr,
fel Dafydd, y bardd cenfigennus.
[Mae'n gosod] sialens o ymladd agored,
40 o flaen cerdd ei dafod ef.
Disgwyliodd gael, gafael ddoeth,
ffon grwca ar ddyn gwan a ffôl.
Ond heb ofn oherwydd y bardd o'r de
44 fydda i, ni thawaf os bydd ef yn tewi.
Rhoddaf fy nghorff yn erbyn fy ngelyn
am na bûm i erioed yn wanllyd,
a'm cerdd ddifyr dan goed bedw gwyrdd disglair,
48 a'm cyfrwystra, a'm bywiogrwydd gwrol.
A sôn am fonedd, fe fynega i mi,
a chysur, a chadernid gwraig,
dylid gofyn, [un] felys a thyner, bellgyrhaeddol,
52 i Ardudful, a ydyw'n gwybod yn well.
Mae hi'n gwybod sut i osgoi celwydd,
rwy'n wr o Fôn iddi hi.
Os oedd o'n fab i mi, cof cyffredin,
56 os yw'n hanfod ohonof o gwbl,
mor wael y mae'r deisyfwr,
y bardd Dafydd, yn parchu ei dad.