| Pedwerydd Cywydd Ymryson Gruffudd Gryg | |
| Gweirful, arglwyddes â bwriad doeth iawn, | |
| gwae fi fod, doethineb cain, | |
| yn rhaid i mi, am ryw gyfnod, | |
| 4 | ohirio canu cerddi i ti; arglwyddes wyt. |
| Daeth llu o gerddi o'm tafod i ti, | |
| a [sôn am] faint y'th garwn, myn Mair! | |
| Ond daeth congl, mae angel drwg | |
| 8 | yn atal cerdd, llacrwydd cudd: |
| Dafydd gwan ap Gwilym, | |
| mae'n fy atal, oherwydd gelyniaeth, | |
| rhag canu dychan i unrhyw un sy'n ei haeddu, | |
| 12 | na chanu, mwy na llif y môr. |
| Paid â phwdu, lliw golau'r nos hardd, | |
| Gweirful, er mwyn dy fardd ffyddlon. | |
| Tra fy mod i'n dychanu'n llawn amser, | |
| 16 | ffarwel i ti, un di–sôn ydw i. |
| Tudur Goch, mochyn daear gwahanglwyfus y glêr, | |
| fab Iorwerth, fol llinyn gwêr, | |
| rwy'n cwyno na chaf, oherwydd gofid, | |
| 20 | y ci tomen, ganu i ti. |
| Afiechyd ar dy gerdd sarrug sur, | |
| un diddim wyt, ffarwel, Tudur. | |
| Rhaid i mi ddial ar Ddafydd, gwëwr cerdd, | |
| 24 | am yr hyn a ddywedodd. |
| Harmoni eos mewn perth, | |
| mae'n cydgerdded â'r un mawr ei gam. | |
| Mae'n ymroi ei hun i gael gradd | |
| 28 | [trwy] ymryson ym Môn yn fy erbyn. |
| Nid yw neb yn ei weld yn fab hardd i'w fam, | |
| nid syth ydyw, myn llaw'r Pab. | |
| Nid wyf o'r un tad, bywiog a hardd [ydwyf], | |
| 32 | nac o'r un fam â'r bardd dychan. |
| Mae gen i saith o gyfeillion | |
| yn Aberffraw ym Môn, | |
| mae gen i nifer o roddwyr y gellir eu profi, | |
| 36 | am bob un sydd gan Ddafydd, a mwy. |
| Mae pob clerwr angen cerdd yn fawr, | |
| fel Dafydd, y bardd cenfigennus. | |
| [Mae'n gosod] sialens o ymladd agored, | |
| 40 | o flaen cerdd ei dafod ef. |
| Disgwyliodd gael, gafael ddoeth, | |
| ffon grwca ar ddyn gwan a ffôl. | |
| Ond heb ofn oherwydd y bardd o'r de | |
| 44 | fydda i, ni thawaf os bydd ef yn tewi. |
| Rhoddaf fy nghorff yn erbyn fy ngelyn | |
| am na bûm i erioed yn wanllyd, | |
| a'm cerdd ddifyr dan goed bedw gwyrdd disglair, | |
| 48 | a'm cyfrwystra, a'm bywiogrwydd gwrol. |
| A sôn am fonedd, fe fynega i mi, | |
| a chysur, a chadernid gwraig, | |
| dylid gofyn, [un] felys a thyner, bellgyrhaeddol, | |
| 52 | i Ardudful, a ydyw'n gwybod yn well. |
| Mae hi'n gwybod sut i osgoi celwydd, | |
| rwy'n ŵr o Fôn iddi hi. | |
| Os oedd o'n fab i mi, cof cyffredin, | |
| 56 | os yw'n hanfod ohonof o gwbl, |
| mor wael y mae'r deisyfwr, | |
| y bardd Dafydd, yn parchu ei dad. | |