Nodiadau: 29 - Pedwerydd Cywydd Ymryson Gruffudd Gryg

Fersiwn hwylus i

GDG 153, BDG cxxvi

Mae'r llawysgrifau yn cytuno â'i gilydd yn weddol dda yn y cywydd yma o ran nifer y llinellau (13—14 yn eisiau yn llsgrau Llywelyn Siôn) a'u trefn, ond mae Llywelyn Siôn yn tueddu i roi darlleniadau gwahanol.

Cynghanedd: Sain, 21 ll. (36%); Traws 17 ll. (29%); Croes 9 ll. (16%); Llusg 11 ll. (19%).

1. Gweirful   gw. 27.50n.

  wawr eddyl   Darlleniad y Vetustus. Wawr eiddil sydd gan C 7, CM 5 ac WD, ac o euddil sydd gan Lywelyn Siôn. Eddyl , sef 'bwriad, amcan' (GPC 1169) yw'r darlleniad anos.

2. cydwybod   Dilynodd Thomas Parry fersiwn WD, cydnabod , ond mae'r llawysgrifau cynnar eraill yn gytûn ar cydwybod . Mae'r ystyr yn wahanol i'r un arferol heddiw, sef 'doethineb'.

7. congl   defnydd ffigurol, yn golygu bod tro ar bethau wedi dod, ac na all Gruffudd ganu i Weirful am sbel.

10. o anghariad   Mae Llywelyn Siôn yn darllen ny ad ef ynghariad , a allai fod yn gynghanedd draws gydag n wreiddgoll, ond mae'r llinell yn well fel sain drosgl.

11. dychanu neb   Mae darlleniad Llywelyn Siôn yn wahanol yma: dychan nep kyw anhepgor . Gall dychan fod yn ferfenw (gw. GPC 1115), ond mae cyw yn ddiangen, ac mae'r gynghanedd lusg yn gliriach o ddarllen fel hyn.

13–14.   Mae'r cwpled hwn yn ymddangos yn fersiwn y Vetustus, CM 5 a llawysgrifau WD, ond nid yn llawysgrifau Llywelyn Siôn.

15.   Gellid dilyn Llywelyn Siôn, dychan amkan dry [= dra]ganwyf , ond mae'n debyg bod ymddychanwyf yn ddarlleniad anos (ni nodir esiamplau o'r gair yn GPC 3773).

17. Tudur Goch   Bardd (neu 'oferfardd' yn ôl Parry) na wyddys dim amdano, ond gellir casglu bod Gruffudd wedi canu cerddi dychan iddo.

18. fab Iorwerth   Mae'r llinell hon yn broblemus. Ceir y darlleniad hwn yn llsgrau Llywelyn Siôn, ond mae'r llawysgrifau cynnar eraill yn rhoi darlleniadau tra gwahanol: fawiro i fol fal ierwer yn y Vetustus, fab iro i fol fal ierwer gan C 7, fa iw i fol fab ierwer yn CM 5, a fab iniawn gan WD. Mae'r llinell fel y saif yn gynghanedd draws gydag f led–lafarog.

20. cenau tom   Ci tomen. Yn y cyfreithiau, ci taeog yw costog tom, ac mae'n ddiwerth.

21. sarugwawd sur   Dyma'r darlleniad yn y mwyafrif o'r llawysgrifau cynnar, ond dy sygn gwawd hir sydd gan Lywelyn Siôn.

22. nochd   Benthyciad o'r Saesneg naught , yn golygu rhywbeth drwg neu ddiddim. Dyma'r unig enghraifft a restrir yn GPC 2587.

31–32.   Nid yw'r cwpled hwn i'w gael yn fersiwn y Vetustus yn H 26 a M 212 nac yn llawysgrifau WD, ond mae'r cwpled yn C 7 a CM 5.

31. Undad ... unfam   Yn y cyfreithiau, plant wedi eu geni o'r un rhieni yw meibion undad/unfam, ac mae ganddynt fwy o hawliau na hanner brodyr. Mae Gruffudd Gryg yn dweud nad yw'n hanner brawd, hyd yn oed, i Ddafydd ap Gwilym.

hynwyf hardd   Dilynodd Parry C 7 a CM 5, cyd bwyf bardd , ond mae fersiynau Llywelyn Siôn, y Vetustus a WD o blaid y darlleniad hwn.

34. Aberffraw   Dyma'r darlleniad yn y rhan fwyaf o'r llawysgrifau cynnar, ar wahân i rai Llywelyn Siôn, sy'n rhoi i mi yn yved y Mon . Roedd Aberffraw yn un o brif lysoedd tywysogion Gwynedd ac yn dalaith farddol yn ôl Statud Gruffudd ap Cynan.

38. mal Dafydd   M 212, C 7 ac WD. Mae gwahanol ddarlleniadau yma: am vn i ddafydd gan Lywelyn Siôn, sydd yr un fath â llinell 34, uchod. Ar Ddauydd sydd yn H 26, ac mab Dafydd yn CM 5.

39. ymladd cyfaddef   Cyn addef sydd yn fersiwn y Vetustus, CM 5 a llawysgrifau WD. Mae ymladd cyfaddef yn derm cyfreithiol, sef ymladd yn gyhoeddus, neu ymladd nad oes modd ei wadu. Roedd dirwy o ddeuddeng mu (neu dair punt) am ymladd cyfaddef yn ôl Cyfraith Hywel.

42. llysg ongl   Mae'n bosib mai term o faes ymladd gyda ffyn yw hwn, yn golygu rhywbeth fel ffon grwca i fachu'r gwrthwynebydd, yn hytrach na'r ffon a ddefnyddiai datgeiniaid wrth ddatgan eu cerddi (Gwyn Thomas, DGHP,303). Ond nid oes enghraifft o'r term yn GPC.

43. er bardd   Llywelyn Siôn. Ceir ir bardd yn y Vetustus, C 7 a CM 5 ac efallai mai yr oedd yn y gynsail.

45. fy nghorff   Llywelyn Siôn. Vyngherdd sydd yn fersiwn y Vetustus a CM 5, ond sonnir am y gerdd yn ll. 47.

48. callter a'm hoywder   Ceir y darlleniad hwn yn CM 5 ac yn llawysgrifau WD. Cefnogir y gair cyntaf gan ddarlleniad y Vetustus, callter a'm hyder, a chefnogir yr ail air gan ddarlleniad Llywelyn Siôn, valchder a hoywder .

49. ym a fenaig   Dyma a geir yn y llawysgrifau cynnar i gyd, ond darllenodd Parry mau ofynaig ar sail BM 53. Cymerir mai rhagenw perthynol yw a yma, ond gallai fod yn eiryn gofynnol.

51. hwyrber   Llywelyn Siôn. Herber a geir yn y llawysgrifau cynnar eraill, ond cymerwyd bod y gair yn cyfeirio ymlaen at Ardudful, ac mae hwyrber , sef hwyr (tyner, addfwyn, GPC 1942) a pêr , yn well yn y cyd–destun na herber , sef gardd. Cymh. hwyrwar am Forfudd, 93.23.

56. o henyw   ni henyw a geir yn CM 5, ond yr ystyr yw 'os yw'n hanfod ohonof o gwbl'. Mae'r ansicrwydd yn sarhad ychwanegol ar fam DG.