Englynion dvwiol
Anima xpi sanctifica me
1 Enwog trigarog ein dvw tri ag vn
2 ogoniant proffwydi
3 enaid teg croesdeg cristi
4 fal glain o fewn glanha fi
Corpus xpi salva me
5 Corph Crist fy rydrist dros werydri cam
6 cnawd cymyn oi erthi
7 iechyd pvr yspryd peri
8 iechyd lyw cadw yn fyw fi
Sanguis xpi inebria me
9 Gwaed Crist rhag yn drist dros deithi a wna
10 fy neol am colli
11 cyfod golevglod Geli
12 cadw rhag pechod feddwdod fi
Aqua lateris xpi lava me
13 dyfr o yslys dilyfr dolvr weli / Crist
14 croes dedwydd gynghori
15 dwyfawl gyllawl heb golli
16 diwid gylch fywyd golch fi
Passio xpi conforta me
17 dioddef Crist o nef naf prophwydi'r byd
18 bv ddygn dy bvm weli
19 cadarn iawn wiwddawn weddi
20 cadarnha fawr wrda fi
Cr Da : Gwilim