1 Gweirvyl wawr eddyl ryddoeth
2 gwae vi vod cydwybod coeth
3 yn rhaid ym yn rhyw dymawr
4 oedi dy wawd ydwyd wawr
5 aml om tavawd wawdair
6 a maint ith garwn myn Mair
7 medrai gongl mae dryg angel
8 yn llestair cerdd llaester cel
9 Dauydd eiddil ap Gwilym
10 ni ad o anghariad ym
11 ddychanv nep anhepcor
12 na phrydu mwy nev phrwd mor
13 na sorr oleuliw nos hardd
14 Weirvyl er mwyn dy wirvardd
15 tra gyvan ymddychanwyf
16 dos yn iach vn dison wyf
17 Tudur goch glowrllyd vroch gler
18 vawiro i vol val ierwer
19 cwyno na chaf rhac cyni
20 cenau tom canu iti
21 nychdawd ith sarrugwawd sur
22 nocht ydwyd yn iach Dudur
23 rhaid ar Ddauydd gweydd gwawd
24 ddial yrhyn a ddywawd
25 cytgerdd eos mewn coetgae
26 cytgam ar y mowrgam mae
29 nid teg gan neb nid digam
30 myn y Pab i vab i vam
27 am radd y mae'n ymroddi
28 ymryson ym Mon a mi
33 may seith o gydymddeithion
34 i mi'n Aber fraw ym Mon
35 [363] aml ym roddiad provadwy
36 am vn i Ddauydd a mwy
37 mawr eisiau cerdd ar glerddyn
38 ar Ddauydd awenydd wyn
39 hyrrio ymladd cyn addef
40 ymlaen gwawd i davawd ef
41 da tybiodd gael gavael gall
42 llvsg ongl ar ddyn llesg angall
43 diofn ir bardd or deau
44 vyddaf ni thawaf othau
45 vyngherdd yn erbyn vy nghas
46 a rof am na bum ryvas
47 am cerdd vasw dan vedw laswydr
48 am callder am hyder hydr
49 am vonedd ym a venaig
50 am ddyhuddiant gwrygiant gwraig
51 govynner herber hirbell
52 i Ardudvyl a wyl well
53 gwyr ymoglud anvdon
54 gwr iddi wyfi o Von
55 os mab ym oedd gywoedd gof
56 o heniw ddim o honof
57 ys drwg y peirch yr eirchiad
58 y prydydd Dauydd idad
Gruffith Gryg