1 Gwyrful wawr eiddil Ryddoeth
2 gwae fi fod cydnabod koeth
3 yn rhad vm yn rhiw dymawr
4 oedi dy wawd ydwyd wawr
5 aml om tafawd wawdair
6 a maint ith gerais mynn mair
7 medrai gono mae drwg añel
8 yn llestair kerdd llostwr kel
9 davydd eiddil ab gwilym
10 ni ad o anghariad ym
11 dychanv neb anhebkor
12 na ffrydv mwy na ffrwd mor
13 na sorr olevliw naws hardd
14 wyrful er mwyn dy wirfardd
15 tra kyvan im diddanwyf
16 deg yn iach wr digon wyf
17 tydvr goch glowrllyd froch y gler
18 fab iniawn o fab Ierwer
19 kwyno a wnaf rhag kyni
20 kene tom kanv itti
21 nychdawd ith sarvgwawd svr
22 nochd ydwyd yn iach dydvr
23 rhaid i ddavydd gwawdydd gwawd
24 ddial yr hynn a ddywawd
25 kydgerdd eos mewn koetgae
26 kydgan ar mwyn gan i mae
29 nid teg gan neb nid {d}tigam
30 mynn llaw /r/ pab i fab i fam
27 [133r] am Radd i mae yn ymroddi
28 ymryson y mon a mi
33 mae saith o gymdeithion
34 i mi yn y berffro y mon
35 aml roddiad profadwy
36 am vn i ddavydd a mwy
37 mawr eissie kerdd ar glerddyn
38 mal davydd awenydd wyn
39 herio ymladd kynn addef
40 ymlaen gwawd i davawd ef
41 da i tybiawdd gael gafael gall
42 llvsg anigel ar ddyn llesg angall
43 diwen ir bardd or deav
44 fyddaf o thawaf ni thav
45 fy ngherdd yn erbyn fynghas
46 a Rof am na bym ryfas
47 am kerdd fasw dan fedw laswydr
48 am kallder am hoywder hydr
49 am fonedd ym a fynair
50 am ddyddiant gwarant a gair
51 gofyner herber hirbell
52 gar dvdfvl o wyrfvl well
53 gwyr ymoglyd anydon
54 gwr iddi wyfi o fon
55 os mab oedd ym gofyn gof
56 o heniw ddim o honof
57 ys drwg i peirch yr eirchiad
58 y prydydd Davydd i dad
gryffvdd grug ai kant