Anima Christi sanctifica me
1 Enwoc trugaroc rannwyt tri (ac un
2 o annoc prophwyti
3 enaid teg croestec Christi
4 val glain o vewn glanha vi
Corpus Christi salua me
5 Corph Christ rhydrist gwrhydri (camau
6 gwawd cymin oi erchi
7 iechyd pur ysbryt peri
8 iacha lyw cadw yn vyw vi
Sanguis Christi inebria me
9 Gwaet Christ rac yn drist dros deithi
10 a wna vy neol am colli
11 cydvod golevglod geli
12 cadw rhag pechawt vedhdawt vi
Aqua lateris Christi laua me
13 Dwfr o ytlys dilwfr dolur weli
14 Christ crroes newydh cynholrhi
15 dwyvawl gyllawl heb golli
16 diwyd gylch vywyd golch vi
Passio Christi conforta me
17 Dyodhef Christ o nef naf prophwyti byd
18 bv dhygn bvm weli
19 cadarn iawn wiwdhawn wedhi
20 cadarnha vawr wrda vi
O bone Iesu exaudi me
21 Gwar Iesu Trugar treigl tydi attaf
22 atteb y goleuni
23 gwawr peb alhawr vawr voli
24 gwrando heb veio vyvi
Et ne permittas me seperari a te
25 A gosod vau vod vyvi gymyrdha
26 ger dy law leo mundi
27 megys perth wiwnerth weini
28 mawl heb dawl y molaf di
[200v] Ut eum Angelis tuis laudem te
29 Cyd ath niver ner nerthir Angelion
30 yngoleu ny cholhir
31 yn y nef y cywledhir
32 nesed bid gwared boed gwir
Amen
33 poed gwir ny dhygir y vrenhiniaeth nef
34 yn vvudh wrogaeth
35 gwlad uchelwlad veithiad vaeth
36 gwledh dhiwagedh dhuwogaeth
David ap Gwilim