1 Gwyrfyl o auddil ryddoeth
2 gwae vi vod kydwybod koeth
3 yn raid ym yn ryw dymawr
4 oedi dy wawd ydwyd wawr
5 aml yt m tavawd wawdair
6 a maint yth garwn myn Mair
7 medrai gongl mae drwg angel
8 yn llestair kerdd llaester kel
9 Davydd eiddil ap Gwilym
10 ny ad ef ynghariad ym
11 dychan nep kyw anhepgor
12 na phrydy mwy na phryd mor
15 dychan amkan dry ganwyf
16 a does yn iach di son wyf
17 Tydur goch klafr llwydfroch kler
18 ap iorwerth voly pabwyrwer
19 kwynaf na chaf Rag kyni
20 kenav tom kanv i ti
21 nychdawd ar dy sygn gwawd hir
22 nocht ydwyd yn iach Dydur
23 Raid i ddavydd gweydd gwawd
24 ddial yr hynn a ddywawd
25 kytgerdd eos mewn koetgav
26 kytgam ar mawrgam i mav
27 am rodd i mae nym roddi
28 ymryson y Mon a mi
29 nid teg gan neb nid digam
30 myn llaw r pab i vab i vam
31 [153v] vn dad nidwyf hynyn hynwyf hardd
32 nag vnfam ar goganfardd
33 i mae saith o gedmaithon
34 i mi yn yved y Mon
35 aml ym roddiad provadwy
36 am vn i ddavydd a mwy
37 mawr aisav kerdd ar glerddyn
38 mab Davydd awenydd wynn
39 hiriaw ymladd kyvaddef
40 ymlaen gwawd i davawd ef
41 da tybiawdd gael gavael gall
42 llysg ongl an ddyn llesg angall
43 di ofn er bardd on Deav
44 vyddaf o thawaf ny thav
45 vynghorff yn erbyn vynghas
46 a Rof am na bvm Ryvas
47 am kerdd vasw dan vedw laswydr
48 am valchder a hoewder hydr
49 am vonedd ym a venaig
50 a dyhvddiant gwrygiant gwraig
51 govynner hwyrber hirbell
52 i er Dydfyl a wyl well
53 gwyr nid glvd vy anvdon
54 gwr yddi wyf i o von
55 os mab ym oedd guoedd gof
56 o henyw dim o honof
57 os ym i pairch yr airchiad
58 y prydydd Davydd i dad
Gryffydd gryg ai kant