â â â Pedwerydd Cywydd Ymryson Dafydd ap Gwilym
1â â â Arblastr yw Gruffudd eirblyg,
2â â â A bwa crefft, cyd bo cryg;
3â â â Saethu y mae, wae wahawdd,
4â â â Pob nod, nid rhydd i'r Pab nawdd,
5â â â Ac odid, elyw-wrid liw,
6â â â Un a fedr, anaf ydiw,
7â â â Ond dwyn y gerdd wrthwyneb,
8â â â Y glod yn anghlod i neb.
9â â â Petawn heb ynof angerdd,
10â â â Oedfedw cof, adfydig gerdd,
11â â â Llai cywilydd oedd iddaw,
12â â â Dial fy llid, dal fy llaw
13â â â Nog edliw ym, gyflym gawdd,
14â â â Fy mhrudded - fy mâr haeddawdd.
15â â â O chafas y gwas, wg wên,
16â â â Urdd newydd ar ddwyn awen,
17â â â Is gîl eto, os gwelwyf,
18â â â Esgeulus fydd nofus nwyf.
19â â â O rhoir ffyrch, nid llyfrgyrch llesg,
20â â â Dan aeliau gwas annilesg,
21â â â Ef a eill tafawd, wawd wâr,
22â â â Gwan unben, a gwenwynbar,
23â â â Dygyfor a digofaint
24â â â Dan ei fron, a dwyn ei fraint.
25â â â Haws oedd yng Ngwynedd weddu
26â â â Tad i Fleddyn o'r dyn du,
27â â â Nag efô, hwylio heli,
28â â â O dud Môn yn dad i mi.
29â â â Dyn ydwyf dianudon
30â â â A fu gan wreigdda o Fôn,
31â â â Ac a wnaeth, arfaeth aerfa,
32â â â Mab cryg, nid mewn diwyg da:
33â â â Gruffudd liw deurudd difrwd,
34â â â Mold y cwn, fab Mald y Cwd,
35â â â Gwas i gleifion Uwch Conwy,
36â â â Gwn, gwn, pam na wypwn pwy?
37â â â Ystyried Gruffudd ruddlwm,
38â â â A blaen ei dafod yn blwm,
39â â â Gantaw na ddaw'n ddilestair
40â â â Druan gwr, draean y gair,
41â â â Cuc cuc yn yfed sucan,
42â â â Ci brwysg yn llyncu cyw brân,
43â â â Nâd diswrth, ond tywysaw
44â â â Gwr dall ar draws ysgall draw.
45â â â Anodd i brydydd unig
46â â â Ymwrdd â dyn agwrdd dig;
47â â â Ef a eill, gwufr arddufrych,
48â â â Cern oer, gael llonaid corn ych,
49â â â Oni wna Duw, ni wnâi dwyll,
50â â â Bod dygymod dig amwyll.
51â â â To llingarth, tywyll angerdd,
52â â â Tudur Goch, taw di â'r gerdd.
53â â â Grawys, henw o groesanaeth,
54â â â Grafil mefl, a fu wefl waeth?
55â â â Rhywyr gas, rhwyf argyswr,
56â â â Rhefr gwydd, gad rhof i a'r gwr.