Pedwerydd Cywydd Ymryson Dafydd ap Gwilym
Bwa croes yw Gruffudd y gwyrwr geiriau,
a bwa crefft ydyw, er ei fod ac atal-dweud arno;
mae'n saethu, yn gwahodd poen,
4 pob nod, nid yw'r Pab yn cael amddiffyn,
a phrin y mae'n taro'r un, lliw cochni elyw,
mae'n anafus,
dim ond gwyrdroi'r gerdd,
8 y mawl yn ddychan i unrhyw un.
Petawn i heb unrhyw gelfyddyd,
atgof cwrdd mewn coedlan, cerdd druenus,
byddai'n llai o gywilydd iddo,
12 dial fy ngwylltineb, fy nghefnogi
nag edliw i mi, digofaint sydyn,
fy nhristwch - haeddodd fy llid.
Os cafodd y llanc, gwên sy'n wg,
16 anrhydedd newydd iddo o ran barddoni,
ar ei hôl hi eto, os gwela' i o,
esgeulus fydd newyddian serch.
Pe bai ffyrch yn cael eu rhoi, nid ymosodiad gwan a llwfr,
20 dan aeliau dyn gwanllyd,
gall tafod, barddoniaeth waraidd,
unben gwan, a gwaywffon wenwynig,
[achosi] helynt a dicter
24 yn ei fron, a dwyn ei freintiau.
Byddai'n haws cymhwyso y dyn du
yn dad i Fleddyn yng Ngwynedd,
nag ef [Gruffudd], hwylio'r môr,
28 o dir Môn yn dad i mi.
Rwy'n ddyn geirwir,
a fu gyda gwraig fonheddig o Fôn,
ac a genhedlodd, gyda'r bwriad o achosi lladdfa,
32 fab ac atal-dweud arno, mewn siâp reit sâl:
Gruffudd gwelw ei fochau,
un o'r un ffunud â'r cwn, mab Mald y Cwd,
gwas i wahanglwyfion Uwch Conwy,
36 gwn, mi wn, pam na wyddwn i bwy?
Dylai Gruffudd llwm ei foch,
a blaen ei dafod yn blwm,
ystyried na ddaw traean y gair ganddo
40 heb rwystr, y gwr truenus,
swn yg yg fel [rhywun yn] yfed sycan,
[neu] gi meddw yn llyncu cyw brân,
bloedd hwyrfrydig, ond arwain
44 dyn dall ar draws yr ysgall acw.
Mae'n beth anodd i fardd unig
ymladd gyda dyn cryf, dig;
Gall ef, y cawell saethau melynddu,
48 grudd oer, gael llond corn ych,
os na wna Duw, ni fyddai'n gwneud twyll,
fod cymodi annoethineb cas.
Gorchudd gwehilion llin, teimlad dwys tywyll,
52 Tudur Goch, dyro'r gorau i'th farddoni.
Yn y grawys, mae'n enwog am ei ffwlbri,
yr adyn sarhaus, a fu erioed wefus waeth?
Casineb rhy oediog, pennaeth ofn,
56 tin gwydd, gad [hyn] rhyngof fi a'r gwr yna.