â â â Dychan i Rys Meigen
1â â â Cerbyd lled ynfyd llydanfai-y sydd,
2â â â Nid un swydd â
Gwalchmai;
3â â â Cwn pob parth a'i cyfarthai,
4â â â Cymyrred na ched ni châi.
5â â â Carnben Rys Meigen, magai-ddigofaint,
6â â â Ddu geufab, lle beiddiai;
7â â â Carwden, ci a rodiai,
8â â â Corodyn cerdd meiddlyn Mai.
9â â â Cau rheidus bwystus, bostiai-â'i dafod
10â â â O Deifi hyd Fenai;
11â â â Cor oediog, neb nis credai,
12â â â Cwr adain, heb nain, heb nai.
13â â â Cariadau rhiau, ni ryfai-fawrles,
14â â â Naws cyffes, nis caffai;
15â â â Cerdd wermod a ddatodai,
16â â â Cern âb cnaf, a wnaf a wnâi.
17â â â Cras enau, geiriau ni ragorai-rhain,
18â â â Y truthain a'u traethai;
19â â â Croesanaeth croyw a soniai,
20â â â Crys anardd, taer flawdfardd tai.
21â â â Cyfrwys ddifwyn cwys, cyd ceisiai-gyhwrdd
22â â â Ag ewybr nis gallai;
23â â â Cyfred aml, cyfrwy dimai,
24â â â Cyfrif ef bob cyfryw fai.
25â â â Clafaf anllataf llatai-clafesau,
26â â â Yn arfau anerfai;
27â â â Ci sietwn yw'r cas ytai,
28â â â Coes gwylan craig, treiglwraig trai.
29â â â Cynnwgl cen cwrwgl, can carrai-o'i lawdr,
30â â â Hen leidryn gofawai;
31â â â Cyfraith fydriaith ni fedrai,
32â â â Cyfranc nac aer daer nid âi.
33â â â Cerdd-dlawd, brynhicnawd hacnai,-bastynwas
34â â â Baw estynwefl ysgai;
35â â â Canmil chwil a ymchwelai
36â â â Cau was gorflwng rhwng pob rhai.
37â â â Cecrwawd ci cardlawd cecyrdlai-cwthrfeigl
38â â â Hirdreigl gest hwyrdrai;
39â â â Cafn latys mam blotai,
40â â â Cefn rhisg heb gysegrwisg a sai.
41â â â Gwas cas coesfrith chwith chwythlawdr lletbai gwan,
42â â â Gwyn ei fyd a'i
crogai;
43â â â Gwasg dasg desgldraul caul cawlai,
44â â â Gwar gwrcath gwydn chwiltath chwai.
45â â â Gwythlyd gwefl esgud, gofloesgai - ar gwrw,
46â â â Banw chweidwrw ban
chwydai;
47â â â Gwall ball beillhocs, cocs cicai,
48â â â Gwyllt byll hyll oeth garw troeth trai.
49â â â Gwylliad anwastad westai, - lleuedig
50â â â Â llaw fudr a
daflai;
51â â â Gwellau diawl, gwae lle delai,
52â â â Gwallawiawdr llwfr claerddwfr clai.
53â â â Goreilgorff rheidus, nid gwrolGai - Hir,
54â â â Hwyr ym mrwydr y safai;
55â â â Gweren soegen a sugnai,
56â â â Gwar hen groenyn, lledryn llai.
57â â â Gwirod o waddod a weddai - i'r pryf,
58â â â Anaergryf oen oergrai,
59â â â Gwryd ateth gardotai,
60â â â Garw blu, ni bu gwrab lai.
61â â â Gwaith o ymgeiniaith a ganai - i bawb
62â â â Heb wybod beth fyddai;
63â â â Gwythen llygoden geudai,
64â â â Gwaethaf, llo bawaf, lle bai.
65â â â Rys Meigen, gwden dan gedyrn - grogwydd
66â â â Fydd dy ddihenydd, hynaf erddyrn.
67â â â Rhusiedig a dig y dyrn - dy ddannedd,
68â â â Rhysedd mehinwledd, wydnwedd wadnwyrn,
69â â â Rhuglfin gynefin giniawfyrn - frynnig,
70â â â Rhyfig ar faeddgig, nid ar feddgyrn.
71â â â Rhuthrud wêr a mêr mawr esgyrn - ceudawd,
72â â â Rhythgnawd cyn diawd, myn Cyndëyrn.
73â â â Rhyfedd yw cemyw camyrn, - bengnawd fêr,
74â â â Rhefrgoch gloch y glêr, galchwer
gilchwyrn,
75â â â Anwr yn sawdwr, ys edyrn - yn rhaid,
76â â â Amnaid delw danbaid, nid ail Dinbyrn,
77â â â Euog drum lleuog, drem llewyrn - wystnlwyth,
78â â â Anwiw ffriw heb ffrwyth, golwyth gelyrn,
79â â â Rhwyddlawdr anhuawdr, annhëyrn - rhwymgnawd,
80â â â Rhygrin o gysgawd, groen ac esgyrn,
81â â â Rhediad dau lygad dilugyrn - chwiltath,
82â â â Rhys goegfrys gigfrath, fapgath fepgyrn,
83â â â Rhugn sugn soeg gogoeg gegyrn, - rhwthgynfol,
84â â â Rhyfol rhwd heol, nid rhyw tëyrn.
85â â â Er na wypud, lud lawdr gachsyrn - osgryn,
86â â â Nac awdl nac englyn, lleidrddyn
lledrddyrn,
87â â â Gwas ynfydferw chwerw, chwyrn - afrifed
88â â â Y gwyddut yfed gwaddod tefyrn.