Testun Golygedig: 31 - Dychan i Rys Meigen

Dychan i Rys Meigen

Cerbyd lled ynfyd llydanfai—y sydd,
      Nid un swydd â Gwalchmai;
   Cŵn pob parth a'i cyfarthai,
4    Cymyrred na ched ni châi.

Carnben Rys Meigen, magai—ddigofaint,
      Ddu geufab, lle beiddiai;
   Carwden, ci a rodiai,
8    Corodyn cerdd meiddlyn Mai.

Cau rheidus bwystus, bostiai—â'i dafod
      O Deifi hyd Fenai;
   Cor oediog, neb nis credai,
12    Cwr adain, heb nain, heb nai.

Cariadau rhiau, ni ryfai—fawrles,
      Naws cyffes, nis caffai;
   Cerdd wermod a ddatodai,
16    Cern âb cnaf, a wnaf a wnâi.

Cras enau, geiriau ni ragorai—rhain,
      Y truthain a'u traethai;
   Croesanaeth croyw a soniai,
20    Crys anardd, taer flawdfardd tai.

Cyfrwys ddifwyn cwys, cyd ceisiai—gyhwrdd
      Ag ewybr nis gallai;
   Cyfred aml, cyfrwy dimai,
24    Cyfrif ef bob cyfryw fai.

Clafaf anllataf llatai—clafesau,
       Yn arfau anerfai;
    Ci sietwn yw'r cas ytai,
28     Coes gwylan craig, treiglwraig trai.

Cynnwgl cen cwrwgl, can carrai—o'i lawdr,
       Hen leidryn gofawai;
   Cyfraith fydriaith ni fedrai,
32    Cyfranc nac aer daer nid âi.

Cerdd-dlawd, brynhicnawd hacnai,—bastynwas
      Baw estynwefl ysgai;
   Canmil chwil a ymchwelai
36    Cau was gorflwng rhwng pob rhai.

Cecrwawd ci cardlawd cecyrdlai—cwthrfeigl
      Hirdreigl gest hwyrdrai;
   Cafn latys mam blotai,
40    Cefn rhisg heb gysegrwisg a sai.

Gwas cas coesfrith chwith chwythlawdr lletbai gwan,
      Gwyn ei fyd a'i crogai;
   Gwasg dasg desgldraul caul cawlai,
44    Gwar gwrcath gwydn chwiltath chwai.

Gwythlyd gwefl esgud, gofloesgai – ar gwrw,
      Banw chweidwrw ban chwydai;
   Gwall ball beillhocs, cocs cicai,
48    Gwyllt byll hyll oeth garw troeth trai.

Gwylliad anwastad westai, – lleuedig
      Â llaw fudr a daflai;
   Gwellau diawl, gwae lle delai,
52    Gwallawiawdr llwfr claerddwfr clai.

Goreilgorff rheidus, nid gwrolGai – Hir,
      Hwyr ym mrwydr y safai;
   Gweren soegen a sugnai,
56    Gwar hen groenyn, lledryn llai.

Gwirod o waddod a weddai – i'r pryf,
      Anaergryf oen oergrai,
   Gwryd ateth gardotai,
60    Garw blu, ni bu gwrab lai.

Gwaith o ymgeiniaith a ganai – i bawb
      Heb wybod beth fyddai;
   Gwythen llygoden geudai,
64    Gwaethaf, llo bawaf, lle bai.

Rys Meigen, gwden dan gedyrn – grogwydd
   Fydd dy ddihenydd, hynaf erddyrn.
Rhusiedig a dig y dyrn – dy ddannedd,
68    Rhysedd mehinwledd, wydnwedd wadnwyrn,
Rhuglfin gynefin giniawfyrn – frynnig,
   Rhyfig ar faeddgig, nid ar feddgyrn.
Rhuthrud wêr a mêr mawr esgyrn – ceudawd,
72    Rhythgnawd cyn diawd, myn Cyndëyrn.
Rhyfedd yw cemyw camyrn, - bengnawd fêr,
   Rhefrgoch gloch y glêr, galchwer gilchwyrn,
Anwr yn sawdwr, ys edyrn - yn rhaid,
76    Amnaid delw danbaid, nid ail Dinbyrn,
Euog drum lleuog, drem llewyrn - wystnlwyth,
   Anwiw ffriw heb ffrwyth, golwyth gelyrn,
Rhwyddlawdr anhuawdr, annhëyrn - rhwymgnawd,
80    Rhygrin o gysgawd, groen ac esgyrn,
Rhediad dau lygad dilugyrn – chwiltath,
   Rhys goegfrys gigfrath, fapgath fepgyrn,
Rhugn sugn soeg gogoeg gegyrn, – rhwthgynfol,
84    Rhyfol rhwd heol, nid rhyw tëyrn.
Er na wypud, lud lawdr gachsyrn – osgryn,
   Nac awdl nac englyn, lleidrddyn lledrddyrn,
Gwas ynfydferw chwerw, chwyrn – afrifed
88    Y gwyddut yfed gwaddod tefyrn.