| Dychan i Rys Meigen | |
| Cerbyd lled ynfyd llydanfai—y sydd, | |
| Nid un swydd â Gwalchmai; | |
| Cŵn pob parth a'i cyfarthai, | |
| 4 | Cymyrred na ched ni châi. |
| Carnben Rys Meigen, magai—ddigofaint, | |
| Ddu geufab, lle beiddiai; | |
| Carwden, ci a rodiai, | |
| 8 | Corodyn cerdd meiddlyn Mai. |
| Cau rheidus bwystus, bostiai—â'i dafod | |
| O Deifi hyd Fenai; | |
| Cor oediog, neb nis credai, | |
| 12 | Cwr adain, heb nain, heb nai. |
| Cariadau rhiau, ni ryfai—fawrles, | |
| Naws cyffes, nis caffai; | |
| Cerdd wermod a ddatodai, | |
| 16 | Cern âb cnaf, a wnaf a wnâi. |
| Cras enau, geiriau ni ragorai—rhain, | |
| Y truthain a'u traethai; | |
| Croesanaeth croyw a soniai, | |
| 20 | Crys anardd, taer flawdfardd tai. |
| Cyfrwys ddifwyn cwys, cyd ceisiai—gyhwrdd | |
| Ag ewybr nis gallai; | |
| Cyfred aml, cyfrwy dimai, | |
| 24 | Cyfrif ef bob cyfryw fai. |
| Clafaf anllataf llatai—clafesau, | |
| Yn arfau anerfai; | |
| Ci sietwn yw'r cas ytai, | |
| 28 | Coes gwylan craig, treiglwraig trai. |
| Cynnwgl cen cwrwgl, can carrai—o'i lawdr, | |
| Hen leidryn gofawai; | |
| Cyfraith fydriaith ni fedrai, | |
| 32 | Cyfranc nac aer daer nid âi. |
| Cerdd-dlawd, brynhicnawd hacnai,—bastynwas | |
| Baw estynwefl ysgai; | |
| Canmil chwil a ymchwelai | |
| 36 | Cau was gorflwng rhwng pob rhai. |
| Cecrwawd ci cardlawd cecyrdlai—cwthrfeigl | |
| Hirdreigl gest hwyrdrai; | |
| Cafn latys mam blotai, | |
| 40 | Cefn rhisg heb gysegrwisg a sai. |
| Gwas cas coesfrith chwith chwythlawdr lletbai gwan, | |
| Gwyn ei fyd a'i crogai; | |
| Gwasg dasg desgldraul caul cawlai, | |
| 44 | Gwar gwrcath gwydn chwiltath chwai. |
| Gwythlyd gwefl esgud, gofloesgai – ar gwrw, | |
| Banw chweidwrw ban chwydai; | |
| Gwall ball beillhocs, cocs cicai, | |
| 48 | Gwyllt byll hyll oeth garw troeth trai. |
| Gwylliad anwastad westai, – lleuedig | |
| Â llaw fudr a daflai; | |
| Gwellau diawl, gwae lle delai, | |
| 52 | Gwallawiawdr llwfr claerddwfr clai. |
| Goreilgorff rheidus, nid gwrolGai – Hir, | |
| Hwyr ym mrwydr y safai; | |
| Gweren soegen a sugnai, | |
| 56 | Gwar hen groenyn, lledryn llai. |
| Gwirod o waddod a weddai – i'r pryf, | |
| Anaergryf oen oergrai, | |
| Gwryd ateth gardotai, | |
| 60 | Garw blu, ni bu gwrab lai. |
| Gwaith o ymgeiniaith a ganai – i bawb | |
| Heb wybod beth fyddai; | |
| Gwythen llygoden geudai, | |
| 64 | Gwaethaf, llo bawaf, lle bai. |
| Rys Meigen, gwden dan gedyrn – grogwydd | |
| Fydd dy ddihenydd, hynaf erddyrn. | |
| Rhusiedig a dig y dyrn – dy ddannedd, | |
| 68 | Rhysedd mehinwledd, wydnwedd wadnwyrn, |
| Rhuglfin gynefin giniawfyrn – frynnig, | |
| Rhyfig ar faeddgig, nid ar feddgyrn. | |
| Rhuthrud wêr a mêr mawr esgyrn – ceudawd, | |
| 72 | Rhythgnawd cyn diawd, myn Cyndëyrn. |
| Rhyfedd yw cemyw camyrn, - bengnawd fêr, | |
| Rhefrgoch gloch y glêr, galchwer gilchwyrn, | |
| Anwr yn sawdwr, ys edyrn - yn rhaid, | |
| 76 | Amnaid delw danbaid, nid ail Dinbyrn, |
| Euog drum lleuog, drem llewyrn - wystnlwyth, | |
| Anwiw ffriw heb ffrwyth, golwyth gelyrn, | |
| Rhwyddlawdr anhuawdr, annhëyrn - rhwymgnawd, | |
| 80 | Rhygrin o gysgawd, groen ac esgyrn, |
| Rhediad dau lygad dilugyrn – chwiltath, | |
| Rhys goegfrys gigfrath, fapgath fepgyrn, | |
| Rhugn sugn soeg gogoeg gegyrn, – rhwthgynfol, | |
| 84 | Rhyfol rhwd heol, nid rhyw tëyrn. |
| Er na wypud, lud lawdr gachsyrn – osgryn, | |
| Nac awdl nac englyn, lleidrddyn lledrddyrn, | |
| Gwas ynfydferw chwerw, chwyrn – afrifed | |
| 88 | Y gwyddut yfed gwaddod tefyrn. |