Dychan i Rys Meigen
Mae yna fwnglerwr hanner call helaeth ei feiau,
annhebyg iawn ei waith i eiddo Gwalchmai;
byddai cwn pob ardal yn cyfarth arno,
4 ni châi na pharch nac anrheg.
Rhys Meigen â'r pen mawr, y mab du ffals,
achosai ddicter lle y mentrai;
y llabwst, ci strae,
8 corodïwr caneuon llaeth enwyn mis Mai.
Ffals, tlawd ac anifeilaidd, ymffrostiai â'i dafod
o Afon Teifi hyd Afon Menai;
corrach oedrannus, ni fyddai neb yn ei gredu,
12 fel ymyl adain, heb nain, heb nai.
Ni fyddai'n ennill cariad arglwyddi,
ni allai fod o ddim lles, mae mor wir â chyffes;
adroddai gerdd mor chwerw â'r wermod,
16 boch epa taeog, byddai'n dynwared yr hyn a wnaf.
Genau digywilydd, geiriau marw nad oeddent yn rhagori,
byddai'r sebonwr yn eu traethu;
adroddai afledneisrwydd eglur,
20 crys hyll, clerwr taer sy'n cardota am flawd yn y plastai.
Tywarchen ddichellgar a chas, er iddo geisio cyffwrdd
ag un chwim, ni allai wneud;
ymryson aml, cyfrwy gwerth dimai,
24 mae'n rhifo pob math o fai.
Negesydd serch tostaf a mwyaf anllad ar ran merched claf,
llwfr mewn brwydr;
ci cachlyd yw'r cardotyn yd cas,
28 coes gwylan craig, un sy'n ymdroi yn y llanw ar drai.
Clytwaith o orchuddion cwrwgl, mae can stribyn o'i drowser,
hen leidr bach brwnt;
ni fedrai reolau iaith fydryddol,
32 nid âi i frwydr nac i ryfel ffyrnig.
Tlawd ei gerdd, ceffyl marchogaeth pwdr ei gnawd, clerwr
brwnt â gweflau mawr seimllyd;
byddai'r gwas ffals sarrug yn troi
36 canmil o chwilod rhwng pawb.
Cerdd gecrus ci main ei enau â cheg lwyd gan geuled a thin
sy'n maglu,
bol mawr sy'n crwydro'n hir ac yn araf i ymadael;
cafn rhwyllwaith mam cardotyn blawd,
40 cefn fel rhisgl coed a saif heb wisg gysegredig.
Gwas cas â choesau brychlyd, chwithig, â llodrau
llawn gwynt, gwargam a gwan,
gwyn ei fyd y sawl a fyddai'n ei grogi;
gwaith beichus sy'n treulio llestr cywair llaeth cardotyn
cawl,
44 gwar gwrcath gwydn sy'n chwilota'n chwim.
Un ffyrnig, cyflym ei wefus, meddwai ar gwrw,
porchell chwyrn ei swn pan chwydai;
un tyllog ei wisg sy'n rhidyllu hocys, cocos cardotyn cig,
48 gwisgoedd blêr hyll ryfeddol, garw, pislyd a
thyllog.
Herwr a chardotyn crwydrol, taflai
[peth] llawn llau â llaw frwnt;
gwellau diawl, achos gwae lle bynnag y deuai,
52 tywalltwr llwfr dwr claear cleiog.
Corff anghennus fel llath to (?), nid Cai Hir dewr,
anaml y byddai'n sefyll ei dir mewn brwydr;
sugnai delpyn o wêr soeglyd,
56 gwar fel hen groen anifail, darn o ledr llwyd.
Diod o waddod fyddai'n gweddu i'r pryfyn,
mor wan ag oen newydd oer mewn brwydr,
maintioli cardotyn boliog,
60 gwallt garw, ni bu epa gwryw llai.
Canai gyfansoddiad o iaith gecrus i bawb
heb wybod beth ydoedd;
gwythïen llygoden cachdai,
64 llo bryntaf, gwaethaf lle bynnag y byddai.
Rys Meigen, rhaff grogi dan grocbrennau cedyrn
fydd dy ddihenydd, arddyrnau hen ddyn.
Mae dy ddannedd yn pwnio'n wyllt ac yn ffyrnig,
68 gormodedd gwledd o fraster, garw ei wedd a chynrhonllyd ei
droed,
genau huawdl pwdr cyfarwydd â llwyth o ginio,
bolera ar gig baedd, nid ar gyrn medd.
Byddet yn llowcio saim a mêr esgyrn mawr crombil,
72 cnawd barus cyn diod, myn Cyndeyrn.
Rhyfedd yw eog â beichiau cam, gwaell â phen
ciglyd,
cloch dingoch y clerwyr, chwarennau seimllyd lliw calch,
llwfrgi yn filwr, ofnadwy mewn brwydr,
76 arwydd ffyrnig ei ddull, nid fel Dinbyrn,
un euog â chefn lleuog, golwg llwynog fel llwyth o bren
crin,
wyneb hyll diffrwyth, llestri cig,
trowser llac anfwyn, cnawd rhwym anfonheddig,
80 drychiolaeth wywedig, croen ac esgyrn,
symudiad llygaid pwl chwilgar,
Rhys sy'n brysio'n ofer ac yn brathu cig, crafangau cath
fach,
swn sugno gweddillion afalau sur gwag, bol fel cyn
mawr,
84 bol wedi tewhau ar faw heol, nid yw o dras fonheddig.
Er na fedri, hergwd â throwser glynedig llawn cachu,
nac awdl nac englyn, lleidr â dyrnau fel lledr,
y llanc chwerw sy'n parablu'n ddwl, cyflym dros ben
88 y medri yfed gweddillion diodydd tafarnau.