| Dychan i Rys Meigen | |
| Mae yna fwnglerwr hanner call helaeth ei feiau, | |
| annhebyg iawn ei waith i eiddo Gwalchmai; | |
| byddai cŵn pob ardal yn cyfarth arno, | |
| 4 | ni châi na pharch nac anrheg. |
| Rhys Meigen â'r pen mawr, y mab du ffals, | |
| achosai ddicter lle y mentrai; | |
| y llabwst, ci strae, | |
| 8 | corodïwr caneuon llaeth enwyn mis Mai. |
| Ffals, tlawd ac anifeilaidd, ymffrostiai â'i dafod | |
| o Afon Teifi hyd Afon Menai; | |
| corrach oedrannus, ni fyddai neb yn ei gredu, | |
| 12 | fel ymyl adain, heb nain, heb nai. |
| Ni fyddai'n ennill cariad arglwyddi, | |
| ni allai fod o ddim lles, mae mor wir â chyffes; | |
| adroddai gerdd mor chwerw â'r wermod, | |
| 16 | boch epa taeog, byddai'n dynwared yr hyn a wnaf. |
| Genau digywilydd, geiriau marw nad oeddent yn rhagori, | |
| byddai'r sebonwr yn eu traethu; | |
| adroddai afledneisrwydd eglur, | |
| 20 | crys hyll, clerwr taer sy'n cardota am flawd yn y plastai. |
| Tywarchen ddichellgar a chas, er iddo geisio cyffwrdd | |
| ag un chwim, ni allai wneud; | |
| ymryson aml, cyfrwy gwerth dimai, | |
| 24 | mae'n rhifo pob math o fai. |
| Negesydd serch tostaf a mwyaf anllad ar ran merched claf, | |
| llwfr mewn brwydr; | |
| ci cachlyd yw'r cardotyn ŷd cas, | |
| 28 | coes gwylan craig, un sy'n ymdroi yn y llanw ar drai. |
| Clytwaith o orchuddion cwrwgl, mae can stribyn o'i drowser, | |
| hen leidr bach brwnt; | |
| ni fedrai reolau iaith fydryddol, | |
| 32 | nid âi i frwydr nac i ryfel ffyrnig. |
| Tlawd ei gerdd, ceffyl marchogaeth pwdr ei gnawd, clerwr | |
| brwnt â gweflau mawr seimllyd; | |
| byddai'r gwas ffals sarrug yn troi | |
| 36 | canmil o chwilod rhwng pawb. |
| Cerdd gecrus ci main ei enau â cheg lwyd gan geuled a thin sy'n maglu, | |
| bol mawr sy'n crwydro'n hir ac yn araf i ymadael; | |
| cafn rhwyllwaith mam cardotyn blawd, | |
| 40 | cefn fel rhisgl coed a saif heb wisg gysegredig. |
| Gwas cas â choesau brychlyd, chwithig, â llodrau llawn gwynt, gwargam a gwan, | |
| gwyn ei fyd y sawl a fyddai'n ei grogi; | |
| gwaith beichus sy'n treulio llestr cywair llaeth cardotyn cawl, | |
| 44 | gwar gwrcath gwydn sy'n chwilota'n chwim. |
| Un ffyrnig, cyflym ei wefus, meddwai ar gwrw, | |
| porchell chwyrn ei sŵn pan chwydai; | |
| un tyllog ei wisg sy'n rhidyllu hocys, cocos cardotyn cig, | |
| 48 | gwisgoedd blêr hyll ryfeddol, garw, pislyd a thyllog. |
| Herwr a chardotyn crwydrol, taflai | |
| [peth] llawn llau â llaw frwnt; | |
| gwellau diawl, achos gwae lle bynnag y deuai, | |
| 52 | tywalltwr llwfr dŵr claear cleiog. |
| Corff anghennus fel llath to (?), nid Cai Hir dewr, | |
| anaml y byddai'n sefyll ei dir mewn brwydr; | |
| sugnai delpyn o wêr soeglyd, | |
| 56 | gwar fel hen groen anifail, darn o ledr llwyd. |
| Diod o waddod fyddai'n gweddu i'r pryfyn, | |
| mor wan ag oen newydd oer mewn brwydr, | |
| maintioli cardotyn boliog, | |
| 60 | gwallt garw, ni bu epa gwryw llai. |
| Canai gyfansoddiad o iaith gecrus i bawb | |
| heb wybod beth ydoedd; | |
| gwythïen llygoden cachdai, | |
| 64 | llo bryntaf, gwaethaf lle bynnag y byddai. |
| Rys Meigen, rhaff grogi dan grocbrennau cedyrn | |
| fydd dy ddihenydd, arddyrnau hen ddyn. | |
| Mae dy ddannedd yn pwnio'n wyllt ac yn ffyrnig, | |
| 68 | gormodedd gwledd o fraster, garw ei wedd a chynrhonllyd ei droed, |
| genau huawdl pwdr cyfarwydd â llwyth o ginio, | |
| bolera ar gig baedd, nid ar gyrn medd. | |
| Byddet yn llowcio saim a mêr esgyrn mawr crombil, | |
| 72 | cnawd barus cyn diod, myn Cyndeyrn. |
| Rhyfedd yw eog â beichiau cam, gwaell â phen ciglyd, | |
| cloch dingoch y clerwyr, chwarennau seimllyd lliw calch, | |
| llwfrgi yn filwr, ofnadwy mewn brwydr, | |
| 76 | arwydd ffyrnig ei ddull, nid fel Dinbyrn, |
| un euog â chefn lleuog, golwg llwynog fel llwyth o bren crin, | |
| wyneb hyll diffrwyth, llestri cig, | |
| trowser llac anfwyn, cnawd rhwym anfonheddig, | |
| 80 | drychiolaeth wywedig, croen ac esgyrn, |
| symudiad llygaid pŵl chwilgar, | |
| Rhys sy'n brysio'n ofer ac yn brathu cig, crafangau cath fach, | |
| sŵn sugno gweddillion afalau sur gwag, bol fel cŷn mawr, | |
| 84 | bol wedi tewhau ar faw heol, nid yw o dras fonheddig. |
| Er na fedri, hergwd â throwser glynedig llawn cachu, | |
| nac awdl nac englyn, lleidr â dyrnau fel lledr, | |
| y llanc chwerw sy'n parablu'n ddwl, cyflym dros ben | |
| 88 | y medri yfed gweddillion diodydd tafarnau. |