â â â Y Drindod
1â â â Da fu'r Drindod heb dlodi
2â â â A wnaeth nef a byd i ni.
3â â â Da fu'r Tad yn anad neb
4â â â Roi Anna ddiwair wyneb.
5â â â Da fu Anna dwf uniawn
6â â â Ddwyn Mair Forwyn ddinam iawn.
7â â â Da fu Fair ddiwair eiriawl
8â â â Ddwyn Duw i ddiwyno diawl.
9â â â Da fu Dduw Iôr, ddioer oroen,
10â â â Â'i Groes ddwyn pumoes o'u poen.
11â â â Da y gwnêl Mab Mair, air addef,
12â â â Ein dwyn oll bob dyn i nef.