Y Drindod
Da fu'r Drindod
a wnaeth y nefoedd a'r byd ar ein cyfer heb ddiffyg.
Da fu'r Tad yn fwy na neb
4 [wrth] roi Anna ddihalog ei hanrhydedd.
Da fu Anna berffaith ei ffurf
[wrth] esgor ar Fair Forwyn bur iawn.
Da fu Fair [a'i] hymbil dilys [ar ein rhan]
8 [wrth] esgor ar Dduw er mwyn [iddo] ddifetha'r diafol.
Da fu yr Arglwydd Dduw, gorfoledd diamwys,
[wrth] ddwyn pumoes [y byd] o'u dioddefaint â'i Groes.
Da y bydd Mab Mair yn sicrhau, addewid cydnabyddedig,
12 ein bod ni i gyd, bob creadur, yn cael ein dwyn i'r nef.