Dafydd gau merydd gi mall, 
   Tydi fab y tadau oll,
   Gwenais dy fam, gam gymell,
   Uwch ei thin, och, yn ei thwll.
Yn ôl traddodiad syrthiodd Rhys Meigen yn farw pan glywodd awdl
		Dafydd. Cofnodwyd y traddodiad hwn â geiriad tebyg iawn yn H 26 a Pen 49,
		a rhesymol yw tybio mai nodyn wrth yr awdl yn y Vetustus oedd y ffynhonnell.
		Dyma nodyn Pen 49: 	
	 yr Englyn or blaen a ganwyd ar geinaw Ddyw nadalig
			 ym-mhlas lln' apGlm' Vychan ap Glm' ap Gwrwared yn Neheubarth, A
			 Dafydd a wnaeth yrowdl or blaen i Rys Meigen ac ai canodd yn i wydd, ac ynte
			 a syrthioddyn farw, os gwir a ddywedant.	 Credid yn gyffredin yng Nghymru ac Iwerddon fod dychan y bardd yn gallu
		peri niwed a hyd yn oed lladd pobl (gw. ymhellach Johnston, 2005, pennod 13), a
		diau y byddai Rhys Meigen ei hun yn credu yng ngrym y dychan. Gallasai arswyd
		beri iddo fynd yn sâl a marw yn y fan a'r lle neu'n fuan wedyn. Ategir y
		traddodiad am ei farwolaeth gan gyfeiriadau yn yr ymryson rhwng Dafydd ap
		Gwilym a Gruffudd Gryg. Dywed Gruffudd ar ddiwedd ei drydydd cywydd: ' 'Mogel,
		nid mi Rys Meigen' (27.66), ac yn ei ateb rhybuddiodd Dafydd: ' 'Mogel di fod .
		. . yn Rhys wyrfarw . . . a las â gwawd' (28.58-60). Ond nid yw
		cerddi ymryson yn ddibynadwy fel tystiolaeth ffeithiol oherwydd yr elfen gref o
		ddychymyg a ffantasi a geir ynddynt. Nid annichon mai geiriau Dafydd yn yr
		ymryson a roes fod i'r traddodiad am farwolaeth Rhys Meigen a gofnodwyd yn y
		Vetustus. Mae nodyn Pen 49 hefyd yn awgrymu bod cyd-destun defodol i gerddi'r ddau
		fardd. Mae nifer o enghreifftiau o feirdd yr Oesoedd Canol yn dychanu'i gilydd
		yn ddigon deifiol ac aflednais er difyrrwch i gynulleidfa adeg gwyl fel y
		Nadolig. Fe geir hefyd esiamplau o ymryson rhwng bardd y llys a bardd o fro
		arall (e. e. yr un rhwng Casnodyn a Thrahaearn Brydydd Mawr ychydig cyn cyfnod
		Dafydd ap Gwilym, GGDT cerdd 13, GC cerdd 11). Gan mai mewn gwledd yn llys ei
		ewythr y canwyd y cerddi mae'n debyg bod Dafydd yn chwarae rôl bardd y
		llys. Tybed a oedd y gerdd hon yn perthyn i gyfnod ei hyfforddiant barddol
		gyda'i ewythr? Cysylltir Dafydd ap Gwilym a Rhys Meigen eto mewn cyfres o benillion
		ymddiddan (tri englyn ac un pâr o doddeidiau) a briodolir i'r ddau mewn
		nifer o lawysgrifau o'r 17eg ganrif ymlaen. Argraffwyd y ddau cyntaf, y naill
		gan Rys a'r llall gan Ddafydd, yn GDG t. 419 (cerdd xix) o lsgr LlGC 836; ceir
		y pedwar pennill yn Ba 92 a G 19 etc. Yn ei englyn cyntaf mae Rhys yn gorchymyn
		i Ddafydd roi gwair i'r meirch, ac yn y ddau englyn arall sonnir am ganu
		cerddi. Mae'n annhebygol bod y penillion yn waith dilys y ddau fardd (gw.
		ymhellach Cerddi'r Apocryffa, rhif A5), ond maent yn dystiolaeth i gyswllt
		traddodiadol rhwng y ddau.  Heblaw'r cerddi a nodwyd uchod ni oroesodd dim o waith Rhys Meigen, a'r
		cwbl a wyddys amdano yw'r hyn y gellir ei gasglu o'r gerdd hon, sef ei fod yn
		glerwr cyffredin. Yr unig fro o'r enw Meigen yw'r un ger y Trallwng ym Mhowys,
		ac mae'n debyg mai brodor o'r ardal honno oedd Rhys. Ond sylwer hefyd fod nant
		o'r enw Meigan, fel y tystia'r enwau ffermydd Dyffryn Meigan, Pistyll Meigan a
		Penlanfeigan rhwng Boncath ac Eglwyswrw yng ngogledd sir Benfro, yn agosach i
		gynefin Dafydd ei hun a'i ewythr (gw. nodiadau cerddi 5 a 6). Dwy ran sydd i'r awdl hon, sef cadwyn o un ar bymtheg o englynion unodl
		union ar yr odl -ai, a chyfres o 24 llinell ar fesur
		toddaid. Trafodir cynganeddiad yr englynion (ar sail testun GDG) yn Crawford,
		1985, a chynganeddiad y toddeidiau yn Crawford, 1990. Mae cynganeddiad yr
		englynion (gan gynnwys y cynganeddion pengoll rhwng y gair cyrch a'r ail
		linell, ond gan ddiystyru ll. 39 sy'n ddigynghanedd fel y saif) fel a ganlyn:
		41 llinell o sain (64%), 13 llinell o groes (20%), 7 llinell o draws (11%) a 2
		linell o lusg (3%). Ac yn y toddeidiau ceir 22 linell o sain (92%) a 2 linell o
		groes (8%). Cyfartaledd y gynghanedd sain ar gyfer y gerdd gyfan yw 72%.  Cadwyd yr awdl hon mewn 20 copi llawysgrif, ac mae'r testunau'n
		ymrannu'n ddau fersiwn. Y fersiwn llawnaf yw'r un sy'n deillio o'r Vetustus (H
		26 a Pen 49). Ceir fersiwn arall, sydd â nifer o linellau yn eisiau a
		threfn wahanol yn yr englynion a'r toddeidiau, mewn tri chopi sy'n deillio o
		ffynhonnell gyffredin goll, sef Ll 122, Br 6 a LlGC 6209 (cyfeirir at hwn yn y
		nodiadau isod fel fersiwn Ll 122). Mae testunau Pen 49 a Bl e 1 yn cynnwys rhai
		darlleniadau o'r ail fersiwn, ac felly H 26 yw'r unig un sy'n cynrychioli
		testun y Vetustus yn unig. Mae testunau'r llawysgrifau yn amlwg yn llwgr mewn
		sawl man o ran mydr, cynghanedd a synnwyr, ac mae lle i gredu bod ambell
		ddarlleniad wedi'i golli'n gynnar yn hanes trosglwyddo'r gerdd (e.e.
		cynnwgl yn ll. 29). 2.  Gwalchmai sef Gwalchmai ap Meilyr,
		un o feirdd llys Gwynedd yn y 12fed ganrif (gw. CBT I, 127-313). 3. cwn Dyma'r enw a ddisgwylid
		gyda'r ferf cyfarthai, ond nid amhosibl yw
		clêr fersiwn Ll 122 (a hefyd mewn bwlch a adawyd
		yn wag yn Pen 49), a'r ferf yn eu delweddu fel cwn. 4. cymyrred ffurf amrywiol ar
		cymyrredd, 'parch', gw. GPC 775-6. 5. Darlleniad fersiwn y Vetustus oedd magai i brydydd brad ac ofn, ond mae Bl e 1 yn cyd-fynd
		â'r llsgrau eraill. 6. lle beiddiai  darlleniad y Vetustus,
		ac un anos na lle byddai fersiwn Ll 122 a
		lle delai Bl e 1. 8.  corodyn Yr unig ystyr a roddir i'r
		gair yn GPC 564 yw 'teclyn, anwylbeth, tegan'. Mae honno'n gweddu'n iawn yn
		83.30 a 71.7, ac mae'n bosibl yma hefyd. Ond ceir ystyr dda iawn yma ac yn
		47.58 (ac efallai yn GDG 143.7 hefyd) o'i ddeall fel y sawl a dderbyniai
		corrodium, sef ymgeledd mewn mynachlog (gw. 47.58n.).
		13. Dilynodd Parry fersiwn Ll 122, Cariad, lliw rhuddiad, yn lle rhoddai bres. rhyfai  cymh. CBT I, 7.18. 16.  âb Er mai p a geir yn y gair yn y llsgrau i gyd, hon yw'r ffurf yn yr
		enghrau cynharaf, gw. GPC2 6, ac fe'i profir gan
		odl yn 105.10.  a wnaf Dilynwyd Ll 122 a Br 6, yn
		hytrach na fersiwn y Vetustus a LlGC 6209, ni wnaf a
		wnâi. Roedd yr epa'n adnabyddus am ei duedd i ddynwared pobl (cf. yr
		ymadrodd Saesneg to ape), a'r ergyd yma yw bod Rhys yn
		dynwared Dafydd wrth farddoni. 17-20.Mae'r englyn hwn yn eisiau yn fersiwn Ll 122.
		17. rhain  Dilynwyd GDG wrth ddiwygio
		riain y llsgrau gan fod y llinell yn rhy hir. Cymerir
		mai'r ansoddair, 'syth, marw gelain' yw hwn, gw. GPC 3033. 19.  croesanaeth  Cymh. 30.53
		(pedwerydd cywydd Dafydd yn yr ymryson) lle defnyddir y gair am gerdd Gruffudd
		Gryg. Yn y Gramadegau mae'r ansoddair croesan, 'anllad,
		difrïol, digywilydd', yn disgrifio'r clerwr, a diau fod y darn hwn yn
		crynhoi barn Dafydd am waith Rhys Meigen: 'a chrefft y klerwr kroessan yw
		anghanmawl, ac anglotuori, a goganu, a gwneuthur kywilyd a mefyl ac anglot, a
		chroessangerd anossparthus yw heb allel barnu arnei, kanys ymboergerd vvdyr yw'
		(GP 56).   soniai Ni cheir darlleniad GDG,
		seiniai, yn yr un o'r llsgrau cynnar. 21. Disgwylid gwys yn dilyn
		ansoddair, ond ni cheir treiglad ar ôl y cysylltair cyd (gw. TC 380-1). 21-2.Ceir gwbl a gobr yn
		fersiwn y Vetustus, ond mae sillaf yn brin yn y ddwy linell. 23.  cyfredAr sail yr ystyr 'ymryson
		rhedeg' (gw. GPC 713) cymerir mai at ymryson barddol y cyfeirir. 25-8. Mae'r englyn hwn yn eisiau yn fersiwn Ll 122.
		27.  sietwn Gw. GPC 3273 lle cynigir
		bod hwn yn fenthyciad o'r S.C. shetun, ffurf amrywiol
		ar shiten, 'cachlyd'.  ytai  Dilynwyd GDG wrth ddiwygio
		attai y llsgrau. 28. Gellid disgwyl gwylan graig, ond
		y ffurf gysefin a geir yn y llsgrau.   treiglwraig trai Cymh.
		trywanwraig trai 116.37. 29.  cynnwgl  Darlleniad llsgrau'r ddau
		fersiwn yw carp trwsgl, ond mae'r odl â
		cwrwgl yn anfoddhaol, a'r unig amrywiad yw
		karwskl yn lle cwrwgl yn LlGC
		6209, ymgais amlwg i gywiro'r odl wallus. Gellid cadw carp a diwygio trwsgl, ond nid oes
		gair unsill a ddarparai odl. Penderfynwyd diwygio'r ddau air, felly. Mae hwn yn
		air prin a geir mewn amryw ffurfiau yn y cyfreithiau, a'i ystyr yn ôl GPC
		797 oedd math o ddilledyn ar lun blanced. Ond gw. ymhellach C. Michiel Driessen
		a Caroline Aan de Wiel, 'British *sudiklo- and *kentunklo-, two loans from Latin', SC XXXVII (2003),
		17-34, lle cynigir yr ystyr 'patchwork garment' o'r math a wisgid gan
		dlodion, ystyr sy'n cyd-fynd yn dda â gweddill y llinell. Gw. ymhellach
		Paul Russell 'Welsh *Cynnwgl and Related Matters', SC
		XXXIX (2005), 181-8. Ni chofnodwyd enghraifft o cynnwgl y tu allan i'r testunau cyfreithiol, a'r tebyg yw
		iddo ddiflannu o'r iaith cyn diwedd yr Oesoedd Canol, felly o'i dderbyn fel y
		darlleniad gwreiddiol yma hawdd deall pam y rhoddwyd gair tebyg ei ystyr yn ei
		le, a trwsgl yn ymgais i gael rhyw fath o odl. 30. leidryn  Br 6 yw'r unig lsgr. sy'n
		cefnogi darlleniad GDG, ledryn (cymh. 56 isod). Ceir
		llyna leidr yn H 26 a Pen 49. 32. Sylwer bod y llinell hon wedi'i hailgyfansoddi yn llwyr
		yn Bl e 1, koeg ruwr bas torrwr
		tai, a bod rhwybeth tebyg wedi'i nodi fel cywiriad yn H 26. 33. bastynwas  Cymh. bastynwyr 108.32. Yn ôl GPC 263, clerwr yn cyfeilio
		iddo'i hun trwy guro pastwn ar y llawr oedd bastynwr,
		ond cynigiodd Parry, GDG 506, mai'r Saesneg baston yn
		yr ystyr 'pennill' yw'r elfen gyntaf. 34.Ceir darlleniad haws, ac amheus o'r herwydd, yn fersiwn
		Ll 122, bost anardd rhwyg bastai.   ysgai  Gw. GPC 3831 lle nodir
		esiamplau eraill o gerddi dychan y Llyfr Coch. Ond sylwer mai
		o asgai yw darlleniad fersiwn y Vetustus. Nodir
		asgai fel ffurf amrywiol ar ysgai yn GPC 220, gan ddyfynnu'r llinell hon o Pen 49. 37-40.   Mae'r englyn hwn yn
		eisiau yn fersiwn Ll 122, ac mae'r testun yn amlwg yn llwgr yn llsgrau fersiwn
		y Vetustus. 37. cardlawd  Hon yw'r unig enghr. o'r
		gair yn GPC 424, a chynigir '? tlawd neu fain ei enau' ar sail nodyn Parry, GDG
		463.  cecyrdlai  Cymerir mai
		ceg yw'r elfen gyntaf, ac mai llai, 'llwyd' yw'r elfen olaf, ond anodd gwybod beth yw'r
		elfen arall. Ai cwrd o'r Saesneg 
		curd, 'ceuled' (er nas nodir yn GPC)? 38.  Mae'r llinell hon sillaf yn fyr.
		39.   Mae hon hefyd sillaf yn fyr, ac
		nid oes cynghanedd lawn ynddi, er bod cyffyrddiad o gynghanedd rhwng
		latys a blotai. 40.   Mae'r llinell hon yn rhy hir o
		sillaf. Gellid diwygio'r geiriau olaf i a âi, a'u
		cywasgu'n un sillaf, gan roi cynghanedd sain drosgl. 45. gwythlyd  darlleniad Pen 49.
		Seiliwyd gwythlud GDG ar gwyddlud H 26 a Bl e 1. gofloesgai  darlleniad LlGC 6209; ceir
		a floesgai yn Pen 49, a gwiw
		floesgai yn y llsgrau eraill (ac felly gwyw
		floesgai yn GDG). 46.  banw  darlleniad fersiwn Ll 122;
		ceir poen . . . pan yn fersiwn y Vetustus. 47-48.  Rhoddwyd llau 59-60
		yn lle'r cwpled hwn yn fersiwn Ll 122. (Mae'r englyn sy'n cynnwys y llinellau
		hynny yn eisiau yn y fersiwn hwnnw.) Gan fod rhaid dibynnu ar fersiwn y
		Vetustus yn unig, mae darlleniadau'r ddwy linell yn ansicr iawn. 47. beillhocs Ceir bell r(h)wysg yn H 26 a Pen 49, a bell
		chwysg yn Bl e 1. Mae'r llinell yn rhy hir fel y saif yn y llsgrau, felly
		penderfynwyd cywasgu cocys i cocs (gw. GPC 524) a llunio'r gair cyfansawdd hwn er mwyn
		rhoi cynghanedd sain ddwbl. Bôn y ferf peillio,
		'rhidyllu', yw'r elfen gyntaf, ac mae'r ail yn fenthyciad o'r S.C.
		hockes, 'mallows' (gw. GPC 1882 d.g. hocys). 48. byll hyll Ceir byllt hyllt yn H 26 a Bl e 1, a byllt
		syllt yn Pen 49, oherwydd camdybio bod angen odli â gair cyntaf y
		llinell mae'n debyg.  oeth . . . troeth Ceir
		hoen yn y tair llsgr., a troen
		yn H 26 a Bl e 1 (gadawyd bwlch ar gyfer y tair sillaf olaf yn Pen 49), a dyna
		a argraffwyd yn GDG. Ni chafwyd unrhyw oleuni ar troen,
		felly penderfynwyd diwygio'r ddau air. Gwelir oeth yn
		aml yn y ffurf gryfhaol anoeth. Ceir cynghanedd sain
		ddwbl yn y llinell hon, fel yn yr un flaenorol. 49. lleuedig  Dilynodd Parry fersiwn Ll
		122, llifiedig (darlleniad a ychwanegwyd yn
		ddiweddarach yn y bwlch a adawyd ar gyfer y gair yn Pen 49 hefyd), ond nid oedd
		rhaid ateb yr f yn fudr. Gw.
		GPC 2167 lle nodir dwy enghr. o'r gair hwn o Ystorya de
		Carolo Magno. Rhaid deall yr ansoddair mewn ystyr enwol, 'deunydd llawn
		llau'. 52. llwfr  Gellir ei ddeall yn ei ystyr
		gyffredin yma gan fod llyfrdra Rhys Meigen yn thema amlwg yn y gerdd, ond
		cofier hefyd am yr ystyr 'llaith' (gw. 50.29n).  claerddwfr  Dilynodd Parry H 26 a Bl e
		1, clerddwfr (ceir kloddiwr yn
		Pen 49), a gellir tybio mai 'flies' yw elfen gyntaf y gair hwnnw. 53.  goreilgorff  darlleniad ansicr
		iawn. Dilynodd Parry fersiwn y Vetustus, gwir eilgorff,
		ond mae hwnnw'n wan o ran synnwyr. Mae hwn yn seiliedig ar gwereilgorff LlGC 6209. Yr elfen gyntaf yw'r gair prin
		gorail, 'to, cronglwyd' (gw. GPC 1460), a'r ergyd
		efallai yw fod esgyrn ei gorff yn sefyll allan fel ffrâm to (cymh. 80
		isod).  gwrolGai Hir  nai y Brenin Arthur a'r
		gwrolaf o'i filwyr yn ôl traddodiad, gw. TYP3
		308-11 a chymh. iawnGai angerdd 44.13. 55. soegen Ceir soegnen ymhob llsgr ond Ll 122, lle'r ychwanegwyd yr
		n yn ddiweddarach. O ran cynghanedd mae darlleniad y
		llsgrau'n well, gan ei fod yn osgoi'r bai crych a llyfn, ond o ran ystyr hwn
		sydd orau, sef ffurf fenywaidd soegyn, gw. GPC 3316.
		56.  Dilynwyd fersiwn Ll 122 yma. Gwahanol iawn yw fersiwn y
		Vetustus a ddilynwyd yn GDG, Gorwag, croenyn llwydwag
		llai. Mae ailadrodd gwag yn un rheswm dros wrthod
		hwnnw, a sylwer mai lledryn llai oedd darlleniad
		gwreiddiol Bl e 1. 57-60.   Mae'r englyn hwn yn
		eisiau yn fersiwn Ll 122, ond ceir 59-60 fel esgyll englyn arall (=
		47-8 yma). 59. ateth  Cynigir yn betrus yn GPC 227
		mai ad + teth sydd yma,
		'tethog, boliog' ar sail yr enghr. yn awdl ddychan Trahaearn Brydydd Mawr i
		Gasnodyn (GGDT 13.30). Mae'n debyg nad oes perthynas rhwng hwn ac
		atethol (ad +
		dethol) a geir yn 56.49. 60. plu  Ar yr ystyr drosiadol 'gwallt'
		gw. 137.24n. 61-64.  Mae'r englyn hwn yn eisiau
		yn fersiwn Ll 122. 61. o  Pen 49 yn unig sy'n cynnwys y
		gair hwn, ac fe ddichon mai ymgais ydyw gan John Davies i gywiro llinell fer yn
		ei gynsail. 65. grogwydd  Ni cheir darlleniad GDG,
		coedwydd, yn yr un o'r llsgrau. 66. hynaf  Mae tystiolaeth y llsgrau'n
		rhanedig rhwng y ffurf hon (H 26, Pen 49, a LlGC 6209) a hynaif (Bl e 1, Ll 122 a Br 6). Dewiswyd yr ail yn GDG, ac
		er nad yw'r ffurf luosog yn gweddu yma gall hynaif fod
		yn ffurf unigol hefyd (cymh. GDG 15.36 a gw. GPC 1974). 68. rhysedd   Ceir rhyfedd yn fersiwn y Vetustus a GDG, ond mae hwn yn well o
		ran synnwyr a chymeriad cynganeddol.  giniawfyrn Felly y dehonglir
		darlleniad fersiwn Ll 122, cynhiawfyrn. Darllenodd
		Parry geneufyrn ar sail Pen 49, gemhowfyrn a H 26 a Bl e 1, genhowgfyrn. 72. Cyndëyrn  Y sant enwocaf o'r
		enw yw'r un a gysylltir â Llanelwy, ond cofier hefyd am nawddsant
		Llangyndeyrn yn sir Gaerfyrddin. 73-4.   Mae'r toddaid hwn yn
		eisiau yn Pen 49. 73. cemyw camyrn  cenyw canyrn yw prif ddarlleniad y llsgrau, ac mae'n debyg
		mai ymgais i wneud synnwyr o hynny yw knyw kaneyrn Br 6
		a ddilynwyd yn GDG. Mae cemyw, 'gleisiedyn, eog gwryw',
		yn air sy'n digwydd ddwywaith yn awdl ddychan Casnodyn i Drahaearn Brydydd
		Mawr, gw. GC 11. 5 a 169 a GPC 460. Cymerir mai lluosog mwrn, ffurf amrywiol ar bwrn (GPC
		2512), yw'r ail elfen; posibilrwydd arall yw ei bod yn amrywiad ar
		murn, 'twyll'.  bengnawd fêr Anodd penderfynu
		sut y dylid rhannu'r tri gair hyn. Ceir ben gwowdfer yn
		H 26 a Bl e 1, ben gnowdfer yn Ll 122 (a ddilynwyd yn
		GDG), ben gnowd fer yn Br 6, a darlleniad y testun yn
		LlGC 6209. A chymryd mai  bêr, 'cigwain', sydd
		yma, mae'r ansoddair cyfansawdd pengnawd yn ddisgrifiad
		ystyrlon ohono. A derbyn darlleniad GDG yr ystyr fyddai fod pen Rhys fel
		cigwain, ond anodd esbonio'r treiglad i'r ail air. 75. ys edyrn  Ceir ansedyrn yn fersiwn y Vetustus, ond ni wyddys am enghr.
		arall o'r gair hwnnw. Mae edyrn, 'aruthr, trwm', yn
		ddigon cyffredin yn y canu cynnar, gw. GPC 1169 a G 442. 76.  Dinbyrn  Yr unig gyfeiriad arall
		at y cymeriad hwn yw'r un gan Einion ap Gwalchmai mewn awdl fawl i Lywelyn ab
		Iorwerth, 'angerdd Dinbyrn' (CBT I, 25.17). Ni wyddys dim oll amdano, ond
		gellir tybio ei fod yn arwr traddodiadol. 77. drum lleuog  Darllenodd Parry
		drymlleuog ar sail Pen 49 a fersiwn Ll 122,
		drwm lleuog, ond ceir ystyr gryfach o ddilyn H 26 a Bl
		e 1 fel hyn (cymh. 63.37).  llewyrn  Cynigir yn betrus yn GPC 2172
		mai enw lluosog yn golygu 'llwynogod' yw hwn. 79-80.  Mae'r toddaid hwn yn
		eisiau yn fersiwn Ll 122. 79. anhuawdr  Darlleniad y llsgrau (
		fersiwn y Vetustus yn unig) yw rhwyddlodr anheodr.
		Nodir anheodr yn GPC1 125
		fel ffurf amrywiol ar anhuawdr, ond hon yw'r unig
		enghr. (rhith yw'r enghr. o Pen 57 a nodir yno, gw. GPC 2570 d.g.
		neodr), ac ni ddigwydd heodr
		chwaith fel amrywiad ar huawdr, 'tirion'. Gan mai
		 llawdr yw'r ffurf unigol yn gyson (gan gynnwys dwy
		enghr. yn y gerdd hon, llau 29 a 85), newidiwyd y sain yn y ddau air. 81. dau lygad  Dilynodd Parry fersiwn y
		Vetustus a LlGC 6209, dy lygad, ond mae'r ffurf ddeuol
		yn fwy ystyrlon yma. Cymh. ffurfiau fel dwylaw a
		dwyglust, a'r Llydaweg daoulagad. 82. fapgath fepgyrn  Ystyr
		mapgorn yw 'rhan fewnol corn anifail, corn mewnol
		tyner' (GPC 2351). Efallai mai crafangau meddal cath fach a feddylir. 83. rhugn  Dyfynnir yr enghr. hon o dan
		rhygn, 'swn rhygnu', yn GPC 3137.  rhwthgynfol   Ceir rheidwal yn fersiwn y Vetustus, sy'n gadael y llinell yn
		fyr ac yn achosi problem o ran yr odl gyrch (ceir heal
		yn y ll. nesaf). Lluniwyd y gair hwn ar sail rhwthynfol
		Ll 122 a LlGC 6209 (cymh. rhwynfol Br 6). Yr elfen
		gyntaf yw  rhwthgyn, ffurf a nodir yng ngeiriadur
		Thomas Wiliems fel amrywiad ar rhytgyn ('Rytcyn .i.
		rhwthcyn . . . cuneus magnus'), 'cyn' neu 'lletem' (gw. GPC 3062 d.g.
		rhetgyn). Er na wyddys am enghr. arall y tu allan i'r
		geiriaduron, fe ymddengys fod hwn yn air byw yn yr 16fed ganrif. Mae darlleniad
		GDG yn bellach oddi wrth y llsgrau, 'rhwth rwymfol'. 84. rhwd  Ceir rhyd yn Pen 49, ac  ar hyd yn H 26
		a Bl e 1. Ymhlith ystyron cynnar y gair yr oedd 'baw, llaid', gw. GPC 3107.
		85-8.   Bu'n rhaid i Parry ddadlau
		(GDG 464) mai 'am, oherwydd' yw ystyr er yn y frawddeg
		hon, a hynny am iddo fabwysiadu darlleniad Pen 49 yn ll. 88, gwedd yt yfed. Ond gwyddut a geir
		yn neilliaid eraill y Vetustus ac yn LlGC 6209 (a gwyddiat yn Ll 122 a Br 6), ac o dderbyn hynny gellir deall
		er yn ei ystyr arferol. Pwynt allweddol o ran ergyd y
		frawddeg yw cymryd chwyrn afrifed ar ddiwedd ll. 87 fel
		adferf yn disgrifio sut y byddai Rhys yn yfed. Collir y pwynt hwnnw o dderbyn
		rhed ar ddechrau 88 fel yn fersiwn y Vetustus, ac nid
		oes ei angen fel odl gyrch fodd bynnag (cymh. ll. 80). 85. cachsyrn  Cymerir mai 'llawer' yw
		ystyr swrn (cymh. GDG 56.9), ond nid annichon mai
		'migwrn' sydd yma, gw. GPC 3369 ar y ddau air. 86.  Dilynodd Parry fersiwn y Vetustus
		wrth roi dig yn lle'r nac ar
		ddechrau'r llinell, a'i gysylltu â'r llinell flaenorol. 87.  Mae hon sillaf yn fyr fel y saif,
		ond Pen 49 yn unig sy'n rhoi rhed ar ddechrau'r
		llinell. Pur wahanol yw rhan gyntaf y llinell yn fersiwn Ll 122 -
		gwddw ansyberw chwerw - ond mae'r llinell yn dal
		i fod yn fyr. 88. gwyddut  Rhaid wrth y -t yn y terfyniad er mwyn y gynghanedd, ac mae hynny'n
		anghyson â'r ffurf gwypud yn 85 uchod. Ond fe
		geir enghrau eraill o anghysondeb o'r fath yng ngwaith DG, e.e.
		wyt / wyd yn 63.12, 20 a 24.