GDG 21
Dywedir bod yr awdl ddychan hon yn ymateb i englyn gan Rys Meigen yn honni iddo gael cyfathrach rywiol â mam Dafydd ap Gwilym. Dyma'r englyn (yn seiliedig ar destun Pen 49):
| Dafydd gau merydd gi mall, | |
| Tydi fab y tadau oll, | |
| Gwenais dy fam, gam gymell, | |
| Uwch ei thin, och, yn ei thwll. | |
Yn ôl traddodiad syrthiodd Rhys Meigen yn farw pan glywodd awdl Dafydd. Cofnodwyd y traddodiad hwn â geiriad tebyg iawn yn H 26 a Pen 49, a rhesymol yw tybio mai nodyn wrth yr awdl yn y Vetustus oedd y ffynhonnell. Dyma nodyn Pen 49:
yr Englyn or blaen a ganwyd ar geinaw Ddyw nadalig ym-mhlas lln' ap Glm' Vychan ap Glm' ap Gwrwared yn Neheubarth, A Dafydd a wnaeth yr owdl or blaen i Rys Meigen ac ai canodd yn i wydd, ac ynte a syrthiodd yn farw, os gwir a ddywedant.
Credid yn gyffredin yng Nghymru ac Iwerddon fod dychan y bardd yn gallu peri niwed a hyd yn oed lladd pobl (gw. ymhellach Johnston, 2005, pennod 13), a diau y byddai Rhys Meigen ei hun yn credu yng ngrym y dychan. Gallasai arswyd beri iddo fynd yn sâl a marw yn y fan a'r lle neu'n fuan wedyn. Ategir y traddodiad am ei farwolaeth gan gyfeiriadau yn yr ymryson rhwng Dafydd ap Gwilym a Gruffudd Gryg. Dywed Gruffudd ar ddiwedd ei drydydd cywydd: ' 'Mogel, nid mi Rys Meigen' (27.66), ac yn ei ateb rhybuddiodd Dafydd: ' 'Mogel di fod . . . yn Rhys wyrfarw . . . a las â gwawd' (28.58–60). Ond nid yw cerddi ymryson yn ddibynadwy fel tystiolaeth ffeithiol oherwydd yr elfen gref o ddychymyg a ffantasi a geir ynddynt. Nid annichon mai geiriau Dafydd yn yr ymryson a roes fod i'r traddodiad am farwolaeth Rhys Meigen a gofnodwyd yn y Vetustus.
Mae nodyn Pen 49 hefyd yn awgrymu bod cyd-destun defodol i gerddi'r ddau fardd. Mae nifer o enghreifftiau o feirdd yr Oesoedd Canol yn dychanu'i gilydd yn ddigon deifiol ac aflednais er difyrrwch i gynulleidfa adeg gŵyl fel y Nadolig. Fe geir hefyd esiamplau o ymryson rhwng bardd y llys a bardd o fro arall (e. e. yr un rhwng Casnodyn a Thrahaearn Brydydd Mawr ychydig cyn cyfnod Dafydd ap Gwilym, GGDT cerdd 13, GC cerdd 11). Gan mai mewn gwledd yn llys ei ewythr y canwyd y cerddi mae'n debyg bod Dafydd yn chwarae rôl bardd y llys. Tybed a oedd y gerdd hon yn perthyn i gyfnod ei hyfforddiant barddol gyda'i ewythr?
Cysylltir Dafydd ap Gwilym a Rhys Meigen eto mewn cyfres o benillion ymddiddan (tri englyn ac un pâr o doddeidiau) a briodolir i'r ddau mewn nifer o lawysgrifau o'r 17eg ganrif ymlaen. Argraffwyd y ddau cyntaf, y naill gan Rys a'r llall gan Ddafydd, yn GDG t. 419 (cerdd xix) o lsgr LlGC 836; ceir y pedwar pennill yn Ba 92 a G 19 etc. Yn ei englyn cyntaf mae Rhys yn gorchymyn i Ddafydd roi gwair i'r meirch, ac yn y ddau englyn arall sonnir am ganu cerddi. Mae'n annhebygol bod y penillion yn waith dilys y ddau fardd (gw. ymhellach Cerddi'r Apocryffa, rhif A5), ond maent yn dystiolaeth i gyswllt traddodiadol rhwng y ddau.
Heblaw'r cerddi a nodwyd uchod ni oroesodd dim o waith Rhys Meigen, a'r cwbl a wyddys amdano yw'r hyn y gellir ei gasglu o'r gerdd hon, sef ei fod yn glerwr cyffredin. Yr unig fro o'r enw Meigen yw'r un ger y Trallwng ym Mhowys, ac mae'n debyg mai brodor o'r ardal honno oedd Rhys. Ond sylwer hefyd fod nant o'r enw Meigan, fel y tystia'r enwau ffermydd Dyffryn Meigan, Pistyll Meigan a Penlanfeigan rhwng Boncath ac Eglwyswrw yng ngogledd sir Benfro, yn agosach i gynefin Dafydd ei hun a'i ewythr (gw. nodiadau cerddi 5 a 6).
Dwy ran sydd i'r awdl hon, sef cadwyn o un ar bymtheg o englynion unodl union ar yr odl -ai, a chyfres o 24 llinell ar fesur toddaid. Trafodir cynganeddiad yr englynion (ar sail testun GDG) yn Crawford, 1985, a chynganeddiad y toddeidiau yn Crawford, 1990. Mae cynganeddiad yr englynion (gan gynnwys y cynganeddion pengoll rhwng y gair cyrch a'r ail linell, ond gan ddiystyru ll. 39 sy'n ddigynghanedd fel y saif) fel a ganlyn: 41 llinell o sain (64%), 13 llinell o groes (20%), 7 llinell o draws (11%) a 2 linell o lusg (3%). Ac yn y toddeidiau ceir 22 linell o sain (92%) a 2 linell o groes (8%). Cyfartaledd y gynghanedd sain ar gyfer y gerdd gyfan yw 72%.
Cadwyd yr awdl hon mewn 20 copi llawysgrif, ac mae'r testunau'n ymrannu'n ddau fersiwn. Y fersiwn llawnaf yw'r un sy'n deillio o'r Vetustus (H 26 a Pen 49). Ceir fersiwn arall, sydd â nifer o linellau yn eisiau a threfn wahanol yn yr englynion a'r toddeidiau, mewn tri chopi sy'n deillio o ffynhonnell gyffredin goll, sef Ll 122, Br 6 a LlGC 6209 (cyfeirir at hwn yn y nodiadau isod fel fersiwn Ll 122). Mae testunau Pen 49 a Bl e 1 yn cynnwys rhai darlleniadau o'r ail fersiwn, ac felly H 26 yw'r unig un sy'n cynrychioli testun y Vetustus yn unig. Mae testunau'r llawysgrifau yn amlwg yn llwgr mewn sawl man o ran mydr, cynghanedd a synnwyr, ac mae lle i gredu bod ambell ddarlleniad wedi'i golli'n gynnar yn hanes trosglwyddo'r gerdd (e.e. cynnwgl yn ll. 29).
2. Gwalchmai sef Gwalchmai ap Meilyr, un o feirdd llys Gwynedd yn y 12fed ganrif (gw. CBT I, 127–313).
3. cŵn Dyma'r enw a ddisgwylid gyda'r ferf cyfarthai, ond nid amhosibl yw clêr fersiwn Ll 122 (a hefyd mewn bwlch a adawyd yn wag yn Pen 49), a'r ferf yn eu delweddu fel cŵn.
4. cymyrred ffurf amrywiol ar cymyrredd, 'parch', gw. GPC 775–6.
5. Darlleniad fersiwn y Vetustus oedd magai i brydydd brad ac ofn, ond mae Bl e 1 yn cyd-fynd â'r llsgrau eraill.
6. lle beiddiai darlleniad y Vetustus, ac un anos na lle byddai fersiwn Ll 122 a lle delai Bl e 1.
8. corodyn Yr unig ystyr a roddir i'r gair yn GPC 564 yw 'teclyn, anwylbeth, tegan'. Mae honno'n gweddu'n iawn yn 83.30 a 71.7, ac mae'n bosibl yma hefyd. Ond ceir ystyr dda iawn yma ac yn 47.58 (ac efallai yn GDG 143.7 hefyd) o'i ddeall fel y sawl a dderbyniai corrodium, sef ymgeledd mewn mynachlog (gw. 47.58n.).
13. Dilynodd Parry fersiwn Ll 122, Cariad, lliw rhuddiad, yn lle rhoddai bres.
rhyfai cymh. CBT I, 7.18.
16. âb Er mai p a geir yn y gair yn y llsgrau i gyd, hon yw'r ffurf yn yr enghrau cynharaf, gw. GPC2 6, ac fe'i profir gan odl yn 105.10.
a wnaf Dilynwyd Ll 122 a Br 6, yn hytrach na fersiwn y Vetustus a LlGC 6209, ni wnaf a wnâi. Roedd yr epa'n adnabyddus am ei duedd i ddynwared pobl (cf. yr ymadrodd Saesneg to ape), a'r ergyd yma yw bod Rhys yn dynwared Dafydd wrth farddoni.
17–20. Mae'r englyn hwn yn eisiau yn fersiwn Ll 122.
17. rhain Dilynwyd GDG wrth ddiwygio riain y llsgrau gan fod y llinell yn rhy hir. Cymerir mai'r ansoddair, 'syth, marw gelain' yw hwn, gw. GPC 3033.
19. croesanaeth Cymh. 30.53 (pedwerydd cywydd Dafydd yn yr ymryson) lle defnyddir y gair am gerdd Gruffudd Gryg. Yn y Gramadegau mae'r ansoddair croesan, 'anllad, difrïol, digywilydd', yn disgrifio'r clerwr, a diau fod y darn hwn yn crynhoi barn Dafydd am waith Rhys Meigen: 'a chrefft y klerwr kroessan yw anghanmawl, ac anglotuori, a goganu, a gwneuthur kywilyd a mefyl ac anglot, a chroessangerd anossparthus yw heb allel barnu arnei, kanys ymboergerd vvdyr yw' (GP 56).
soniai Ni cheir darlleniad GDG, seiniai, yn yr un o'r llsgrau cynnar.
21. Disgwylid gwys yn dilyn ansoddair, ond ni cheir treiglad ar ôl y cysylltair cyd (gw. TC 380–1).
21–2. Ceir gwbl a gobr yn fersiwn y Vetustus, ond mae sillaf yn brin yn y ddwy linell.
23. cyfred Ar sail yr ystyr 'ymryson rhedeg' (gw. GPC 713) cymerir mai at ymryson barddol y cyfeirir.
25–8. Mae'r englyn hwn yn eisiau yn fersiwn Ll 122.
27. sietwn Gw. GPC 3273 lle cynigir bod hwn yn fenthyciad o'r S.C. shetun, ffurf amrywiol ar shiten, 'cachlyd'.
ytai Dilynwyd GDG wrth ddiwygio attai y llsgrau.
28. Gellid disgwyl gwylan graig, ond y ffurf gysefin a geir yn y llsgrau.
treiglwraig trai Cymh. trywanwraig trai 116.37.
29. cynnwgl Darlleniad llsgrau'r ddau
fersiwn yw carp trwsgl, ond mae'r odl â
cwrwgl yn anfoddhaol, a'r unig amrywiad yw
karwskl yn lle cwrwgl yn LlGC
6209, ymgais amlwg i gywiro'r odl wallus. Gellid cadw carp a diwygio trwsgl, ond nid oes
gair unsill a ddarparai odl. Penderfynwyd diwygio'r ddau air, felly. Mae hwn yn
air prin a geir mewn amryw ffurfiau yn y cyfreithiau, a'i ystyr yn ôl GPC
797 oedd math o ddilledyn ar lun blanced. Ond gw. ymhellach C. Michiel Driessen
a Caroline Aan de Wiel, 'British *suδiklo- and *kentunklo-, two loans from Latin', SC XXXVII (2003),
17–34, lle cynigir yr ystyr 'patchwork garment' o'r math a wisgid gan
dlodion, ystyr sy'n cyd-fynd yn dda â gweddill y llinell. Gw. ymhellach
Paul Russell 'Welsh *Cynnwgl and Related Matters', SC
XXXIX (2005), 181–8. Ni chofnodwyd enghraifft o cynnwgl y tu allan i'r testunau cyfreithiol, a'r tebyg yw
iddo ddiflannu o'r iaith cyn diwedd yr Oesoedd Canol, felly o'i dderbyn fel y
darlleniad gwreiddiol yma hawdd deall pam y rhoddwyd gair tebyg ei ystyr yn ei
le, a trwsgl yn ymgais i gael rhyw fath o odl.
30. leidryn Br 6 yw'r unig lsgr. sy'n cefnogi darlleniad GDG, ledryn (cymh. 56 isod). Ceir llyna leidr yn H 26 a Pen 49.
32. Sylwer bod y llinell hon wedi'i hailgyfansoddi yn llwyr yn Bl e 1, koeg ruwr bas torrwr tai, a bod rhwybeth tebyg wedi'i nodi fel cywiriad yn H 26.
33. bastynwas Cymh. bastynwyr 108.32. Yn ôl GPC 263, clerwr yn cyfeilio iddo'i hun trwy guro pastwn ar y llawr oedd bastynwr, ond cynigiodd Parry, GDG 506, mai'r Saesneg baston yn yr ystyr 'pennill' yw'r elfen gyntaf.
34. Ceir darlleniad haws, ac amheus o'r herwydd, yn fersiwn Ll 122, bost anardd rhwyg bastai.
ysgai Gw. GPC 3831 lle nodir esiamplau eraill o gerddi dychan y Llyfr Coch. Ond sylwer mai o asgai yw darlleniad fersiwn y Vetustus. Nodir asgai fel ffurf amrywiol ar ysgai yn GPC 220, gan ddyfynnu'r llinell hon o Pen 49.
37–40. Mae'r englyn hwn yn eisiau yn fersiwn Ll 122, ac mae'r testun yn amlwg yn llwgr yn llsgrau fersiwn y Vetustus.
37. cardlawd Hon yw'r unig enghr. o'r gair yn GPC 424, a chynigir '? tlawd neu fain ei enau' ar sail nodyn Parry, GDG 463.
cecyrdlai Cymerir mai ceg yw'r elfen gyntaf, ac mai llai, 'llwyd' yw'r elfen olaf, ond anodd gwybod beth yw'r elfen arall. Ai cwrd o'r Saesneg curd, 'ceuled' (er nas nodir yn GPC)?
38. Mae'r llinell hon sillaf yn fyr.
39. Mae hon hefyd sillaf yn fyr, ac nid oes cynghanedd lawn ynddi, er bod cyffyrddiad o gynghanedd rhwng latys a blotai.
40. Mae'r llinell hon yn rhy hir o sillaf. Gellid diwygio'r geiriau olaf i a âi, a'u cywasgu'n un sillaf, gan roi cynghanedd sain drosgl.
45. gwythlyd darlleniad Pen 49. Seiliwyd gwythlud GDG ar gwyddlud H 26 a Bl e 1.
gofloesgai darlleniad LlGC 6209; ceir a floesgai yn Pen 49, a gwiw floesgai yn y llsgrau eraill (ac felly gwyw floesgai yn GDG).
46. banw darlleniad fersiwn Ll 122; ceir poen . . . pan yn fersiwn y Vetustus.
47–48. Rhoddwyd llau 59–60 yn lle'r cwpled hwn yn fersiwn Ll 122. (Mae'r englyn sy'n cynnwys y llinellau hynny yn eisiau yn y fersiwn hwnnw.) Gan fod rhaid dibynnu ar fersiwn y Vetustus yn unig, mae darlleniadau'r ddwy linell yn ansicr iawn.
47. beillhocs Ceir bell r(h)wysg yn H 26 a Pen 49, a bell chwysg yn Bl e 1. Mae'r llinell yn rhy hir fel y saif yn y llsgrau, felly penderfynwyd cywasgu cocys i cocs (gw. GPC 524) a llunio'r gair cyfansawdd hwn er mwyn rhoi cynghanedd sain ddwbl. Bôn y ferf peillio, 'rhidyllu', yw'r elfen gyntaf, ac mae'r ail yn fenthyciad o'r S.C. hockes, 'mallows' (gw. GPC 1882 d.g. hocys).
48. byll hyll Ceir byllt hyllt yn H 26 a Bl e 1, a byllt syllt yn Pen 49, oherwydd camdybio bod angen odli â gair cyntaf y llinell mae'n debyg.
oeth . . . troeth Ceir hoen yn y tair llsgr., a troen yn H 26 a Bl e 1 (gadawyd bwlch ar gyfer y tair sillaf olaf yn Pen 49), a dyna a argraffwyd yn GDG. Ni chafwyd unrhyw oleuni ar troen, felly penderfynwyd diwygio'r ddau air. Gwelir oeth yn aml yn y ffurf gryfhaol anoeth. Ceir cynghanedd sain ddwbl yn y llinell hon, fel yn yr un flaenorol.
49. lleuedig Dilynodd Parry fersiwn Ll 122, llifiedig (darlleniad a ychwanegwyd yn ddiweddarach yn y bwlch a adawyd ar gyfer y gair yn Pen 49 hefyd), ond nid oedd rhaid ateb yr f yn fudr. Gw. GPC 2167 lle nodir dwy enghr. o'r gair hwn o Ystorya de Carolo Magno. Rhaid deall yr ansoddair mewn ystyr enwol, 'deunydd llawn llau'.
52. llwfr Gellir ei ddeall yn ei ystyr gyffredin yma gan fod llyfrdra Rhys Meigen yn thema amlwg yn y gerdd, ond cofier hefyd am yr ystyr 'llaith' (gw. 50.29n).
claerddwfr Dilynodd Parry H 26 a Bl e 1, clerddwfr (ceir kloddiwr yn Pen 49), a gellir tybio mai 'flies' yw elfen gyntaf y gair hwnnw.
53. goreilgorff darlleniad ansicr iawn. Dilynodd Parry fersiwn y Vetustus, gwir eilgorff, ond mae hwnnw'n wan o ran synnwyr. Mae hwn yn seiliedig ar gwereilgorff LlGC 6209. Yr elfen gyntaf yw'r gair prin gorail, 'to, cronglwyd' (gw. GPC 1460), a'r ergyd efallai yw fod esgyrn ei gorff yn sefyll allan fel ffrâm to (cymh. 80 isod).
gwrolGai Hir nai y Brenin Arthur a'r gwrolaf o'i filwyr yn ôl traddodiad, gw. TYP3 308–11 a chymh. iawnGai angerdd 44.13.
55. soegen Ceir soegnen ymhob llsgr ond Ll 122, lle'r ychwanegwyd yr n yn ddiweddarach. O ran cynghanedd mae darlleniad y llsgrau'n well, gan ei fod yn osgoi'r bai crych a llyfn, ond o ran ystyr hwn sydd orau, sef ffurf fenywaidd soegyn, gw. GPC 3316.
56. Dilynwyd fersiwn Ll 122 yma. Gwahanol iawn yw fersiwn y Vetustus a ddilynwyd yn GDG, Gorwag, croenyn llwydwag llai. Mae ailadrodd gwag yn un rheswm dros wrthod hwnnw, a sylwer mai lledryn llai oedd darlleniad gwreiddiol Bl e 1.
57–60. Mae'r englyn hwn yn eisiau yn fersiwn Ll 122, ond ceir 59–60 fel esgyll englyn arall (= 47–8 yma).
59. ateth Cynigir yn betrus yn GPC 227 mai ad + teth sydd yma, 'tethog, boliog' ar sail yr enghr. yn awdl ddychan Trahaearn Brydydd Mawr i Gasnodyn (GGDT 13.30). Mae'n debyg nad oes perthynas rhwng hwn ac atethol (ad + dethol) a geir yn 56.49.
60. plu Ar yr ystyr drosiadol 'gwallt' gw. 137.24n.
61–64. Mae'r englyn hwn yn eisiau yn fersiwn Ll 122.
61. o Pen 49 yn unig sy'n cynnwys y gair hwn, ac fe ddichon mai ymgais ydyw gan John Davies i gywiro llinell fer yn ei gynsail.
65. grogwydd Ni cheir darlleniad GDG, coedwydd, yn yr un o'r llsgrau.
66. hynaf Mae tystiolaeth y llsgrau'n rhanedig rhwng y ffurf hon (H 26, Pen 49, a LlGC 6209) a hynaif (Bl e 1, Ll 122 a Br 6). Dewiswyd yr ail yn GDG, ac er nad yw'r ffurf luosog yn gweddu yma gall hynaif fod yn ffurf unigol hefyd (cymh. GDG 15.36 a gw. GPC 1974).
68. rhysedd Ceir rhyfedd yn fersiwn y Vetustus a GDG, ond mae hwn yn well o ran synnwyr a chymeriad cynganeddol.
giniawfyrn Felly y dehonglir darlleniad fersiwn Ll 122, cynhiawfyrn. Darllenodd Parry geneufyrn ar sail Pen 49, gemhowfyrn a H 26 a Bl e 1, genhowgfyrn.
72. Cyndëyrn Y sant enwocaf o'r enw yw'r un a gysylltir â Llanelwy, ond cofier hefyd am nawddsant Llangyndeyrn yn sir Gaerfyrddin.
73–4. Mae'r toddaid hwn yn eisiau yn Pen 49.
73. cemyw camyrn cenyw canyrn yw prif ddarlleniad y llsgrau, ac mae'n debyg mai ymgais i wneud synnwyr o hynny yw knyw kaneyrn Br 6 a ddilynwyd yn GDG. Mae cemyw, 'gleisiedyn, eog gwryw', yn air sy'n digwydd ddwywaith yn awdl ddychan Casnodyn i Drahaearn Brydydd Mawr, gw. GC 11. 5 a 169 a GPC 460. Cymerir mai lluosog mwrn, ffurf amrywiol ar bwrn (GPC 2512), yw'r ail elfen; posibilrwydd arall yw ei bod yn amrywiad ar murn, 'twyll'.
bengnawd fêr Anodd penderfynu sut y dylid rhannu'r tri gair hyn. Ceir ben gwowdfer yn H 26 a Bl e 1, ben gnowdfer yn Ll 122 (a ddilynwyd yn GDG), ben gnowd fer yn Br 6, a darlleniad y testun yn LlGC 6209. A chymryd mai bêr, 'cigwain', sydd yma, mae'r ansoddair cyfansawdd pengnawd yn ddisgrifiad ystyrlon ohono. A derbyn darlleniad GDG yr ystyr fyddai fod pen Rhys fel cigwain, ond anodd esbonio'r treiglad i'r ail air.
75. ys edyrn Ceir ansedyrn yn fersiwn y Vetustus, ond ni wyddys am enghr. arall o'r gair hwnnw. Mae edyrn, 'aruthr, trwm', yn ddigon cyffredin yn y canu cynnar, gw. GPC 1169 a G 442.
76. Dinbyrn Yr unig gyfeiriad arall at y cymeriad hwn yw'r un gan Einion ap Gwalchmai mewn awdl fawl i Lywelyn ab Iorwerth, 'angerdd Dinbyrn' (CBT I, 25.17). Ni wyddys dim oll amdano, ond gellir tybio ei fod yn arwr traddodiadol.
77. drum lleuog Darllenodd Parry drymlleuog ar sail Pen 49 a fersiwn Ll 122, drwm lleuog, ond ceir ystyr gryfach o ddilyn H 26 a Bl e 1 fel hyn (cymh. 63.37).
llewyrn Cynigir yn betrus yn GPC 2172 mai enw lluosog yn golygu 'llwynogod' yw hwn.
79–80. Mae'r toddaid hwn yn eisiau yn fersiwn Ll 122.
79. anhuawdr Darlleniad y llsgrau ( fersiwn y Vetustus yn unig) yw rhwyddlodr anheodr. Nodir anheodr yn GPC1 125 fel ffurf amrywiol ar anhuawdr, ond hon yw'r unig enghr. (rhith yw'r enghr. o Pen 57 a nodir yno, gw. GPC 2570 d.g. neodr), ac ni ddigwydd heodr chwaith fel amrywiad ar huawdr, 'tirion'. Gan mai llawdr yw'r ffurf unigol yn gyson (gan gynnwys dwy enghr. yn y gerdd hon, llau 29 a 85), newidiwyd y sain yn y ddau air.
81. dau lygad Dilynodd Parry fersiwn y Vetustus a LlGC 6209, dy lygad, ond mae'r ffurf ddeuol yn fwy ystyrlon yma. Cymh. ffurfiau fel dwylaw a dwyglust, a'r Llydaweg daoulagad.
82. fapgath fepgyrn Ystyr mapgorn yw 'rhan fewnol corn anifail, corn mewnol tyner' (GPC 2351). Efallai mai crafangau meddal cath fach a feddylir.
83. rhugn Dyfynnir yr enghr. hon o dan rhygn, 'sŵn rhygnu', yn GPC 3137.
rhwthgynfol Ceir rheidwal yn fersiwn y Vetustus, sy'n gadael y llinell yn fyr ac yn achosi problem o ran yr odl gyrch (ceir heal yn y ll. nesaf). Lluniwyd y gair hwn ar sail rhwthynfol Ll 122 a LlGC 6209 (cymh. rhwynfol Br 6). Yr elfen gyntaf yw rhwthgyn, ffurf a nodir yng ngeiriadur Thomas Wiliems fel amrywiad ar rhytgyn ('Rytcyn .i. rhwthcyn . . . cuneus magnus'), 'cŷn' neu 'lletem' (gw. GPC 3062 d.g. rhetgyn). Er na wyddys am enghr. arall y tu allan i'r geiriaduron, fe ymddengys fod hwn yn air byw yn yr 16fed ganrif. Mae darlleniad GDG yn bellach oddi wrth y llsgrau, 'rhwth rwymfol'.
84. rhwd Ceir rhyd yn Pen 49, ac ar hyd yn H 26 a Bl e 1. Ymhlith ystyron cynnar y gair yr oedd 'baw, llaid', gw. GPC 3107.
85–8. Bu'n rhaid i Parry ddadlau (GDG 464) mai 'am, oherwydd' yw ystyr er yn y frawddeg hon, a hynny am iddo fabwysiadu darlleniad Pen 49 yn ll. 88, gwedd yt yfed. Ond gwyddut a geir yn neilliaid eraill y Vetustus ac yn LlGC 6209 (a gwyddiat yn Ll 122 a Br 6), ac o dderbyn hynny gellir deall er yn ei ystyr arferol. Pwynt allweddol o ran ergyd y frawddeg yw cymryd chwyrn afrifed ar ddiwedd ll. 87 fel adferf yn disgrifio sut y byddai Rhys yn yfed. Collir y pwynt hwnnw o dderbyn rhed ar ddechrau 88 fel yn fersiwn y Vetustus, ac nid oes ei angen fel odl gyrch fodd bynnag (cymh. ll. 80).
85. cachsyrn Cymerir mai 'llawer' yw ystyr swrn (cymh. GDG 56.9), ond nid annichon mai 'migwrn' sydd yma, gw. GPC 3369 ar y ddau air.
86. Dilynodd Parry fersiwn y Vetustus wrth roi dig yn lle'r nac ar ddechrau'r llinell, a'i gysylltu â'r llinell flaenorol.
87. Mae hon sillaf yn fyr fel y saif, ond Pen 49 yn unig sy'n rhoi rhed ar ddechrau'r llinell. Pur wahanol yw rhan gyntaf y llinell yn fersiwn Ll 122 — gwddw ansyberw chwerw — ond mae'r llinell yn dal i fod yn fyr.
88. gwyddut Rhaid wrth y -t yn y terfyniad er mwyn y gynghanedd, ac mae hynny'n anghyson â'r ffurf gwypud yn 85 uchod. Ond fe geir enghrau eraill o anghysondeb o'r fath yng ngwaith DG, e.e. wyt / wyd yn 63.12, 20 a 24.