| Mis Mai | |
| Duw gwyddiad mae da gweddai | |
| Dechreuad mwyn dyfiad Mai. | |
| Difeth irgyrs a dyfai | |
| 4 | Dyw Calan mis mwynlan Mai. | 
| Digrinflaen goed a'm oedai, | |
| Duw mawr a roes doe y Mai. | |
| Dillyn beirdd ni'm rhydwyllai, | |
| 8 | Da fyd ym oedd dyfod Mai. | 
| Harddwas teg a'm anrhegai, | |
| Hylaw ŵr mawr hael yw'r Mai. | |
| Anfones ym iawn fwnai, | |
| 12 | Glas defyll glân mwyngyll Mai, | 
| Ffloringod brig ni'm digiai, | |
| Fflowr-dy-lis gyfoeth mis Mai. | |
| Diongl rhag brad y'm cadwai | |
| 16 | Dan esgyll dail mentyll Mai. | 
| Llawn wyf o ddig na thrigai, | |
| Bath yw i mi, byth y Mai. | |
| Dofais ferch a'm anerchai, | |
| 20 | Dyn gwiwryw mwyn dan gôr Mai. | 
| Tadmaeth beirdd heirdd a'm hurddai, | |
| Serchogion mwynion, yw Mai. | |
| Gelyn, Eiddig a'i gwelai, | |
| 24 | Gwyliwr ar serch merch yw Mai. | 
| Mab bedydd Dofydd difai, | |
| Mygrlas, mawr yw urddas Mai. | |
| O'r nef y doeth a'm coethai | |
| 28 | I'r byd, fy mywyd yw Mai. | 
| Neud glas gofron, llon llatai, | |
| Neud hir dydd am irwydd Mai, | |
| Neud golas, nid ymgelai, | |
| 32 | Bronnydd a brig manwydd Mai, | 
| Neud bernos, nid twrn siwrnai, | |
| Neud heirdd gweilch a mwyeilch Mai, | |
| Neud llon eos lle trosai | |
| 36 | Llafar, a mân adar Mai, | 
| Neud esgud nwyf a'm dysgai, | |
| Nid mawr ogoniant ond Mai. | |
| Paun asgellas dinastai, | |
| 40 | Pa un o'r mil? Penna'r Mai. | 
| Pwy o ddail a'i hadeiliai | |
| Yn oed y mis onid Mai? | |
| Magwyr laswyrdd a'i magai, | |
| 44 | Mygr irgyll mân defyll Mai. | 
| Pyllog, gorau pe pallai, | |
| Y gaeaf, mwynaf yw Mai. | |
| Deryw'r gwanwyn, ni'm dorai, | |
| 48 | Eurgoeth mwyn aur gywoeth Mai. | 
| Dechrau haf llathr a'i sathrai, | |
| Deigr a'i mag, diegr yw Mai. | |
| Deilgyll gwyrddrisg a'm gwisgai, | |
| 52 | Da fyd ym yw dyfod Mai. | 
| Duw ddoeth gadarn a farnai | |
| A Mair i gynnal y Mai. | |