Testun Golygedig: 32 - Mis Mai

Fersiwn hwylus i'w argraffu

Mis Mai

Duw gwyddiad mae da gweddai
Dechreuad mwyn dyfiad Mai.
Difeth irgyrs a dyfai
4 Dyw Calan mis mwynlan Mai.
Digrinflaen goed a'm oedai,
Duw mawr a roes doe y Mai.
Dillyn beirdd ni'm rhydwyllai,
8 Da fyd ym oedd dyfod Mai.

   Harddwas teg a'm anrhegai,
Hylaw ŵr mawr hael yw'r Mai.
Anfones ym iawn fwnai,
12 Glas defyll glân mwyngyll Mai,
Ffloringod brig ni'm digiai,
Fflowr-dy-lis gyfoeth mis Mai.
Diongl rhag brad y'm cadwai
16 Dan esgyll dail mentyll Mai.
Llawn wyf o ddig na thrigai,
Bath yw i mi, byth y Mai.

   Dofais ferch a'm anerchai,
20 Dyn gwiwryw mwyn dan gôr Mai.
Tadmaeth beirdd heirdd a'm hurddai,
Serchogion mwynion, yw Mai.
Gelyn, Eiddig a'i gwelai,
24 Gwyliwr ar serch merch yw Mai.
Mab bedydd Dofydd difai,
Mygrlas, mawr yw urddas Mai.
O'r nef y doeth a'm coethai
28 I'r byd, fy mywyd yw Mai.

   Neud glas gofron, llon llatai,
Neud hir dydd am irwydd Mai,
Neud golas, nid ymgelai,
32 Bronnydd a brig manwydd Mai,
Neud bernos, nid twrn siwrnai,
Neud heirdd gweilch a mwyeilch Mai,
Neud llon eos lle trosai
36 Llafar, a mân adar Mai,
Neud esgud nwyf a'm dysgai,
Nid mawr ogoniant ond Mai.

   Paun asgellas dinastai,
40 Pa un o'r mil? Penna'r Mai.
Pwy o ddail a'i hadeiliai
Yn oed y mis onid Mai?
Magwyr laswyrdd a'i magai,
44 Mygr irgyll mân defyll Mai.
Pyllog, gorau pe pallai,
Y gaeaf, mwynaf yw Mai.

    Deryw'r gwanwyn, ni'm dorai,
48 Eurgoeth mwyn aur gywoeth Mai.
Dechrau haf llathr a'i sathrai,
Deigr a'i mag, diegr yw Mai.
Deilgyll gwyrddrisg a'm gwisgai,
52 Da fyd ym yw dyfod Mai.
Duw ddoeth gadarn a farnai
A Mair i gynnal y Mai.