Mis Mai
Gwyddai Duw mai amserol iawn oedd
dechrau tyfiad tyner Mai.
Tyfai coesynnau gwyrdd di-ball
4 ar ddiwrnod cyntaf mis Mai pur a thyner.
Byddai coed ffres eu brigau yn peri i mi oedi,
Duw mawr a ddarparodd fis Mai ddoe.
Anwylbeth beirdd na fyddai'n fy siomi,
8 byd da i mi oedd dyfodiad Mai.
Dyn ifanc golygus a roddai anrhegion i mi,
gwr mawr hael a pharod ei gymwynas yw Mai.
Anfonodd arian dilys i mi,
12 tafellau gwyrdd hardd coed cyll tyner Mai,
fflorinau'r canghennau na fyddai'n fy nhramgwyddo,
cyfoeth mis Mai fel fleur-de-lis.
Fe'm cadwai'n esmwyth rhag brad
16 dan adenydd dail clogynnau Mai.
Mae'n siom fawr i mi
na fyddai Mai'n aros am byth, y mis sy'n arian bath i mi.
Dofais ferch a'm croesawai,
20 un dyner fonheddig dan gangell Mai.
Tad maeth i feirdd hardd (rhai cwrtais ymroddedig i serch)
ac un a roddai urddas i mi yw Mai.
Gelyn y sawl sy'n gwarchod serch merch
24 (fe'i gwelai Eiddig hi) yw Mai.
Mab bedydd Duw perffaith,
gwyrdd ysblennydd, mawr yw urddas Mai.
O'r nef y daeth yr un a'm purai
28 i'r byd, fy mywyd yw Mai.
Gwyrdd yw'r allt, cynhyrfus yw negesydd serch,
hir yw'r dydd o amgylch coed ffres Mai.
Gwyrdd golau yw bryniau, nid ymguddiai,
32 a brigau coed mân Mai.
Byr yw'r nos, nid yw teithio'n gamp anodd,
hardd yw hebogiaid a mwyalchod Mai.
Siriol yw'r eos lle cyflwynai leferydd,
36 ac adar mân Mai.
Dysgai i mi angerdd bywiog,
nid oes gogoniant mawr heblaw eiddo Mai.
Paun llys gwyrdd ei adenydd,
40 pa un o'r llu? Yr un pennaf yw Mai.
Pwy ond Mai a greai baun
o ddail mewn un mis?
Tyfai fur gwyrddlas,
44 coed cyll ffres ysblennydd, tafellau mân Mai.
Llawn pyllau yw'r gaeaf,
byddai'n well pe bai'n darfod, yr un tyneraf yw Mai.
Mae'r gwanwyn wedi darfod (mae'n iawn gennyf fi),
48 disglair a chywrain yw cyfoeth aur tyner Mai.
Dechrau'r haf llachar a'i difethodd,
mae'n magu dagrau, melys iawn yw Mai.
Gwisgai fi mewn dail coed cyll gwyrdd ei rhisgl,
52 byd da i mi yw dyfodiad Mai.
Boed i Dduw doeth a chadarn a roddai farn
ac i Fair gynnal mis Mai.