GDG 23; HGDG tt. 95–8; SPDG 2
Mae hwn yn un o ddau gywydd unodl o waith Dafydd ap Gwilym. 'Yr Haf' (34) yw'r llall, ac mae'r ddau yn dathlu'r haf fel adeg ddelfrydol i garu yn yr awyr agored. Calan Mai, sef dechrau'r haf, sydd dan sylw yn benodol yn rhan gyntaf y cywydd hwn, ac mae'n sicr bod y dathliadau a'r penrhyddid rhywiol a gysylltid â'r tymor hwnnw yn gefndir perthnasol i'r gerdd. Mae'n bosibl bod hon yn perthyn i draddodiad o gerddi'n dathlu dyfodiad yr haf o'r math a geir yn ddiweddarach yn y canu rhydd, gw. DGIA 81–3, a sylwer ar y cyfeiriadau at feirdd yn llau 7 a 21. Ceir trafodaeth fanwl, gyda sylw arbennig i amwysedd, gan Eurys Rowlands, 'Cywydd Dafydd ap Gwilym i Fis Mai', LlC 5 (1958), 1–25. Gair mwys amlycaf y gerdd yw mwyn, a all fod yn ansoddair, 'tyner' neu 'bonheddig', ac yn enw, 'cyfoeth' neu ore. Ar sail y cyfeiriad at ffloringod yn ll. 13 cynigiwyd dyddiad yn fuan ar ôl Awst 1344 ar gyfer y gerdd gan Dewi Stephen Jones, ' "Fflwring aur" Dafydd ap Gwilym', B xix (1960), 29–34 (gw. ymhellach nodyn 13 isod).
Cynghanedd: sain 18 ll. (33%); llusg 14 ll. (26%); traws 12 ll. (22%); croes 10 ll. (19%). Efallai mai caethiwed y ffurf unodl sydd i gyfrif am y ganran uchel o gynghanedd lusg.
Ymhlith y 15 copi o'r cywydd hwn gellir adnabod tri fersiwn gwahanol, sef H 26, Bl e 1 a LlGC 5274. Ychydig o wahaniaethau a geir rhyngddynt, heb ddim amrywiaeth o ran trefn llinellau, a gellid tybio eu bod yn tarddu o'r un ffynhonnell, ond mae LlGC 5274 yn cynnwys dau gwpled nas ceir yn y ddwy lsgr arall. Derbyniwyd y cyntaf (23–4), ond gwrthodwyd yr ail (gw. nodyn 54+).
1. mae Hon yw'r ffurf a geir ym mhob un o'r llsgrau cynnar; ffurf ddiweddarach yw mai mewn cymal pwyslais. Serch hynny, efallai fod amwysedd bwriadol yma gan fod sain y gair mor debyg i Mai, fel y nododd Rowlands (1958, 5).
5. a'm oedai Gallai hyn olygu bod y coed yn rhwystro'r bardd yn gorfforol, neu fod y bardd yn aros i edmygu harddwch y coed (Rowlands, 1958, 7).
7. Cymerir mai dillyn beirdd (sef Mai) yw goddrych rhydwyllai, ond fel y nododd Rowlands (1958, 8) mae'n bosibl cymryd beirdd ni'm rhydwyllai fel sangiad (sef fod mawl y beirdd i fis Mai yn gywir), a Dillyn . . . dyfod Mai fel brawddeg enwol.
9–10. Ceir personoli tebyg yn 'Mis Mai a Mis Tachwedd' (33).
10. hylaw Diddorol yw'r darlleniad hywel ('amlwg') yn LlGC 5274, ond mae'r ystyron 'hael, parod ei gymwynas' a roddir i hylaw yn GPC 1967 yn berthnasol iawn yn y cyd-destun hwn.
13. ffloringod Gw. trafodaeth Dewi Stephen Jones (1960). Dechreuwyd bathu'r fflwring aur yn Lloegr yn Ionawr 1344, ond byr iawn fu ei pharhad. Roedd i fod yn werth chwe swllt, ond nid oedd ond gwerth pum swllt a cheiniog o aur ynddi, ac fe'i gwrthodwyd yn gyffredin, a pheidiwyd â'i bathu ym mis Awst 1344. Mae iawn fwnai yn 11 uchod a ni'm digiai yma yn cyferbynnu'n eglur rhwng cyfoeth dilys byd natur ac arian twyllodrus y wladwriaeth, ac felly dadleuodd Jones dros ddyddio'r cywydd i 1344 neu o bosibl y flwyddyn ganlynol, pan fyddai'r siomedigaeth yn dal yn fyw yng nghof pobl. Ond fel y nododd Bromwich, SPDG 19, fflwring yr Eidal oedd arian bath mwyaf cyffredin Ewrop yn yr Oesoedd Canol, ac mae'n berffaith bosibl mai at honno y cyfeirir yma. Sylwer fod Iolo Goch yn sôn am dderbyn tair fflwring yn y 1370au (GIG XIV.82). Fodd bynnag, roedd blodau fleur-de-lis yn addurn amlwg ar bob fflwring, ac mae'n sicr mai at y rheini y cyfeirir yn y llinell nesaf. Cymh. 156.20–1 lle sonnir eto am y fflwring a'r fflŵr-dy-lis. Ar wrthwyneb fflwring Lloegr ceid adnod o'r Beibl, Luc 4, 30: IHC TRANSIENS PER MEDIUM ILLORUM IBAT (Ond efe, gan fyned trwy eu canol hwynt, a aeth ymaith), sef arwyddair a ddefnyddid fel swyn i gadw drygau i ffwrdd. Byddai ll. 15 isod yn debyg o ddwyn yr adnod honno i gof y gynulleidfa.
14. fflowr-dy-lis Gw. nodyn 13 uchod a 6.133n.
15. diongl Cymh. 47.26, a gw. nodyn 13 uchod. Mae'n bosibl bod yma gyfeiriad at yr arfer o 'glipio' neu dorri ochrau darnau arian bath. Byddai darnau a dorrwyd felly yn onglog ac yn amherffaith, ond nid felly dail Mai.
16. Ceir asgell . . . mantell yn LlGC 5274, ac awgrymodd Rowlands (1958, 21) y dylid derbyn y darlleniad.
18. bath Ceir beth yn H 26 a Bl e 1, a dyna a dderbyniwyd yn GDG, '(Beth yw i mi?)'. Ond cefnogir LlGC 5274 gan Pen 159, 193, lle dyfynnir y cwpled mewn traethawd gramadegol yn llaw Richard ap John o Ysgorlegan (1578–85). Gellir derbyn y darlleniad yn hyderus gan ei fod yn gyson â phrif ddelweddaeth y paragraff, sef arian bath.
20. dan gôr Delwedd o'r coed fel colofnau eglwys sydd yma, ond cofier hefyd mai dan lawr y gangell y cleddid uchelwyr yn y cyfnod. Ac o dderbyn hynny efallai fod amwysedd pellach rhwng gwiwryw a gwywryw (Rowlands, 1958, 13–14).
22. mwynion Ceir y mon H 26 a LlGC 5274, a gallai hynny gynrychioli ym Môn, ond ni ddisgwylid enw lle penodol mewn cerdd dymhorol.
23–4. Yn fersiwn LlGC 5274 yn unig y ceir y cwpled hwn, ond mae ei grefft yn nodweddiadol o waith DG.
27. Darlleniad LlGC 5274 yw or nef am kyfoethai, ac awgrymodd Rowlands (1958, 21) y dylid ei dderbyn, ond 1670 yw dyddiad yr unig enghraifft o'r ferf cyfoethi yn GPC 708. Mae coethi yn air a gysylltir â phuro arian, gw. GPC 535.
29–30. Mae'r cwpled hwn yn cynnwys dau o'r 'Tri pheth i lawenhau serchog: diwyd latai a gordderch gywir a hirddydd tywyllgoe[d]', sef un o'r Trioedd Serch yn Llyfr yr Ancr, gw. Edwards, 1995, 28 a 37.
29. neud Ceir nid ar ddechrau pob llinell yn y paragraff hwn yn H 26 a LlGC 5274. Ceir lle yma yn Bl e 1, ac yn y llinell nesaf ysgrifennwyd nid yn gyntaf, a'i newid wedyn i neud. Y tebyg yw, felly, mai nid oedd yng nghynsail Bl e 1 hefyd, a bod y copïwr wedi sylweddoli ei fod yn ddisynnwyr.
30. am Dilynwyd Bl e 1, mewn, yn GDG, ond mae'r pwyslais ar arddodiad yn y gynghanedd sain gadwynog yn anarferol(ond cymh. y pwyslais ar drwy mewn sain bengoll yn 85.46). Fel hyn ceir cynghanedd sain reolaidd.
31. m berfeddgoll.
33. twrn Dyma ddarlleniad pob llsgr., ond diwygiwyd i bwrn yn GDG. Ceir pedair enghraifft arall o'r gair twrn yng ngherddi DG (16.35, 78.28, 134.27, 149.29), a'r ystyr bob tro yw 'camp, gweithred', gw. GPC 3662. Rhaid mai 'camp anodd' a olygir yma.
35–6. trosai llafar Cymh. 'Lle y trosaf ran o'm hannerch' (15.39). Enw yw llafar yma, 'lleferydd', gw. GPC 2084. Disgwylid treiglo gwrthrych y ferf, ond gellid cadw'r gysefin ar ddechrau llinell newydd.
37. n wreiddgoll.
39. Delwedd am y coed deiliog yw'r paun, a gellir cymryd dinastai yn ddelwedd am ddeildai y goedwig hefyd. Ond cofier fod castellu yn derm am waith y paun yn lledu ei adenydd.
42. Gellid dilyn H 26 a Bl e 1 a darllen yn gyd â mis o goed Mai (gyd = gyhyd).
43. magwyr Ceir magwyrdd neu magwrdd yn y llsgrau, oherwydd tybio mai cynghanedd sain sydd yma, mae'n debyg.
a'i magai Cyfeiria'r rhagenw at wrthrych y ferf, sef magwyr.
45. pyllog Cymh. 'Y Pwll Mawn' a gysylltir â Gwyn ap Nudd (59.29–30).
46. mwynaf gair mwys, sef naill ai gradd eithaf yr ansoddair mwyn, neu mwyn + haf. Ac mae'r amwysedd yn amlycach o gofio mai -haf oedd y terfyniad ansoddeiriol yn wreiddiol. Mae'n bosibl bod 'haf mwyn' (Mai) yn cyferbynnu â 'haf llathr' (Mehefin) yn 49 isod.
48. mwyn Mae ym LlGC 5274 yn bosibl hefyd os cymerir mai cynghanedd sain gadwynog sydd yma.
cywoeth Hon yw'r ffurf a geir yn y llsgrau, ac roedd yn ddigon cyffredin, gw. GPC 708. Ond gellid darllen cyfoeth heb amharu ar y gynghanedd groes, gan nad oedd rhaid ateb f fodd bynnag.
49. Dadleuodd Rowlands (1958, 17–19) mai Mehefin yw'r haf llathr sy'n sathru Mai (mewn cyferbyniad efallai â mwynaf yn 46 uchod). Ond deellir dechrau haf fel mis Mai sy'n sathru'r gwanwyn.
50. deigr a'i mag Fel yn 43 uchod, cyfeiria'r rhagenw at wrthrych y ferf, sef deigr. Naturiol yw deall y dagrau'n arwydd o dristwch, ond fe ddichon mai gwlith yr haf a feddylir, fel yr awgrymodd Rowlands (1958, 20 a 23).
diegr Dilynwyd H 26, diagr, yn GDG, ond mae Bl e 1 a LlGC 5274 o blaid y darlleniad hwn. Cymh. 13.2.
51. Efallai fod yma gyfeiriad at yr arfer o wisgo dail a blodau wrth ddathlu Calan Mai.
52. Yr unig wahaniaeth rhwng y llinell hon a ll.8 uchod yw amser y cyplad, ond am Fai yn gyffredinol y sonnir yma, yn hytrach nag am Galan Mai fel yn 8.
54. A Mair ymadrodd amwys, gan nad oes gwahaniaeth seiniol rhwng hyn ac am air. Awgrymodd Rowlands (1958, 20–1) mai mwyn yw'r gair hwnnw. Ar y llaw arall, hysbys iawn yw'r cyswllt traddodiadol rhwng y Forwyn Fair a mis Mai.
54+. Ceir y cwpled canlynol ar ddiwedd y cywydd yn LlGC 5274: mynwn pes dvw ai mynai / pei devddengmis fae mis mai. Yr unig beth amheus am y cwpled ei hun yw'r ailadrodd ar yr un ferf yn y llinell gyntaf. Ond mae cwpled olaf y testun yn ddiweddglo priodol iawn i'r gerdd fodd bynnag.