kowydd ir drindod
1 da fv'r drindod heb dlodi
2 bod y nef a byd i ni
3 da fu'r tad yn anad neb
4 roi Anna ddiwair wyneb
5 da fv Anna dwf iniawn
6 ddwyn Mair morwyn ddiwair iawn
7 da fv vair ddiwair eiriawl
8 dwyn dvw er diwno diawl
9 da fv ddvw ddiwair oroen
10 ar groes ddwyn pvmoes oi poen
11 da i gwnel mab Mair air addef
12 yn dwyn oll bob dyn i nef
dafydd ap gwilim ai kant