Kowydd y mai
1 Duw gwyddiad mae da i gweddai
2 dechrav mwynion gangav mai
3 difath irgrys a dyfai
4 duw kalan ywch marian mai
5 digrinflaen goed am oedai
6 dvw mawr ym a roes y mai
7 dillin beirdd am rhy-dwyllai
8 da fyd ym oedd dyfod mai
9 harddwas teg am hanrhegai
10 howel wr mawr hael yw /r/ mai
11 Anfones ym iawn fwnai
12 glas defyll man wngyll mai
13 ffloringod brig nim digiai
14 fflowr-de-lis a gwaith mis mai
15 diongl rhag brad im kadwai
16 dan asgell dail mantell mai
17 llawn wyf o ddig na thrigai
18 bath yw i mi byth y mai
19 dofais ferch am anherchai
20 dyn gwiwryw mwyn dan gayrav mai
21 [21] tadmaeth beirdd heirdd am harddai
22 serchogion ymon y mai
23 gelyn eiddig ai gwelai
24 gwiliwr ar serch merch yw mai
25 mab bedydd dofydd difai
26 mygrlas mawr yw vrddas mai
27 or nef doeth am kyfoethai
28 ir byd fy mowyd yw mai
29 nid glas gofron llon llattai
30 nid hir dydd am irwydd mai
31 nid golas ond y mingelai
32 bronwydd a brig manwydd mai
33 nid bernos nid twrn siwrnai
34 nid heirdd gweilch mwyeilch ond mai
35 nid llon Eos lle trossai
36 llafar y man Adar mai
37 nid eskyd nwyf am dysgai
38 nid mawr ogoniant ond mai
39 Payn asgellas dinasdai
40 pa vn or mil pena yw /r/ mai
41 pa vn a ddeil ai hadeiliai
42 yn oed y mis onid mai
43 magwrdd laswrdd ai magai
44 mygr irgyll man defyll mai
45 Pyllawg gore pa pellai
46 y gayaf mwyaf yw mai
47 der yw /r/ gwanwyn nim dorai
48 evrgoeth ym avr goweth mai
49 dechre haf dilathr ai sathrai
50 deigr a mad diegr yw mai
51 deilgyll gwrddrisg am gwisgai
52 da fyd ym yw dyfod mai
53 dvw ddoeth gadarn a farnai
54 a mair i gynal y mai
55 mynwn pes dvw ai mynai
56 pei devddengmis fae mis mai
Dafydd ab Gwilm ai kant