â â â Mis Mai a Mis Tachwedd
1â â â Hawddamor, glwysgor glasgoed,
2â â â Fis Mai haf, canys mau hoed,
3â â â Cadarn farchog, serchog sâl,
4â â â Cadwynwyrdd feistr coed anial,
5â â â Cyfaill cariad ac adar,
6â â â Cof y serchogion a'u câr,
7â â â Cennad nawugain cynnadl,
8â â â Caredig urddedig ddadl.
9â â â Mawr a fudd, myn Mair, ei fod,
10â â â Mai, fis difai, yn dyfod
11â â â Ar fryd arddelw, frwd urddas,
12â â â Yn goresgyn pob glyn glas.
13â â â Gwasgod praff, gwisgad priffyrdd,
14â â â Gwisgai bob lle â'i we wyrdd.
15â â â Pan ddêl yn ôl rhyfel rhew,
16â â â Pill doldir, pall adeildew -
17â â â Digrif fydd, mau grefydd grill,
18â â â Llwybr obry lle bu'r Ebrill -
19â â â Y daw ar uchaf blaen dâr
20â â â Caniadau cywion adar,
21â â â A chog ar fan pob rhandir,
22â â â A chethlydd a hoywddydd hir,
23â â â A nïwl gwyn yn ael gwynt
24â â â Yn diffryd canol dyffrynt,
25â â â Ac wybren loyw hoyw brynhawn,
26â â â A glaswydd aml a glwyswawn,
27â â â Ac adar aml ar goedydd,
28â â â Ac irddail ar wiail wydd,
29â â â A chof fydd Forfudd f'eurferch,
30â â â A chyffro saith nawtro serch.
31â â â Annhebig i'r mis dig du
32â â â A gerydd i bawb garu,
33â â â A bair tristlaw a byrddydd
34â â â A gwynt i ysbeilio gwydd,
35â â â A llesgedd, breuoledd braw,
36â â â A llaesglog a chenllysglaw,
37â â â Ac annog llanw ac annwyd,
38â â â Ac mewn naint llifeiriaint llwyd,
39â â â A dwyn sôn mewn afonydd,
40â â â A llidio a duo dydd,
41â â â Ac awyr drymled ledoer
42â â â A'i lliw yn gorchuddio'r lloer.
43â â â Dêl iddo, rhyw addo rhwydd,
44â â â Deuddrwg am ei wladeiddrwydd.