Mis Mai a Mis Tachwedd
Henffych, cangell hardd y coed glas,
fis Mai haf, oherwydd am hyn rwy'n hiraethu,
marchog cadarn, budd carwr,
4 meistr fforestydd gwyllt gwyrdd ei gadwyni,
cyfaill i serch ac adar,
cof y cariadon a'u ffrind,
negesydd ugeiniau o gyfarfyddiadau,
8 cyfarfod cariadus ac anrhydeddus.
Mae'n fuddiol iawn, myn Mair, ei fod
ef, Mai, y mis perffaith, yn dod
er mwyn hawlio, urddas cynnes,
12 gan oresgyn pob glyn glas.
Mantell dew, gwisg priffyrdd,
gwisgai bob lle â'i weadwaith gwyrdd.
Pan ddêl ef ar ôl rhyfel rhew,
16 caer y weirglodd, llen wedi'i gwau'n drwchus -
hyfryd fydd llwybr isel lle bu Ebrill,
cân yr adar yw f'addoliad -
y daw ar frigau coed derw
20 ganiadau cywion adar,
a chwcw ar uchelfan pob ardal,
ac aderyn cân a hirddydd braf,
a niwl gwyn cyn y gwynt
24 yn amddiffyn canol dyffryn,
ac awyr loyw ar brynhawn braf,
a llawer o goed gwyrdd a gwawn prydferth,
a llawer o adar ar y coed,
28 a dail ir ar ganghennau coed,
a bydd Morfudd fy merch ddisglair ar fy meddwl,
a chyffro holl droeon serch.
Annhebyg [yw Mai] i'r mis du cas
32 sy'n gwahardd pawb rhag caru,
sy'n peri glaw trist a dyddiau byrion
a gwynt i ddinoethi'r coed,
a llesgedd, gwendid dychrynllyd,
36 a chlogyn llaes a chenllysg,
a chymell llifogydd ac oerfel,
a llifeiriant brown mewn nentydd,
a chadw swn mewn afonydd,
40 a golau dydd yn cochi ac yn tywyllu,
ac awyr drymaidd oerllyd
a'i lliw yn gorchuddio'r lleuad.
Deued iddo (rhyw fygwth hawdd)
44 ddau anffawd am ei anghwrteisi.