i fis mai ac i fis Ionawr i ganmol mai a goganu Ionawr
1 Hawddamor glwysgor glasgoed
2 mis mai haf canys mae hoed
3 cadair farchog serchog sal
4 cadwynwyrdd feistr coed anial
5 [204v] cyfaill cariad ag adar
6 cof a serchowgion ai car
7 cennad nawugain cynnadl
8 caredig urddedig ddadl
9 mawr a fydd myn mair i fod
10 mai fis difai yn dyfod
11 ar fryd arddel frawd urddas
12 yn goresgyn pob glynn glas
13 gwisgiad praff gwasgod priffyrdd
14 gwisgai bob lle ai we wyrdd
15 pan ddel yn ol rhyfel rhew
16 pwll doldir y pall deildew
17 digri mai fydd grefydd grill
18 llwybr obry lle bu'r ebrill
19 i daw ar ucha blaen dar
20 caniadau cowion adar
21 a chog ar fan pob rhandir
22 a chethlydd a hafddydd hir
25 a bron loyw hoyw byrnhawn
26 a glaswydd aml eglwyswawn
27 ag adar aml ar goedydd
28 ag irddail ar wiail wydd
29 a chof am forfydd feurferch
30 a chyffro saith nowtro serch
31 Anhebig ir mis dig dy{u}
32 a gerydd i bawb garu
33 a bair tristlaw a bryddydd
34 a gwynt yn yspeiliaw gwydd
23 a niwl gywn yn ael y gwynt
24 yn diffriw canol dyffrynt
41 ag awyr dremled ledoer
42 ai lliw yn gorchuddiawr lloer
37 an pair yn llawn o anwyd
38 ar naint yn llifeiriaint llwyd
39 [205r] a dwyn son mewn afonydd
40 a llidiaw a dy{u}aw dydd
35 a llesgedd breuoledd braw
36 a llasglog a chenllysglaw
43 del iddaw rhyw addaw rhwydd
44 deuddrwg am i wladeiddrwydd
Dafydd ap Gwilym ai cant