1 hawddamor glwysgor glasgoed
2 mis mai haf canys mae hoed
3 cadair farchog serchog sal
4 cadwyn wyrdd feistir coed anial
5 cyvell cariad ag adar
6 cof a serchogion ai car
7 cenad naw vgain cynadl
8 kyredig vrddedig ddadl
9 mawr a fydd myn mair i fod
10 mai fis divai yn dyvod
11 ai fryd arddel frawd vrddas
12 yn goresgyn pob glynn glas
13 gwisgiad praff gosgav priffyrdd
14 gwisged pob lle ai we wyrdd
15 pen ddel ynol rhyfel rhew
16 pwyll doldir pall adeildew
17 digri mai fydd crefydd grill
18 llwybre obry llei by ebrill
19 [207v] i daw ar ycha blaen dar
20 caniadav cowion adar
21 a chog ar fann pob rhandir
22 a cethlydd a hafddydd hir
25 a thon loyw yn hoyw byrnhawn
26 a glaswydd aml glwyswawn
27 ag adar aml ar goedydd
28 ag irddail ar wiail wydd
29 a chof am forfydd fevrferch
30 a chyffro saith nawtro serch
31 anhebig ir mis dig dv
32 digerydd i bawb garv
33 a bair tristlaw a byrrddydd
34 a gwynt yn ysbeiliaw gwydd
23 a niwl gwynn yn ael gwynt
24 yn diffriw cannol dyffrynt
41 ag awyr dremlwyd ledoer
42 a llywch yn gorchvddiaw y lloer
37 am pair yn llawn o anwyd
38 ar naint yn llifeiriaint llwyd
39 a dwyn swn mewn avonydd
40 a llidiaw a dvaw dydd
35 a llesgedd breyoledd braw
36 a llaesglog a chenllysglaw
43 Del iddaw rhiw addaw rhwydd
44 devddrwg am i wladeiddrwydd
dd ab gwm ai kant