{ko mis Mai}
1 Hawddamor glwysgor glasgoed
2 vis Mai haf cans may hoed
3 cadarn varchog serchog sal
4 cadwynog veistr coed anial
5 cyveill cariad ag adar
6 cof y serchogion ai car
9 a mawr vydd myn Mair i vod
10 Mai vis divai yn dyvod
11 ar vryd arddelw vrwd vrddas
12 ar oresgyn pob glynn glas
13 gwasgod praph gwisgad priphyrdd
14 gwisgodd bob lle ai we wyrdd
15 pan ddel arol rhyvel rhew
16 pill doldir pall adeildew
17 gleision vydd mav grevydd grill
18 llwybrau Mai lle bu Ebrill
19 y daw ar vchaf blaen dar
20 caniadae cywion adar
21 a chog ar vann pob rhandir
22 a chethlydd a hoywddydd hir
23 a niwl gwynn ar ol y gwynt
24 yn difryd canol dyfrynt
25 ag wybren hoyw ar byrnhawn
26 vydd a glwyswydd a glaswawn
29 a chof vydd Vorvydd veurverch
30 a chyfro saith nowtro serch
31 anhebic ir mis du du
32 a gerydd ibawb garu
33 a bair tristlaw a byrddydd
34 a gwynt i yspeiliaw gwydd
35 ag oervel a rhyvel rhew
36 a llaesgloch achenllysglew
37 ag annog llanw ag anwyd
38 ag mewn naint llifeiriant llwyd
39 a llawn son mewn avonydd
40 a llidiaw a digiaw dydd
41 ag wybren drvmled ledoer
42 ai lliw yn gorchuddior lloer
43 del iddaw rhyw addaw rhwydd
44 deuddrwg am i wladeiddrwydd
Dauid ap Gwilim