â â â Lluniau Crist a'r Apostolion
1â â â Da y lluniwyd, dull iawnwedd,
2â â â Dwyfron Mab Duw fry a'n medd.
3â â â Rhoed yn lew mewn tabl newydd
4â â â Eilun Wawr ar loywon wydd,
5â â â Er dangos i'w eurglos Ef
6â â â Y deuddeg oll a'r dioddef,
7â â â Grasus yw, ar groes y sydd,
8â â â Y dioddefai Duw Ddofydd,
9â â â A'r Drindod, cymhendod cu,
10â â â A'i ras yn un â'r Iesu.
11â â â Da y lluniwyd Iesu lwyd Iôn,
12â â â O ddysg abl, a'i ddisgyblion,
13â â â Tyfiad agwrdd, twf digabl,
14â â â Tri ar ddeg, pand teg y tabl?
15â â â Duw ei Hun sy'n y canawl,
16â â â Delw fwyn, da y dyly fawl,
17â â â A'r deuddeg, lawendeg lu,
18â â â A iasiwyd ynghylch Iesu.
19â â â Chwech o ran ar bob hanner,
20â â â Deuan' oll ynghylch Duw Nêr.
21â â â Ar yr hanner, muner mwyn,
22â â â Deau iddo, Duw addwyn,
23â â â Y mae Pedr, da y gwyr edrych,
24â â â A Ieuan wiw awen wych;
25â â â A Phylib oreuwib ras,
26â â â Gwyndroed yw, a gwiw Andras;
27â â â Iago hael, wiwgu, hylwydd,
28â â â A Sain Simon, rhoddion rhwydd.
29â â â Lliw aur, ar y llaw arall
30â â â I'r Arglwydd cyfarwydd call
31â â â Y mae Pawl weddawl wiwddoeth,
32â â â A Thomas gyweithas goeth;
33â â â Martho-, ni wnaeth ymwrthod,
34â â â -Lamëus, glaer weddus glod;
35â â â Mwythus liw, Mathëus lân,
36â â â A Iago, rhai diogan;
37â â â Sain Sud o fewn sens hoywdeg,
38â â â Llyna 'ntwy, llinynnaid teg.
39â â â Llawn o rad ynt, bellynt bwyll,
40â â â Lle y doded mewn lliw didwyll.
41â â â Ystyr doeth ystoria deg
42â â â Dydd a gafas y deuddeg
43â â â Cerdded y byd gyd ag Ef,
44â â â Cain dyddyn, cyn dioddef.
45â â â Gwedy'r loes ar groes y grog
46â â â A gafas Crist, a'i gyfog,
47â â â A'i farw, ni bu oferedd,
48â â â Hefyd, ac o'r byd i'r bedd,
49â â â Pan gyfodes Duw Iesu,
50â â â Ein iawn gâr, o'r ddaear ddu,
51â â â Dug yn ei blaid, nid rhaid rhus,
52â â â Y deuddeg anrhydeddus,
53â â â Gwir Fab Mair, gair o gariad,
54â â â I oresgyn tyddyn y Tad.