| Lluniau Crist a'r Apostolion | |
| Da y lluniwyd, dull iawnwedd, | |
| Dwyfron Mab Duw fry a'n medd. | |
| Rhoed yn lew mewn tabl newydd | |
| 4 | Eilun Wawr ar loywon wŷdd, |
| Er dangos i'w eurglos Ef | |
| Y deuddeg oll a'r dioddef, | |
| Grasus yw, ar groes y sydd, | |
| 8 | Y dioddefai Duw Ddofydd, |
| A'r Drindod, cymhendod cu, | |
| A'i ras yn un â'r Iesu. | |
| Da y lluniwyd Iesu lwyd Iôn, | |
| 12 | O ddysg abl, a'i ddisgyblion, |
| Tyfiad agwrdd, twf digabl, | |
| Tri ar ddeg, pand teg y tabl? | |
| Duw ei Hun sy'n y canawl, | |
| 16 | Delw fwyn, da y dyly fawl, |
| A'r deuddeg, lawendeg lu, | |
| A iasiwyd ynghylch Iesu. | |
| Chwech o ran ar bob hanner, | |
| 20 | Deuan' oll ynghylch Duw Nêr. |
| Ar yr hanner, muner mwyn, | |
| Deau iddo, Duw addwyn, | |
| Y mae Pedr, da y gŵyr edrych, | |
| 24 | A Ieuan wiw awen wych; |
| A Phylib oreuwib ras, | |
| Gwyndroed yw, a gwiw Andras; | |
| Iago hael, wiwgu, hylwydd, | |
| 28 | A Sain Simon, rhoddion rhwydd. |
| Lliw aur, ar y llaw arall | |
| I'r Arglwydd cyfarwydd call | |
| Y mae Pawl weddawl wiwddoeth, | |
| 32 | A Thomas gyweithas goeth; |
| Martho—, ni wnaeth ymwrthod, | |
| —Lamëus, glaer weddus glod; | |
| Mwythus liw, Mathëus lân, | |
| 36 | A Iago, rhai diogan; |
| Sain Sud o fewn sens hoywdeg, | |
| Llyna 'ntwy, llinynnaid teg. | |
| Llawn o rad ŷnt, bellynt bwyll, | |
| 40 | Lle y doded mewn lliw didwyll. |
| Ystyr doeth ystoria deg | |
| Dydd a gafas y deuddeg | |
| Cerdded y byd gyd ag Ef, | |
| 44 | Cain dyddyn, cyn dioddef. |
| Gwedy'r loes ar groes y grog | |
| A gafas Crist, a'i gyfog, | |
| A'i farw, ni bu oferedd, | |
| 48 | Hefyd, ac o'r byd i'r bedd, |
| Pan gyfodes Duw Iesu, | |
| Ein iawn gâr, o'r ddaear ddu, | |
| Dug yn ei blaid, nid rhaid rhus, | |
| 52 | Y deuddeg anrhydeddus, |
| Gwir Fab Mair, gair o gariad, | |
| I oresgyn tyddyn y Tad. | |