Testun Golygedig: 4 - Lluniau Crist a'r Apostolion

Fersiwn hwylus i'w argraffu

Lluniau Crist a'r Apostolion

Da y lluniwyd, dull iawnwedd,
Dwyfron Mab Duw fry a'n medd.
Rhoed yn lew mewn tabl newydd
4Eilun Wawr ar loywon wŷdd,
Er dangos i'w eurglos Ef
Y deuddeg oll a'r dioddef,
Grasus yw, ar groes y sydd,
8Y dioddefai Duw Ddofydd,
A'r Drindod, cymhendod cu,
A'i ras yn un â'r Iesu.

   Da y lluniwyd Iesu lwyd Iôn,
12O ddysg abl, a'i ddisgyblion,
Tyfiad agwrdd, twf digabl,
Tri ar ddeg, pand teg y tabl?
Duw ei Hun sy'n y canawl,
16Delw fwyn, da y dyly fawl,
A'r deuddeg, lawendeg lu,
A iasiwyd ynghylch Iesu.
Chwech o ran ar bob hanner,
20Deuan' oll ynghylch Duw Nêr.

   Ar yr hanner, muner mwyn,
Deau iddo, Duw addwyn,
Y mae Pedr, da y gŵyr edrych,
24A Ieuan wiw awen wych;
A Phylib oreuwib ras,
Gwyndroed yw, a gwiw Andras;
Iago hael, wiwgu, hylwydd,
28A Sain Simon, rhoddion rhwydd.
Lliw aur, ar y llaw arall
I'r Arglwydd cyfarwydd call
Y mae Pawl weddawl wiwddoeth,
32A Thomas gyweithas goeth;
Martho—, ni wnaeth ymwrthod,
—Lamëus, glaer weddus glod;
Mwythus liw, Mathëus lân,
36A Iago, rhai diogan;
Sain Sud o fewn sens hoywdeg,
Llyna 'ntwy, llinynnaid teg.
Llawn o rad ŷnt, bellynt bwyll,
40Lle y doded mewn lliw didwyll.

   Ystyr doeth ystoria deg
Dydd a gafas y deuddeg
Cerdded y byd gyd ag Ef,
44Cain dyddyn, cyn dioddef.
Gwedy'r loes ar groes y grog
A gafas Crist, a'i gyfog,
A'i farw, ni bu oferedd,
48Hefyd, ac o'r byd i'r bedd,
Pan gyfodes Duw Iesu,
Ein iawn gâr, o'r ddaear ddu,
Dug yn ei blaid, nid rhaid rhus,
52Y deuddeg anrhydeddus,
Gwir Fab Mair, gair o gariad,
I oresgyn tyddyn y Tad.