kowydd yr haf
1 hawddamor glwysgor glasgoed
2 fis mai haf kanis mae hoed
3 kadarn farchog serchog sal
4 kadwynog feisdr koed anial
5 kyfaill kariad ag adar
6 kof i farchogion ai kar
9 a mawr fydd myn mair i fod
10 mai fis difai yn dyfod
11 ar fryd ardderw frwd vrddas
12 a oresgyn pob glyn glas
13 gwasgod praff gwisgad priffyrdd
14 gwisgodd bob lle ai we wyrdd
15 pan ddel ar ol rryfel rrew
16 pill doldir pall adeildew
17 gleission fydd mav grefydd grill
18 llwybrav mai lle bv ebrill
19 y daw ar vcha blaen dar
20 kaniadav kowion adar
21 a chog ar fan pob rrandir
22 a chethlydd a hafddydd hir
23 a nvwl gwyn ar ol gwynt
24 yn diffryd kanol dyffrynt
25 ag wybren hoyw ar byrnhawn
26 [862] fydd a glwyswydd a glasswawn
29 a chof fydd i forfydd fy evrferch
30 a chyffro saith nowtro serch
31 anhebig ir mis dig dv
32 a gerydd pawb i garv
33 a bair trisdlaw a byrddydd
34 a gwynt i ysbeiliawr gwydd
35 ag oerfel a rryfel rrew
36 a llaesglod a chenllysglew
37 ag anog llanw ag anwyd
38 ag mewn naint llifeiriaint llwyd
39 a llawn son mewn afonydd
40 a llidiaw a digiaw dydd
41 ag wybren drvmled ledoer
42 ai lliw yn gorchvddior lloer
43 del iddaw rrvw addaw rwydd
44 devddrwg am i wladeiddrwydd
Dauidd ap glim ai kant