Testun Golygedig: 34 - Yr Haf

Yr Haf

Gwae ni, hil eiddil Addaf,
Fordwy rhad, fyrred yr haf.
Rho Duw, gwir mae dihiraf,
4Rhag ei ddarfod, dyfod haf,
A llednais wybr ehwybraf,
A llawen haul a'i lliw'n haf,
Ac awyr erwyr araf,
8A'r byd yn hyfryd yn haf.
Cnwd da iawn, cnawd dianaf,
O'r ddaear hen a ddaw'r haf.
I dyfu, glasu glwysaf,
12Dail ar goed y rhoed yr haf,
A gweled, modd y chwarddaf,
Gwallt ar ben hoywfedwen haf.
Paradwys, iddo prydaf,
16Pwy ni chwardd pan fo hardd haf?
Glud anianol y molaf;
Glwysfodd—wi o'r rhodd!—yw'r haf.

   Deune geirw, dyn a garaf
20Dan frig, a'i rhyfig yw'r haf.
Cog yn serchog, os archaf,
A gân ddiwedd huan haf,
Glasgain edn, glwys ganiadaf,
24Gloch osber am hanner haf.
Bangaw lais eos dlosaf,
Pwyntus hy mewn pentis haf,
Ceiliog, o frwydr y ciliaf,
28Y fronfraith hoyw fabiaith haf,
Dyn Ofydd, hirddydd harddaf,
A draidd, gair hyfaidd, yr haf.
Eiddig, cyswynfab Addaf,
32Ni ddawr hwn oni ddaw'r haf.
Rhoed i'i gyfoed o'r gaeaf
A rhan serchogion yw'r haf.
Minnau dan fedw ni mynnaf
36Mewn tai llwyn ond mentyll haf,
Gwisgo gwe lân amdanaf,
Pybyr gwnsallt harddwallt haf.
Eiddew ddail a ddadeilaf,
40Annwyd ni bydd hirddydd haf.
Lledneisferch, os anerchaf,
Llon arail hon ar ael haf.

   Gwawd ni lwydd, arwydd oeraf,
44Gwahardd ar hoywfardd yr haf.
Gwynt ni ad, gwasgad gwisgaf,
Gwŷdd ym mhwynt, gwae ddoe am haf.
Hiraeth, nid ymddiheuraf,
48Dan fy mron am hinon haf.
O daw hydref, ef aeaf,
Eiry a rhew i yrru'r haf,
Gwae finnau, Grist, gofynnaf,
52Os gyr mor rhyfyr, 'Mae'r haf?'