| Yr Haf | |
| Gwae ni, hil eiddil Addaf, | |
| Fordwy rhad, fyrred yr haf. | |
| Rho Duw, gwir mae dihiraf, | |
| 4 | Rhag ei ddarfod, dyfod haf, |
| A llednais wybr ehwybraf, | |
| A llawen haul a'i lliw'n haf, | |
| Ac awyr erwyr araf, | |
| 8 | A'r byd yn hyfryd yn haf. |
| Cnwd da iawn, cnawd dianaf, | |
| O'r ddaear hen a ddaw'r haf. | |
| I dyfu, glasu glwysaf, | |
| 12 | Dail ar goed y rhoed yr haf, |
| A gweled, modd y chwarddaf, | |
| Gwallt ar ben hoywfedwen haf. | |
| Paradwys, iddo prydaf, | |
| 16 | Pwy ni chwardd pan fo hardd haf? |
| Glud anianol y molaf; | |
| Glwysfodd—wi o'r rhodd!—yw'r haf. | |
| Deune geirw, dyn a garaf | |
| 20 | Dan frig, a'i rhyfig yw'r haf. |
| Cog yn serchog, os archaf, | |
| A gân ddiwedd huan haf, | |
| Glasgain edn, glwys ganiadaf, | |
| 24 | Gloch osber am hanner haf. |
| Bangaw lais eos dlosaf, | |
| Pwyntus hy mewn pentis haf, | |
| Ceiliog, o frwydr y ciliaf, | |
| 28 | Y fronfraith hoyw fabiaith haf, |
| Dyn Ofydd, hirddydd harddaf, | |
| A draidd, gair hyfaidd, yr haf. | |
| Eiddig, cyswynfab Addaf, | |
| 32 | Ni ddawr hwn oni ddaw'r haf. |
| Rhoed i'i gyfoed o'r gaeaf | |
| A rhan serchogion yw'r haf. | |
| Minnau dan fedw ni mynnaf | |
| 36 | Mewn tai llwyn ond mentyll haf, |
| Gwisgo gwe lân amdanaf, | |
| Pybyr gwnsallt harddwallt haf. | |
| Eiddew ddail a ddadeilaf, | |
| 40 | Annwyd ni bydd hirddydd haf. |
| Lledneisferch, os anerchaf, | |
| Llon arail hon ar ael haf. | |
| Gwawd ni lwydd, arwydd oeraf, | |
| 44 | Gwahardd ar hoywfardd yr haf. |
| Gwynt ni ad, gwasgad gwisgaf, | |
| Gwŷdd ym mhwynt, gwae ddoe am haf. | |
| Hiraeth, nid ymddiheuraf, | |
| 48 | Dan fy mron am hinon haf. |
| O daw hydref, ef aeaf, | |
| Eiry a rhew i yrru'r haf, | |
| Gwae finnau, Grist, gofynnaf, | |
| 52 | Os gyr mor rhyfyr, 'Mae'r haf?' |