Yr Haf
Gwae ni, hil eiddil Addaf,
(llifeiriant o ras) mor fyr yw'r haf.
Rhyngof a Duw, mae'n wir mai dybryd iawn,
4 oherwydd ei fod yn darfod, yw dyfod yr haf,
ac wybren fwyn [a] mwyaf digwmwl,
a haul llawen a'i liw yn yr haf,
ac awyr hwyrol tawel,
8 a'r byd yn llawen yn yr haf.
Cnwd da iawn, cnawd dianaf,
o'r ddaear hen a ddaw yn yr haf.
I dyfu (y glasu tecaf)
12 dail ar goed y rhoddwyd yr haf,
a gweled, nes fy mod yn chwerthin,
gwallt ar ben bedwen hyfryd yr haf.
Paradwys [ydyw], iddo y canaf,
16 pwy na chwardd pan fo'r haf yn hardd?
Yn ddyfal iawn y molaf;
hyfryd ei ffurf-dyna ichi rodd!-yw'r haf.
Ddwywaith cyn ddisgleiried â'r ewyn, merch a garaf
20 dan frig [y coed], a'i beiddgarwch yw'r haf.
[Y] gog yn serchog, os gofynnaf iddi,
a gân ar ddiwedd [diwrnod] heulog o haf,
aderyn glas a chain, caniatâf yn wych,
24 gloch gweddi brynhawn ar ganol haf.
[Yr] eos dlosaf huawdl ei llais,
llyfndew a balch mewn pentis haf,
ceiliog (o frwydr y ciliaf)
28 bronfraith ag iaith fywiog plentyn yr haf,
[a] dyn Ofydd (hirddydd harddaf)
sy'n mynd a dod (gair beiddgar) yn yr haf.
Eiddig, mab anghyfreithlon Addaf,
32 nid yw hwn yn poeni os na ddaw'r haf.
Rhoddwyd i'w debyg [gyfran] o'r gaeaf
ond cyfran cariadon yw'r haf.
Minnau dan fedw ni fynnaf
36 mewn tai llwyn ddim ond mentyll haf,
[a] gwisgo defnydd glân amdanaf,
clogyn gwych o harddwallt yr haf.
Dadblethaf ddail yr eiddew,
40 ni bydd annwyd yn hirddydd haf.
Merch fwyn, os cyfarchaf hi,
peth braf [fydd cael] gofalu am hon ar ddechrau'r haf.
Nid yw barddoniaeth yn llwyddo, arwydd oeraf,
44 [mae] gwaharddiad ar fardd bywiog yr haf.
Nid yw gwynt yn gadael (gwisgaf fantell)
[y] coed yn iachus, gwae ddoe am yr haf.
[Mae] hiraeth (ni chyfiawnhaf fy hun)
48 dan fy mron am dywydd braf yr haf.
Os daw yn yr hydref (gaeaf yw ef)
eira a rhew i yrru'r haf [ymaith],
gwae finnau, Grist, gofynnaf,
52 os yw'n gyrru [ymaith] mor sydyn, 'Ble mae'r haf?'