Lluniau Crist a'r Apostolion
Yn dda y darluniwyd, mewn dull cymwys,
mynwes Mab Duw uchod sy'n llywodraethu drosom.
Rhoddwyd yn wych mewn darlun newydd
4 ddelw'r Arglwydd ar goed gloyw,
er mwyn dangos i'w eglwys hardd Ef
bob un o'r deuddeg a'r dioddefaint
(graslon ydyw) sydd ar y groes
8 lle bu'r Arglwydd Dduw'n dioddef,
ynghyd â'r Drindod (gwedduster annwyl),
a'i gras yn un â'r Iesu.
Yn dda y darluniwyd yr Arglwydd Iesu bendigaid,
12 drwy fedrusrwydd deheuig, a'i ddisgyblion,
mewn gwedd rymus a ffurf ddi-fai,
tri ar ddeg ohonynt - onid hardd yw'r darlun?
Duw ei Hun sy'n y canol,
16 delw hyfryd, y mae'n llwyr deilwng o glod,
ac mae'r deuddeg, llu dedwydd a theg,
wedi eu hasio o amgylch Iesu.
Wedi eu rhannu'n chwech ar bob ochr,
20 ymgasglant i gyd o amgylch yr Arglwydd Dduw.
Ar yr ochr dde iddo,
arglwydd tirion, Dduw addfwyn,
y mae Pedr (gwyr yn iawn sut i edrych)
24 ac Ieuan wych a theilwng ei awen;
a Phylip yr â ei ras ar led mor rhagorol,
gwyn ei droed ydyw, ac Andras wych;
Iago hael lwyddiannus, un annwyl a theilwng,
28 a Sant Simon ddigrintach ei roddion.
Mewn lliw aur, ar yr ochr arall
i'r Arglwydd hollalluog doeth
y mae Pawl weddus a llawn doethineb,
32 a Tomas dirion wych;
Bartholameus, ni fu iddo ymwrthod erioed,
un amlwg a chymwys ei glod;
Mathew landeg, mewn lliw cyfoethog,
36 ac Iago, rhai di-fai bob un;
Sant Jwdas mewn arogldarth hyfryd,
dyna nhw, yn un llinynnaid hardd.
Llawn o ras ydynt (doethineb cyrhaeddbell)
40 lle y'u gosodwyd mewn lliw dilys.
Mae'r doeth yn ystyried hanes godidog
y dydd y cafodd y deuddeg
rodio'r byd gydag Ef
44 (trigfan hardd) cyn ei ddioddefaint.
Wedi'r boen a brofodd Crist
ar groes y crocbren, a'i wewyr,
a'i farw hefyd (nid yn ofer y bu hynny)
48 a'i fyned o'r byd i'r bedd,
pan atgyfododd Iesu, ein Duw,
ein cyfaill cywir, o'r ddaear ddu,
dygodd o'i blaid (ni raid ofni)
52 y deuddeg anrhydeddus,
gwir Fab Mair, gair llawn cariad,
i oresgyn teyrnas y Tad.