Aralleiriad: Paraphrase: 4 - Lluniau Crist a'r Apostolion

Lluniau Crist a'r Apostolion

Yn dda y darluniwyd, mewn dull cymwys,
mynwes Mab Duw uchod sy'n llywodraethu drosom.
Rhoddwyd yn wych mewn darlun newydd
4ddelw'r Arglwydd ar goed gloyw,
er mwyn dangos i'w eglwys hardd Ef
bob un o'r deuddeg a'r dioddefaint
(graslon ydyw) sydd ar y groes
8lle bu'r Arglwydd Dduw'n dioddef,
ynghyd â'r Drindod (gwedduster annwyl),
a'i gras yn un â'r Iesu.

Yn dda y darluniwyd yr Arglwydd Iesu bendigaid,
12drwy fedrusrwydd deheuig, a'i ddisgyblion,
mewn gwedd rymus a ffurf ddi–fai,
tri ar ddeg ohonynt — onid hardd yw'r darlun?
Duw ei Hun sy'n y canol,
16delw hyfryd, y mae'n llwyr deilwng o glod,
ac mae'r deuddeg, llu dedwydd a theg,
wedi eu hasio o amgylch Iesu.
Wedi eu rhannu'n chwech ar bob ochr,
20ymgasglant i gyd o amgylch yr Arglwydd Dduw.

Ar yr ochr dde iddo,
arglwydd tirion, Dduw addfwyn,
y mae Pedr (gŵyr yn iawn sut i edrych)
24ac Ieuan wych a theilwng ei awen;
a Phylip yr â ei ras ar led mor rhagorol,
gwyn ei droed ydyw, ac Andras wych;
Iago hael lwyddiannus, un annwyl a theilwng,
28a Sant Simon ddigrintach ei roddion.
Mewn lliw aur, ar yr ochr arall
i'r Arglwydd hollalluog doeth
y mae Pawl weddus a llawn doethineb,
32a Tomas dirion wych;
Bartholameus, ni fu iddo ymwrthod erioed,
un amlwg a chymwys ei glod;
Mathew landeg, mewn lliw cyfoethog,
36ac Iago, rhai di–fai bob un;
Sant Jwdas mewn arogldarth hyfryd,
dyna nhw, yn un llinynnaid hardd.
Llawn o ras ydynt (doethineb cyrhaeddbell)
40lle y'u gosodwyd mewn lliw dilys.

Mae'r doeth yn ystyried hanes godidog
y dydd y cafodd y deuddeg
rodio'r byd gydag Ef
44 (trigfan hardd) cyn ei ddioddefaint.
Wedi'r boen a brofodd Crist
ar groes y crocbren, a'i wewyr,
a'i farw hefyd (nid yn ofer y bu hynny)
48a'i fyned o'r byd i'r bedd,
pan atgyfododd Iesu, ein Duw,
ein cyfaill cywir, o'r ddaear ddu,
dygodd o'i blaid (ni raid ofni)
52y deuddeg anrhydeddus,
gwir Fab Mair, gair llawn cariad,
i oresgyn teyrnas y Tad.