kowydd yr haf
1 gwae ni hil eiddil addaf
2 fordwy rhad fyred yr haf
3 rho dvw gwir mae dyhiraf
4 rhag i ddarfod dyfod haf
5 A llednais wybr ehwybraf
6 Ai llawen havl ai lliw yn haf
7 Ag awyr erwyr araf
8 Ar byd yn hyfryd yn haf
9 knwd da iawn knawd dianaf
10 or ddavar hen addawr haf
11 i dyfv glasv glwysaf
12 dail ar goed yrhoed y rhaf
13 A gweled modd i gwelaf
14 gwalld ar ben hoew fedwen haf
15 pradwys iddaw y prydaf
16 pwy ni chwardd pan fo hardd haf
17 glvd anianol i molaf
18 glwysvodd wi or rhodd ywr haf
19 devne geirw dyn a garaf
20 dan frig ai rhyfig ywr haf
21 kog yn serchog os archaf
22 A gan ddechrav hvan haf
23 glasgan edn glwys ganiadaf
24 gloch osber am haner haf
25 [72r] bangaw lais eos dlosaf
26 pwyntys hyf mewn pentis haf
27 keiliog o frwydr y kiliaf
28 bronfraith hoew fabiaith haf
29 dyn ofydd hirddydd harddaf
30 adraidd gair hyfaidd yr haf
31 eiddig kyswynfab addaf
32 ni ddaw hwn oni ddaw haf
33 rhoed i gyfoed or gavaf
34 A rhan serchogion ywr haf
35 minav dan fedw ni mynaf
36 mewn tai llwyn ond mentyll haf
37 gwisgo gwe lan am danaf
38 pybyr gwnswalld harddwalld haf
39 iddaw dail i ddadeilaf
40 Anwyd ni bydd hirddydd haf
41 llednais ferch os anherchaf
42 llon ywr hwyl hon ar ael haf
43 gwawd ni lwydd arwydd oeraf
44 yw gwahardd hoewfardd yr haf
45 gwynt ni ad gwasgad gwisgaf
46 gwydd ym hwynt gwae ddyn am haf
47 hiraeth nid ymddihevraf
48 dan fy mron am hinon haf
49 [72v] odaw hydref ef avaf
50 eira arhew i yrv yr haf
51 gwae finav ddvw gofynaf
52 os gyr mor rhyfyr yw r haf
dafydd ap gwilym