Kowydd ir haf
1 Gwae fi hil eiddil addaf
2 fordwy {/r/}had fyrred yr haf
3 rho duw gwir mae dihiraf
4 rhag i ddarfod dyfod haf
5 a llednais wybr ewybraf
6 a llawen hav ai lliw /n/ haf
7 ag awyr erwyr araf
8 ar byd yn hyfryd yr haf
9 cnwd da iawn cnawd dianaf
10 or ddaear hen addaw /r/ haf
11 i dyfy glassy glwysaf
12 dail ar goed ir rhoed yr haf
13 gweled mor hardd i chwarddaf
14 gwallt ar ben hoyw fedwen haf
15 paradwys iddo i prydaf
16 pwy ni chwardd pan fo hardd haf
17 glwys anianol i molaf
18 glan fodd wi or rhodd ywr haf
19 devne geirw dyn agaraf
20 dan frig ai rhyfig ywr haf
21 y gog serchog os archaf
22 a gan ddiwedd hvan haf
23 glas gain edn glwys ganiadaf
24 gloch osber am hanner haf
25 bangaw lais eos dlosaf
26 bwyntys hy dan bentis haf
27 ar ceiliog frwydr i coyliaf
28 y fronfraith hoyw fabiaith haf
29 dyn ofydd hirddydd harddaf
30 adraidd gair hyfaidd yr haf
31 eiddig cyssynfab addaf
32 ni ddawr hwn er na ddaw /r/ haf
33 [275] rhoed i gyfoe[ ]
34 a rhan serchogion yw[ ]
35 minav dan fedw ni mynaf
36 mewn tai llwyn ond mentill haf
37 gwisgo gwe lan admanaf
38 gwnswallt bybr harddwallt haf
39 euddew ddail a ddaddolaf
40 anwyd ni bydd hirddydd haf
41 lledneisferch os anherchaf
42 llon arail honn ar ael haf
43 gwawd ni lwydd arwydd oeraf
44 gwahardd ar hoywfardd yr haf
45 gwynt ni ad gwasgad gwisgaf
46 gwydd ym hwnt gwae ddoe am haf
47 hiraeth nid ymddihevraf
48 dan fy mron am hinon haf
49 o daw hydref ef ayaf
50 eyry {a} rhew i yrry /r/ haf
51 gwae fine crist gofynaf
52 os gyrr mor rhyfyr ywr haf
dd ap gwylym ai cant